Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 9 Mai 2018.
Croesawaf adroddiad y pwyllgor, sy'n ymdrin â materion yn ymwneud ag un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru: sut i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru. Mae arolwg economaidd chwarterol Siambr Fasnach Prydain ar gyfer chwarter terfynol 2017 yn dangos bod prinder sgiliau yn cyrraedd lefelau critigol. Mae cwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu a'r sector gwasanaethau yn nodi anawsterau recriwtio. Maent yn honni bod canlyniadau'r arolwg yn pwysleisio'r angen i roi hwb i'r economi drwy fynd i'r afael â rhwystrau i dwf, yn arbennig y bwlch sgiliau cynyddol sy'n llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i ddatblygu. Wrth wneud sylwadau ar y canlyniadau, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambr Fasnach Prydain:
Prinder sgiliau a llafur fydd y llyffethair mwyaf i fusnes yn 2018, gan mai pobl sy'n gwneud i fusnesau weithio yn y bôn.
Mae meddu ar sgiliau yn gallu ychwanegu'n fawr at botensial ennill cyflog y gweithwyr yng Nghymru oherwydd bod gweithwyr medrus mor brin yma. Rwy'n pryderu bod Llywodraeth Cymru yn methu hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gamau cynnar. Mae gwybodaeth gyrfaoedd mewn ysgolion am brentisiaethau yn hanfodol os ydym yn mynd i gynyddu'r cyflenwad o weithwyr hyfforddedig fel sydd eu hangen yn daer ar ein heconomi. Mae'r pwyllgor yn nodi problemau gydag ansawdd ac argaeledd cyngor gyrfaoedd, gan gynnwys diffyg cynghorwyr gyrfaoedd hyfforddedig, a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgol. Mae ysgolion hefyd yn arddangos tueddiad i annog disgyblion i astudio pynciau i Safon Uwch. Mae angen i sefydliadau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith gael gwell mynediad at ysgolion er mwyn ehangu'r ystod o gyngor a gaiff pobl ifanc am eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Drwy wneud hynny, rwy'n hyderus y bydd hyn yn mynd beth o'r ffordd i fynd i'r afael â'r lefelau sy'n peri pryder o anghydbwysedd rhwng y rhywiau a diffyg cynrychiolaeth pobl anabl a welwn mewn prentisiaethau yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ar ôl annog pobl ifanc i wneud prentisiaethau, rhaid inni edrych yn awr ar lefel y cymorth a ddarparwn iddynt. Ceir tystiolaeth sylweddol fod rhwystrau ariannol, megis costau trafnidiaeth, yn datgymell ac mewn rhai achosion, yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau. Mae'r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid ar y cyflogau isaf neu greu consesiynau eraill, megis cardiau bws neu reilffyrdd rhatach fel sydd eisoes yn bodoli i rai myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ym mis Hydref y llynedd, addawodd y Ceidwadwyr Cymreig roi teithio am ddim ar y bysiau a thraean oddi ar bris tocynnau trên i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Jeremy Corbyn gynlluniau i roi teithio am ddim ar fysiau i bobl dan 25 oed yn Lloegr. Felly, byddai'n eironig yn wir pe baem ni yng Nghymru, yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig lle mae Llafur mewn grym, yn gwadu'r cymorth sydd ei angen ar ein pobl ifanc i gael mynediad at y sgiliau sydd eu hangen i adeiladu ein heconomi yn y dyfodol.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau am sgiliau digidol yng Nghymru hefyd. Mae bron i hanner yr holl fusnesau bach yng Nghymru yn brin o'r sgiliau busnes digidol a allai eu helpu i wella cynhyrchiant ac arbed costau. Un o'r rhwystrau sy'n dal cwmnïau yng Nghymru yn ôl rhag gwneud mwy ar-lein yw prinder staff sydd â sgiliau digidol. Ddirprwy Lywydd, credaf fod yr argymhelliad yn yr adroddiad hwn yn gam mawr posibl ymlaen i roi hwb i nifer y prentisiaethau a darparu'r gweithlu medrus sydd ei angen ar Gymru yn awr ac yn y dyfodol.
Yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dysgu hedfan, a gwn fod pobl 20 mlynedd yn ôl yn arfer mynd am hyfforddiant galwedigaethol i gael eu trwydded hedfan. Rwy'n eithaf sicr fod yn rhaid bod nifer o gwmnïau awyrennau'r byd yn cyflogi'r peilotiaid hynny, y rhai nad ydynt yn gwneud pethau eraill—daethant yn beilotiaid ac maent yn gwasanaethu eu gwledydd. Pe bai'r Ceidwadwyr yn dod i rym, mae un neu ddau o feysydd y byddwn yn sicr o'u gwneud: rhywedd, oedran a NEET—ddim mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Fe wnawn yn siŵr y bydd y bobl hyn yn dysgu ar gyfer cyflawni eu potensial llawn mewn bywyd yn ôl eu doniau. Rhaid inni gael rhyw fath o system yn yr adran addysg i wneud yn siŵr fod ein plant yn tyfu ac yn cyflawni eu potensial llawn mewn bywyd, yn ôl eu dawn a'u gallu mewn bywyd, ni waeth a ydynt yn bobl anabl neu heb fod yn anabl, yn ddynion neu'n fenywod, yn ifanc neu'n hen. Byddant i gyd yn gyfartal yng ngolwg y Blaid Geidwadol. Diolch.