Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 9 Mai 2018.
A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad manwl iawn ar y gwaith a wnaethant o'u hymchwiliad? Rwyf am fanteisio ar y cyfle i siarad yn fwy eang ynglŷn â phrentisiaethau, cyn gwneud rhai sylwadau y credaf eu bod, mae'n debyg, yn berthnasol i argymhellion 6 a 7 ynglŷn â chyflog prentisiaid.
Mae'n amlwg i mi y gall hyfforddiant wedi'i strwythuro'n dda sicrhau'r gweithluoedd medrus sydd eu hangen arnom, ac sy'n parhau i fod yn hanfodol i iechyd yr economi mewn cymunedau ledled Cymru yn y dyfodol, yn enwedig ar gyfer gwella cyfleoedd yn ein cymunedau yn y Cymoedd. Mae cyfleoedd prentisiaeth yn allweddol ar gyfer llawer o economïau lleol, a gwn eu gwerth ym Merthyr Tudful a Rhymni. Mae gan gwmnïau fel General Dynamics Land Systems UK ym Mhentre-bach hanes cryf a llwyddiannus mewn perthynas â phrentisiaethau, gan weithio'n agos gyda choleg Merthyr i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn darparu eu teulu Ajax arloesol o gerbydau i fyddin Prydain. Yn ne Cymru, mae General Dynamics Land Systems UK ar hyn o bryd yn darparu dwy brentisiaeth bedair blynedd mewn gweithgynhyrchu mecanyddol a chymorth technegol peirianyddol. Bydd eu 12 o brentisiaid presennol—nifer sy'n tyfu o flwyddyn i flwyddyn—yn cael tystysgrif genedlaethol NVQ lefel 3 ac uwch yn eu meysydd, ac mae'r cwmni hefyd yn ehangu i ddarparu prentisiaethau mewn meysydd heblaw peirianneg megis ansawdd a chyfleusterau. Mae hyn yn dangos ymrwymiad clir gan y cwmni i'r etholaeth, i'w weithwyr, ac yn arbennig, i bobl ifanc, a dyna'r newyddion da am brentisiaethau.
Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, mae arolwg cyflogau prentisiaethau 2016, a wnaed gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, yn cyfeirio at nifer o faterion a ddylai fod o bwys i ni, ac mae hyn yn cysylltu'n uniongyrchol ag argymhellion 6 a 7 ynghylch lefelau cyflog a chostau byw ar gyfer prentisiaid. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn y data ynghylch cydymffurfio â'r isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw cenedlaethol. Er ei fod yn cydnabod materion sy'n codi o fethodoleg a newidiadau yn y cyfraddau sy'n gymwys, mae'r arolwg yn nodi bod prentisiaid ar lefel 2 a 3, mewn 14 y cant o achosion yng Nghymru, yn cael llai na'r isafswm cyflog priodol neu'r cyflog byw cenedlaethol, ac mae'n rhaid bod hynny'n peri pryder. Yn ogystal, amlygodd yr arolwg fod cyfran y prentisiaid nad yw eu cyflogau'n cydymffurfio yn cynyddu ymhlith rhai rhwng 19 a 20 oed yn ail flwyddyn eu prentisiaeth—achos pryder pellach.
Wrth gwrs, y cyflogwr sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr fod prentisiaid yn cael eu trin yn deg, ond mae'n amlwg fod angen i fusnesau ddeall y cyfrifoldebau hynny. Canfu ymchwil gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru fod un o bob pump cyflogwr heb glywed am yr isafswm cyflog i brentisiaid ac nid oedd dros 40 y cant yn gwybod bod angen talu am hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith. Ond yn bwysicaf i mi, mae'r arolwg yn amlygu pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth y DU yn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bwysig o'r fath, ac er fy mod yn cefnogi'r cynigion am gymorth ychwanegol i brentisiaid a nodwyd yn yr adroddiad, rhaid inni ddisgwyl i Lywodraeth y DU gynnal yr isafswm cyflog a'r cyflog byw yn gadarn gan fod hynny, yn ei dro, yn sicrhau tegwch i bawb, gan gynnwys prentisiaid.
Yn ddefnyddiol, argymhellodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith gamau gweithredu mewn tri maes allweddol: yn gyntaf, ynghylch codi ymwybyddiaeth cyflogwyr fel bod yr holl gyflogwyr yn ymwybodol o'r rheolau; yn ail, gwybodaeth glir yn nodi hawliau i isafswm cyflog ar ddechrau prentisiaeth a mwy o gyfrifoldeb ar ddarparwyr hyfforddiant i sicrhau bod hyn yn digwydd; ac yn drydydd, gwell gorfodaeth a chymorth ar gyfer prentisiaid pan fo problem. Buaswn yn ychwanegu yma fy mod yn credu hefyd fod yna gyfrifoldeb ar undebau llafur i roi blaenoriaeth i drefnu a rhoi cymorth i brentisiaid.
Oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod y gall prentisiaethau fod yn llwybr cyffrous i yrfa a swydd lwyddiannus, a gwyddom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i agenda gwaith teg. Felly, gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno y dylai comisiwn gwaith teg newydd edrych ar ganfyddiadau'r arolwg y bûm yn dyfynnu ohono ac y dylid edrych arno hefyd wrth weithredu'r contract economaidd newydd. Rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut, wrth symud ymlaen, y gall yr ymchwil helpu hefyd i roi mwy o siâp i'n rhaglen brentisiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n ymgymryd â phrentisiaethau yn cael eu trin yn deg. Yn olaf, gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwyso am orfodi cyflogau prentisiaid yn fwy cadarn. Mae'r rhain yn hawliau yr ymladdwyd yn galed i'w cael ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth ganiatáu iddynt gael eu diystyru o dan ei gwyliadwriaeth.