Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 9 Mai 2018.
Mae llu o resymau pam nad ydym yn mynd i ddilyn esiampl Lloegr. Mae 40 y cant o ostyngiad yn un o'r rhesymau, ond hefyd rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar ansawdd felly nid wyf yn bwriadu dysgu unrhyw wersi gan Loegr ar hyn.
Credaf mai un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw yw tlodi mewn gwaith, ac mae'n ffaith bod 40 y cant o'r bobl sy'n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru mewn gwaith. Felly, y broblem sy'n wynebu llawer o bobl, yn enwedig y rhai sydd heb lawer o gymwysterau, yw nad yw gwaith am dâl isel yn darparu cam tuag at swyddi ar gyflogau uwch ac mae pobl yn cael eu caethiwo ar gyflogau isel.
Dawn, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod llawer o broblemau yn y maes hwn mewn perthynas â chyflogau isel. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cadw llygad agos iawn ar gydymffurfiaeth mewn perthynas â'r isafswm cyflog, ac mae'n bwynt da y dylem sicrhau bod y comisiwn gwaith teg yn rhoi sylw i'r mater hwn, ac rwy'n ymrwymo i ysgrifennu at y comisiwn gwaith teg i fynd i'r afael â'r mater hwn pan gaiff ei sefydlu.
Rydym yn credu, fel Llywodraeth, mai ein cyfrifoldeb ni yw helpu pobl i dorri allan o'r cylch o sgiliau isel a chyflogau isel a chynorthwyo pobl i gael prentisiaethau lefel uwch ac i helpu pobl ar yr ysgol o gyfleoedd. Yr hyn a wyddom yw y bydd heriau'r dyfodol yn wahanol i rai'r gorffennol, a hoffwn gytuno'n llwyr â Jack Sargeant pan ddywed mai'r hyn sydd ei angen arnom yw ymateb gwahanol mewn oes o dechnoleg newydd ac awtomeiddio sy'n mynd i newid natur y gweithle. A dyna pam rydym yn canolbwyntio ar ehangu nifer y prentisiaethau lefel uwch a pham rydym mewn sefyllfa yn awr lle rydym wedi cynnull panel o arbenigwyr i edrych ar sut y bydd awtomatiaeth a thechnoleg ddigidol yn effeithio ar yr economi yn y dyfodol. Ond rwy'n derbyn y pwynt—ac nid wyf yn fodlon gyda'r pwynt—nad ydym, ar hyn o bryd, fel yr awgrymodd Vikki Howells, wedi cyrraedd cam lle mae gennym barch cydradd rhwng cymwysterau academaidd a chymwysterau galwedigaethol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cadw ein ffocws ar hynny yn fy marn i.
Ceir adolygiad gan Lywodraeth y DU o addysg ôl-18, a byddwn yn aros am adroddiad y panel arbenigol hwnnw. Ac ar y pwynt hwnnw, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn adolygu wedyn, yn benodol, y gronfa galedi y mae gennym ddiddordeb mewn edrych arni a theithio am brisiau gostyngol i bobl ifanc. Felly, mae'r pethau hynny'n gwbl bendant ar ein hagenda.
Ein nod yw dyblu nifer y prentisiaethau uwch gyda ffocws ar STEM a chreu cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol sy'n mynd i ysgogi gwaith arloesol, creu cynnyrch newydd a chodi lefelau cynhyrchiant. Credaf fod Joyce yn llygad ei lle: mae yna lawer rydym wedi'i wneud eisoes mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth. Peirianwyr sifil, maent yn gwneud gwaith gwych yn mynd i mewn i ysgolion, fel yr awgrymodd. Ond credaf fod gan Vikki bwynt y gallem wneud mwy, yn ôl pob tebyg, mewn perthynas ag addysgu athrawon am brentisiaethau.
Rydym hefyd wedi datblygu llwybrau newydd i brentisiaethau drwy gyflwyno'r gradd-brentisiaethau o fis Medi ymlaen. Fel y clywsoch, rydym yn gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddatblygu'r gradd-brentisiaethau hynny. Rydym am gael hyn yn iawn, felly nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar niferoedd ac nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar dargedu dyddiadau. Credaf mewn gwirionedd ei bod hi'n rhy gynnar yn ôl pob tebyg i ni edrych ar radd Meistr ar y lefel hon. Gadewch i ni gael y radd-brentisiaeth yn iawn cyn inni symud ymlaen at y radd Meistr.
Gadewch imi fod yn glir mewn perthynas â phrentisiaethau hefyd ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo cynwysoldeb, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Ac ar fater cydraddoldeb rhwng y rhywiau, rydym wedi cyfarwyddo darparwyr prentisiaethau i roi cymorth ychwanegol a mentora i fynd i'r afael â stereoteipio ar sail rhyw, er enghraifft drwy annog mwy o fenywod i ymuno â'r proffesiwn adeiladu. Buom hefyd yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i hybu—