Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaid imi ddweud bod y ddadl hon yn ddirgelwch i mi braidd, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr beth y byddwn yn ei glywed heddiw nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i glywed o'r blaen, gan gynnwys rhai o'r materion lle mae gennym rywfaint o gydymdeimlad ag UKIP mewn gwirionedd. Mae egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth eisoes wedi'u trafod yn y Cynulliad hwn. Cymerwyd tystiolaeth gan y pwyllgor iechyd y mae'r llefarydd UKIP yn aelod ohono, wrth gwrs, a lle y trafodwyd rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn y cynnig a'u hadlewyrchu yn yr adroddiad Cyfnod 1. Yng Nghyfnod 2, cafodd ein gwelliant ni am fan cychwyn ar 50c ei wrthod, ac mae'n annhebygol iawn o godi eto, rwy'n tybio. Felly, credaf fod pwynt (c) y cynnig yn ddiystyr mewn gwirionedd. Y lle i fod wedi gwneud cyfraniad ystyrlon i'r pwynt penodol hwn fyddai yng Nghyfnod 2, ond golygodd y ffaith bod UKIP i gyd wedi ymatal eu bod wedi methu cymryd rhan ar gam pwysig o'r ddeddfwriaeth sylfaenol, sydd, wedi'r cyfan, yn fraint a roddir i 60 yn unig ohonom drwy Gymru gyfan.
Mae ein gwelliant, a gynigiaf yn awr, yn adlewyrchu'r pryder a rannwn ynghylch yr effaith bosibl ar aelwydydd incwm isel, ond hefyd mae ein gwelliant yn nodi pryder arall ynglŷn â'r tebygolrwydd y gall arwain unigolion sy'n ddibynnol ar alcohol, neu sydd mewn perygl o ddibyniaeth ar alcohol at fathau eraill o gaethiwed. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid wyf yn meddwl bod y Bil hwn wedi bod ym mhen draw'r ffwrn ychwaith, yn yr ystyr nad yw'r ystod lawn o dystiolaeth yno eto, ac mae gormod yn ddibynnol ar reoliadau. Ond y ffordd o ymdrin â hynny, gyda Bil sy'n amlwg yn ennyn cefnogaeth nifer o bobl, yw ceisio diwygio'r Bil, sef yr hyn y byddwn yn ei wneud yng Nghyfnod 3. Dyna pam, yn y ddadl hon, y byddaf yn rhoi rhybudd priodol i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn ailedrych ar fater yr adroddiad gwerthuso. Fel y dywedaf, rwy'n credu mai Cyfnod 3 yw'r lle gorau i wneud hynny. Mae'n codi o argymhelliad Cyfnod 1 a gefnogwyd gan aelodau Llafur y pwyllgor a'r unig beth a'i trechodd yng Nghyfnod 2 oedd chwip y Llywodraeth a'r ffaith bod UKIP wedi ymatal.
Pan gaiff y Ddeddf hon ei phasio, daw'n greadur y Cynulliad, nid y Llywodraeth, ac felly mae'n briodol mai'r Cynulliad sy'n penderfynu pa wybodaeth sydd ei hangen arno i benderfynu a yw'r Ddeddf hon yn goroesi'r dyddiad machlud. Rhestrir y wybodaeth y credwn y byddwn ei hangen ar ran ein hetholwyr, ac yn wir y Cynulliad, er mwyn asesu llwyddiant neu fethiant isafbris fesul uned ymhen pum mlynedd, yma yn y gwelliant. Nid yw'r Llywodraeth wedi'i chyfyngu i'r rhestr honno, ond rhaid cynnwys y meini prawf hyn yn yr adroddiad gwerthuso. Fel arall, ni fydd yn werthusiad o gwbl. Yn fyr, gadewch i ni osgoi ffrae ymhen pum mlynedd os cawn adroddiad gwerthuso nad yw'n cyfeirio at yr effeithiau hyn. Diolch.