– Senedd Cymru ar 9 Mai 2018.
Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar isafbris am alcohol, ac rydw i'n galw ar Neil Hamilton i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6718 Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2. Yn credu:
a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a
b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
Diolch ichi, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw i ar yr agenda. Symudwn oddi wrth dreth at rywbeth sy'n debyg i dreth: bwriad y Llywodraeth i osod isafbris am alcohol. Mae ein cynnig yn gwneud dau bwynt sylfaenol, y bydd isafbris yn effeithio'n anghymesur ar y rhai ar ben isaf y raddfa incwm—y bobl dlotaf mewn cymdeithas—ac na fydd mewn gwirionedd yn cyflawni'r amcan sydd wedi ei ddatgan ar ei gyfer, oherwydd y bobl sydd â'r broblem fwyaf gydag alcohol, wrth gwrs, yw'r rhai sydd leiaf tebygol o gael eu heffeithio gan newidiadau yn y pris. Maent yn gaeth i alcohol, a chaiff pobl sy'n gaeth eu gyrru gan y drwg oddi mewn, nad yw fel arfer yn agored i newid drwy newid pris beth bynnag y maent yn ei ddefnyddio. Yn wir, yn achos cyffuriau a reolir, wrth gwrs, nid ydynt ar gael i'w gwerthu o gwbl. Maent wedi eu gwahardd ac mae'n drosedd i'w defnyddio, ond mae gennym broblemau cyffuriau enfawr yn y wlad hon, ac yn y 1920au, pan wnaeth yr Unol Daleithiau yr un fath yn achos alcohol—ceisio ei wahardd drwy gyfraith—creodd hynny gyfres anferth o broblemau cymdeithasol a chynnydd mewn troseddau heb fynd i'r afael â phroblemau alcoholiaeth ei hun mewn gwirionedd.
Hoffwn ddechrau drwy ofyn faint o broblem sydd gennym gydag alcohol yng Nghymru mewn gwirionedd. Roedd yn ddiddorol darllen adroddiad gan Alcohol Concern a ddywedai, ers 2005, fod cyfanswm cyffredinol yr alcohol a yfwyd yn y DU—yn anffodus, ni allwn ddod o hyd i ffigurau ar gyfer Cymru—a chyfran y bobl sy'n dweud eu bod yn yfed, a'r swm y mae yfwyr yn dweud eu bod yn ei yfed wedi gostwng, ac mae'r duedd hon yn amlwg iawn ymhlith yfwyr iau. Ar y llaw arall, nododd 77 y cant o'r rhai sy'n ennill fwyaf eu bod wedi yfed yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 45 y cant o'r rhai sy'n ennill leiaf ac wrth gwrs, y rhai sy'n ennill fwyaf yw'r rhai sydd leiaf tebygol o ymateb i newidiadau yn y pris ar ben isaf y farchnad alcohol, ond y 45 y cant o'r rhai sy'n ennill leiaf yw'r rhai sy'n mynd i gael eu targedu gan y newidiadau arfaethedig.
Felly, caiff y cynnig hwn ei gyflwyno ar adeg pan fo yfed yn cael ei gymedroli gan y mwyafrif llethol o bobl, ac mae nifer y bobl sydd â phroblem go iawn mewn gwirionedd ac sy'n creu problemau eraill i ni yn y gymdeithas, naill ai'n aros yn yr unfan neu'n gostwng yn ogystal. Mae'r hyn a gynigir yma yn mynd i osod rhwystr cyffredinol ar y boblogaeth i gyd er mwyn ceisio ymdrin â'r problemau a achoswyd gan nifer fach iawn. Felly, mae'n gwbl groes i ymyriad wedi'i dargedu, sef yr hyn y byddai ei angen er mwyn datrys y problemau cymdeithasol, fel y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei wneud.
