5. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 9 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:36, 9 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o'r pwyllgor, roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac fe gadwaf fy nghyfraniad yn fyr a chanolbwyntio ar ychydig o argymhellion. Yn gyntaf, argymhelliad 6, sy'n galw am gronfa galedi gystadleuol ar gyfer prentisiaid, a hefyd am ymestyn consesiynau megis cynlluniau teithio i brentisiaid hefyd. Mae hynny, rwy'n teimlo, yn cysylltu ag argymhelliad 7, sy'n galw am sefydlu grant cyffredinol i dalu am gostau byw ar gyfer pob prentis.

Credaf eu bod yn ymdrin â gwahanol agweddau ar yr un her, sef sicrhau cydraddoldeb rhwng prentisiaid a myfyrwyr, rhwng y galwedigaethol a'r academaidd. Roedd y dystiolaeth a gawsom gan dystion ar hyn yn glir iawn. Roedd Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu, partneriaeth sgiliau rhanbarthol de-orllewin a chanolbarth Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach oll yn cytuno bod angen gwneud llawer mwy o waith yn y maes hwn. Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod cymorth i fyfyrwyr prifysgol yn seiliedig ar sicrhau ei bod yn gyfwerth â'r cyflog byw, ond nid yw hynny'n wir am gyllid ar gyfer prentisiaethau.

Yn amlwg, mae caledi ariannol yn rhwystr sy'n atal pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig rhag manteisio ar brentisiaethau. Felly, mae angen darparu er mwyn sicrhau nad rhwystrau economaidd yw'r unig ffactor sy'n datgymell ymgeiswyr posibl. Ar ben hynny, fel y dywedodd eraill, mae angen hyrwyddo parch cydradd rhwng astudiaethau addysg uwch a phrentisiaethau. Mae gwledydd fel yr Almaen yn gwneud hyn mor dda a phe gallem gael y newid hwnnw yn y wlad hon, byddai'n beth gwych.

Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y ddau argymhelliad mewn egwyddor a bod gwaith yn mynd rhagddo. Edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf gan Weinidogion yn y dyfodol fel y gallwn sicrhau bod ein prentisiaid yn cael bargen deg ac yn cael parch cydradd.

Hoffwn gloi yn fyr drwy ystyried argymhelliad 3. Mae'n nodi ein canfyddiad y dylid darparu mwy o gymorth i gyflogwyr fel y gallant godi ymwybyddiaeth ynglŷn â manteision prentisiaethau ymysg trawstoriad ehangach o bobl ifanc. Yn bersonol, teimlaf ei bod yn anffodus fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn. Nodaf yr amrywiaeth o fecanweithiau y maent ar hyn o bryd yn eu defnyddio i sicrhau bod gwybodaeth ar gael am fanteision prentisiaethau a'r amryw o ddyfeisiau ymgysylltu a amlinellir yn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 14 hefyd.

Fodd bynnag, o fy nghefndir mewn addysg uwchradd, gwn yn rhy aml o lawer nad yw ein pobl ifanc yn llwyr ymwybodol o'r ystod o brentisiaethau sydd ar gael mewn gwirionedd, neu'r manteision y gallant eu cynnig er mwyn datblygu eu gyrfa. Yn aml, mae'r cyfrifoldeb am gyfleu'r neges hon ar athrawon. Gyda chymaint o bwysau eisoes ar amserlen yr ysgol, nid yw bob amser yn bosibl i athrawon ennill yr arbenigedd sydd ei angen arnynt i ddeall manteision prentisiaethau modern, ac felly i'w hyrwyddo'n ddigonol. Does bosibl nad yw cyflogwyr sy'n cyflogi prentisiaid, a allai fod yn gyn-brentisiaid eu hunain, mewn sefyllfa well i hyrwyddo'r cyfleoedd yn y llwybr gyrfa hwn; i esbonio'r manteision a'r heriau sy'n gynhenid wrth ddewis llwybr nad yw'n arwain at brifysgol; a hefyd i nodi posibiliadau llwyddiant yn y maes hwnnw hefyd, fel ein cyd-Aelod Jack Sargeant. Felly, buaswn yn gobeithio y gellid gwneud mwy o waith yn y maes hwn. Diolch.