Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 9 Mai 2018.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i siarad yn y ddadl hon heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r pwyllgor a'i holl aelodau am yr adroddiad pwysig hwn. Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, bydd yr Aelodau'n gwybod fod gennyf ddiddordeb mawr mewn prentisiaethau, ar ôl bod yn brentis fy hun cyn dod i'r Cynulliad. Gyda hynny mewn golwg, gallwn dreulio amser hir heddiw yn siarad am y mater hwn, ond oherwydd prinder amser, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar dri phrif fater: un, hyfforddwyr prentisiaid; dau, awtomatiaeth; ac yn olaf, deallusrwydd emosiynol.
Yn 17 oed, ar ddechrau'r pedwerydd Cynulliad—i'r Aelodau sydd â diddordeb—dechreuais fy mhrentisiaeth mewn cwmni lleol ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Rhoddodd y brentisiaeth honno gyfle imi weithio, dysgu ac ennill cyflog, ac rwy'n falch fod gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o safon uchel yng Nghymru yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Wedi dweud hynny, gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych o ddifrif ar fater hyfforddwyr. Pan fydd prentis wedi gwneud ei amser, gwyddom ei bod hi'n cymryd ychydig flynyddoedd i gael y profiad perthnasol fel crefftwr medrus sy'n darparu gwasanaeth llawn. Rwyf am gymryd y cyfle hwn i dalu teyrnged i John Steele, a ymddeolodd o fy ngweithle'n ddiweddar—y gweithle lle'r oeddwn yn ffodus i wneud fy mhrentisiaeth. Ef oedd fy mentor, fy ffrind, ac mae ei ymddeoliad yn codi cymaint o gwestiynau pwysig ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gan gwmnïau ledled Cymru bobl â sgiliau a phrofiadau perthnasol i allu hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid.
Mae awtomatiaeth yn fater mawr arall a fydd yn effeithio ar y math o brentisiaethau y bydd eu hangen arnom yn y dyfodol. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ystadegau diweddar a welwyd yn ddiweddar ar y mater hwn. Roeddent yn datgelu y bydd cyfran y swyddi sydd mewn perygl yn sgil awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar yng Nghymru yn amrywio o 26 y cant i dros 36 y cant. Tynnwyd sylw at fy etholaeth i yn Alun a Glannau Dyfrdwy fel yr etholaeth lle roedd y ganran uchaf o swyddi mewn perygl yn sgil awtomeiddio, ar 36 y cant. Nawr, rwy'n cytuno'n llwyr â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru pan ddywed, yn hytrach na gofyn beth fydd awtomatiaeth yn ei ddwyn oddi wrthym, y dylem fod yn gofyn sut y gall awtomatiaeth ein helpu i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a llesiant ein bywydau a'n cymunedau. Dylem groesawu awtomatiaeth fel cyfle economaidd enfawr, a sicrhau ar yr un pryd fod gennym strategaeth ar gyfer ymdrin â risgiau'r technolegau hyn.
Ar y pwynt hwn yn awr, mae'n bwysig cydnabod a thynnu sylw at bwysigrwydd deallusrwydd emosiynol. Nawr, rydym oll wedi bod yno: rydych yn archebu tocynnau i ddigwyddiad ar-lein, rydych chi bron â gorffen, ond mae'r sgrin ddiflas honno'n dod i'r golwg a gwneud i chi deipio llythrennau a rhifau niwlog, ar y diwedd un, mewn blwch. Nawr, cam yw hwn, fel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod, i sicrhau mai person yn prynu tocyn i'ch hoff gyngerdd neu gêm bêl-droed ydych chi, ac nad rhaglen gyfrifiadurol a ddefnyddir i fachu llwyth o seddi. Nawr, y lefel honno o ddeallusrwydd emosiynol a fydd yn sicrhau nad yw'r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn waeth eu byd o ganlyniad i awtomeiddio. Mae arnom angen canfod pwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu taro galetaf gan awtomatiaeth, a datblygu camau wedi'u targedu i helpu'r bobl hynny. Rhaid i hynny gynnwys cymorth ariannol a seicolegol, yn ogystal â gwella sgiliau'r gweithlu.
Yn olaf, i gloi, rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau ar draws y Siambr yn ogystal â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym brentisiaethau medrus o safon uchel, ac sy'n talu'n dda, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Diolch.