Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 9 Mai 2018.
Rydych yn cyfeirio, fel y gwneuthum wrth gloi, at adroddiad Reform, ac wrth gwrs, roedd hwnnw'n llawdrwm ar Lywodraeth y DU, ond hefyd gwnaeth gyfres o newidiadau arfaethedig, a dywedodd mai dull Llywodraeth y DU, mewn egwyddor, yw'r dull cywir a phe bai'r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith, byddai'n gwneud pethau'n iawn am flynyddoedd i ddod. Pam felly na wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwnnw yng nghyd-destun y ddarpariaeth drawsffiniol yng Nghymru, sydd mor hanfodol i gynifer o filoedd o ddysgwyr ifanc?