5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:15, 9 Mai 2018

Rydw i am edrych ar dri maes yn benodol—gan edrych ymlaen at glywed sylwadau’r Gweinidog ar y tri maes yma—gan ddechrau efo argymhelliad 1, sydd yn ymwneud â rhagfarn ar sail rhywedd. Yn anffodus, wrth gwrs, nid ydy rhai o’r casgliadau yn yr adroddiad yma yn rhai newydd i ni, ac yn sicr, yn hydref 2012, fe gododd y Pwyllgor Menter a Busnes y pwysigrwydd o fynd i’r afael â rhagfarn ar sail rhywedd er mwyn ehangu mynediad. Fe dderbyniwyd argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru nodi a monitro’r gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn prentisiaethau, y rhesymau am y gwahaniaethau hynny, ac archwilio’r posibilrwydd o bennu targedau ar gyfer gwella’r gyfradd recriwtio ar gyfer prentisiaid benywaidd yn y sectorau â blaenoriaeth o safbwynt economaidd.

Fe dderbyniwyd hefyd, nôl yn 2012, yr argymhelliad y dylid darparu hyfforddiant cydraddoldeb rhywiol ar gyfer cynghorwyr gyrfaoedd a gweithwyr addysgu proffesiynol i gywiro unrhyw stereoteipio yn y cyngor y maen nhw’n ei roi i bobl ifanc. Ond y tristwch ydy, wrth gwrs, dros bum mlynedd ers cyhoeddi yr adroddiad hwnnw a derbyn yr argymhellion hynny, dim ond 1.6 y cant o brentisiaid adeiladu a 3.1 y cant o brentisiaid peirianneg sydd yn fenywod, o’u cymharu â 96 y cant o brentisiaid gofal plant, dysgu a datblygu a 91 y cant o brentisiaid trin gwallt yn ferched. Felly, mae hyn yn codi cwestiynau ynglŷn â’r camau sydd wedi’u cymryd gan eich Llywodraeth chi dros y pum mlynedd diwethaf i fynd i’r afael â hyn, ac mae o hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn ag a fyddwch chi wir yn gweithredu ar yr argymhellion sydd wedi cael eu nodi gan y pwyllgor.

Mi wnaethom ni drafod y bore yma, yn y pwyllgor cydraddoldeb, y rôl y gall y contract economaidd gael wrth ei ddefnyddio er mwyn ceisio dileu rhai o’r stereoteipiau yma, ac er, efallai, nad ydy’r pwyllgor wedi edrych ar y mater yma, tybed beth ydy eich sylwadau chi. A oes modd defnyddio’r contract yma yn y maes prentisiaethau hefyd er mwyn ceisio dileu’r stereoteipio ar sail rhywedd?

Yn ail, rydw i'n edrych ar agwedd y Gymraeg a phrentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Unwaith eto, nid ydy’r bwlch yn y galw tebygol am brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r gallu i gwrdd â hwnnw—. Nid ydy hynny’n annisgwyl ychwaith. Mae nifer y prentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy’r Gymraeg wedi bod yn eithriadol o isel ers blynyddoedd. Yn 2014-15, dim ond 0.3 y cant, neu 140 prentisiaeth, a oedd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg allan o ymhell dros 48,000 o brentisiaethau. Ymateb Llywodraeth Cymru i feirniadaeth am y sefyllfa hon oedd newid y ffordd y mae’r ystadegau yn cael eu cyflwyno, gan gyhoeddi ffigwr ar gyfer nifer y prentisiaethau â rhywfaint o ddysgu dwyieithog—ac mi allai hynny olygu cyn lleied â chyflwyno un adnodd dysgu dwyieithog i’r myfyrwyr. Mae'n hollol amlwg bod yn rhaid inni fynd i’r afael â’r sefyllfa yma er mwyn cyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a hefyd i lenwi bylchau sgiliau mewn meysydd megis gofal cymdeithasol, lle mae angen siaradwyr Cymraeg i ddarparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg.

Mae’r penderfyniad i ymestyn cyfrifoldebau’r coleg Cymraeg i gynnwys colegau addysg bellach a’r sector dysgu yn y gweithle i’w groesawu, ond mae angen cyllideb ddigonol ar gyfer gwneud y gwaith ac er mwyn cynyddu'r gyfran o brentisiaethau sy'n cael eu cyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn olaf, yn sydyn: er nad ydy'r pwyllgor yn crybwyll yr ardoll brentisiaethau o safbwynt yr heddlu—maddeuwch imi am grwydro i mewn i'r maes yna—mae o'n destun consérn achos un flwyddyn ar ôl i'r ardoll brentisiaethau gael ei chyflwyno, mae'n dal yn aneglur pwy sydd â chyfrifoldeb dros yr ardoll. Mae fy nghyfaill Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi derbyn gwybodaeth groes—gwybodaeth gennych chi ei fod o'n fater wedi'i gadw yn ôl yn y Deyrnas Gyfunol, a gwybodaeth gan y Gweinidog heddlu hefyd, sy'n dweud nad ydyn nhw'n gyfrifol am hyfforddi'r heddlu. Felly, nid oes yna neb yn cymryd y cyfrifoldeb dros hyfforddi'r heddlu, ac nid oes neb yn cymryd y cyfrifoldeb dros y prentisiaethau, a fyddai'n fuddiol iawn, wrth gwrs, yn y maes yma. Felly, buaswn i'n hoffi defnyddio'r cyfle jest i ofyn i Lywodraeth Cymru egluro beth sy'n digwydd efo prentisiaethau'r heddlu a'r ardoll ar gyfer hynny. Diolch.