Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 9 Mai 2018.
Rydym yn croesawu ymateb da Llywodraeth Cymru ar y cyfan i'n hadroddiad, er ein bod yn siomedig wrth gwrs ei bod wedi dewis gwrthod rhai o'n hargymhellion. Roedd ymchwiliad y Pwyllgor Menter, Arloesedd a Sgiliau i'r modd y darparwn brentisiaethau yng Nghymru yn dangos bod consensws bellach ar draws y sector diwydiant a'r sector addysg fod prentisiaethau, ers llawer gormod o amser, wedi bod yn elfen a esgeuluswyd o'n proses wella sgiliau. Wrth gwrs, rydym bellach yn wynebu canlyniadau'r esgeulustod yn y prinder o weithwyr â chymwysterau addas sydd eu hangen ar bob lefel yn ein sector busnes a'r sector cyhoeddus. Mae'n braf nodi, fodd bynnag, fod darparwyr addysg, ar lefel addysg bellach ac addysg uwch, bellach yn croesawu'r rhan hanfodol hon o'n sylfaen economaidd, ac mewn gwirionedd mae'n ymddangos bod newid pwyslais mawr ar sicrhau bod cymwysterau'n fwy perthnasol i anghenion busnes.
Er mwyn lliniaru'r anghydbwysedd hwn rhwng anghenion busnes a'r sector cyhoeddus a gweithlu medrus addas, rhaid cael mwy o bwyslais ar wella sgiliau seiliedig ar waith, ac ehangu'r cyfleusterau technegol yn ein colegau fel eu bod yn cyd-fynd yn well ag anghenion y gweithle. Mae'r dystiolaeth a gasglodd y pwyllgor yn awgrymu bod yna sylfaen gref o brentisiaethau yng Nghymru, ond ceir diffygion amlwg mewn rhai meysydd, yn enwedig o ran prentisiaethau ar gyfer pobl anabl, sy'n dangos ffigurau gwaeth o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr. Rhaid i hwn fod yn faes blaenoriaeth uchel i bawb sy'n ymwneud â darparu prentisiaethau. Gwelsom hefyd na cheir darpariaeth ddigonol o brentisiaethau iaith Gymraeg, lle yr ymddengys bod prinder staff addysgu â'r cymwysterau addas yn y fframweithiau prentisiaethau cyfrwng Cymraeg.
Un maes hanfodol bwysig lle y nodwyd diffygion gan ein hymchwiliad oedd y ddarpariaeth o wybodaeth a llwybrau digonol yn ein hysgolion mewn perthynas â chyfleoedd prentisiaeth. Bellach, mae'n ddyletswydd ar yr holl asiantaethau, ysgolion, cydweithwyr a sefydliadau addysg bellach i hyrwyddo'r llwybrau i sgiliau galwedigaethol fel dewis amgen yn lle cymwysterau academaidd. Yn gysylltiedig â hyn rhaid sicrhau mwy o ymwneud rhwng busnesau a'r sector addysgol. Nododd ein hymchwiliad fod Llywodraeth Cymru yn rhoi polisïau ar waith i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Er mwyn sicrhau bod gennym y niferoedd perthnasol yn dilyn llwybr prentisiaeth, mae'n gwbl hanfodol fod yr holl asiantaethau cysylltiedig yn cychwyn ar strategaeth i sicrhau bod parch cydradd rhwng cyflawniad galwedigaethol ac academaidd. Fodd bynnag, fel y mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn nodi, ni ellir sicrhau parch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd heb gyllid cydradd. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi sylw i hyn fel mater o flaenoriaeth.
I gloi, mae'r bartneriaeth rhwng addysg a busnes yn hanfodol i sicrhau bod gennym y sylfaen sgiliau gywir i yrru economi Cymru yn ei blaen yn yr unfed ganrif ar hugain.