Nawr, mae cymariaethau rhyngwladol bob amser yn beryglus, oherwydd mae cymdeithasau gwahanol yn wahanol iawn o ran eu hanes a'u cyfansoddiad cymdeithasol, ac mae ymddygiad dynol yn gwahaniaethu rhwng gwledydd yn ogystal. Pan ddaeth yr Ysgrifennydd iechyd i'r Pwyllgor Cyllid i roi tystiolaeth i ni, gofynnais iddo a oedd ganddo unrhyw ystadegau sy'n cynhyrchu'r dystiolaeth ar gyfer unrhyw gydberthynas rhwng pris alcohol a nifer y clefydau sy'n ymwneud ag iechyd neu gyflyrau meddygol eraill a welwyd yn y gwledydd hynny, a dywedodd nad oedd ganddo ddiddordeb mewn ystadegau; nid oeddent o unrhyw werth. Wel, credaf fod rhywfaint o werth mewn edrych ar brofiad gwledydd eraill. Fe wnaethoch chi, yn y modd trahaus arferol, wrthod pwynt yr oeddwn yn ceisio bod o ddifrif yn ei gylch. Ond credaf fod gwerth mewn edrych ar gymariaethau rhyngwladol i weld a oes unrhyw berthynas rhwng pris alcohol ac effeithiau ar iechyd. Unwaith eto, rwyf wedi'i chael hi'n anodd iawn dod o hyd i'r ystadegau yr oeddwn eu heisiau, ond rwyf wedi canfod ystadegau ar gyfer nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol fel canran o gyfanswm y marwolaethau. Ar gyfer Cymru a Lloegr yn y cyfnod rhwng 2006 a 2009, roedd y marwolaethau a oedd yn gysylltiedig ag alcohol fel canran o gyfanswm y marwolaethau yn 2.3 y cant. Nawr, mae hynny'n cymharu â 9.8 y cant yn y Ffindir, 3.2 y cant yn Sweden, 6.5 y cant yn Nenmarc, ac mae pob un ohonynt yn codi prisiau llawer iawn uwch am alcohol nag a wnawn ni yn y Deyrnas Unedig. Mae gwledydd fel Sbaen a'r Eidal yn codi prisiau is o lawer am alcohol ac nid oes llawer iawn o wahaniaeth rhwng eu cyfraddau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol a'n cyfraddau ni.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Fe ddywedoch ar ddechrau'r araith hon fod hyn yn debyg i dreth. Onid y gwahaniaeth mawr o gymharu â Sgandinafia yw ei bod hi'n dreth yno, ac o leiaf fe ellir defnyddio'r refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel? Yma, byddai'r arian a godir ond yn creu elw uwch i'r cwmnïau preifat sy'n eu cynhyrchu a'u gwerthu.
Mae'r Aelod yn hollol gywir. Dyna ddiffyg arall y cynnig. Nid oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y symiau o arian a godir a'r hyn y gallai'r Llywodraeth ei wario ar geisio targedu cymorth i'r rhai sydd ei wir angen. Hyd yn oed y rhai sydd â phroblem yfed achlysurol, nid ydynt yn mynd i gael eu heffeithio lawer iawn gan hyn. Y niferoedd sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, sydd bob amser yn codi ar y penwythnosau, lle maent yn gysylltiedig ag alcohol o ganlyniad i oryfed ar ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn, mae'r rheini'n annhebygol iawn o gael eu newid drwy osod isafbris am alcohol. Yr hyn y dylem ei wneud yma yw edrych i weld ble mae'r broblem yn bodoli a datrys yr anhawster hwnnw'n benodol.
Felly, mae hwn yn gynnig sydd wedi'i gynllunio'n wael iawn, ac mae'n defnyddio gordd i dorri cneuen mewn gwirionedd. Dyna a gynigir yma. Ar isafbris 50c fesul uned, os mai dyna a ddaw yn y pen draw, mae'n annhebygol iawn o gael unrhyw effaith ar fwy na nifer fach o bobl. Wrth gwrs, nid yw'r galw am alcohol yn cael ei ddylanwadu gan bris fwy nag yr effeithiwyd ar ysmygu sigaréts gan gynnydd yn y dreth ar dybaco. Er mwyn gwneud unrhyw effaith sylweddol ar y broblem y mae'r Llywodraeth yn ei chyflwyno fel cyfiawnhad dros y cynnig hwn, byddai'n rhaid iddo fod yn gynnydd llawer iawn uwch na'r un a awgrymwyd. Llywodraeth ddewr iawn yn wir a fyddai'n ceisio gosod isafbris o £1, dyweder, fesul uned am alcohol. Credaf y byddai'n amhoblogaidd tu hwnt ymhlith y pleidleiswyr.
Ond rwy'n gwrthwynebu'r cynnig hwn oherwydd ei fod wedi'i dargedu'n benodol tuag at bobl ar incwm is. Fel llawer o'r cynigion hyn—fel y mae'r dreth ar siwgr yn Lloegr yn mynd i effeithio ar y rhai ar ben isaf y raddfa incwm—mae'r rhain oll yn feichiau ar bobl sy'n ei chael hi'n anodd beth bynnag i gael deupen llinyn ynghyd mewn bywyd, ac mae'n mynd i'w gwneud yn llawer iawn anoddach er mwyn sicrhau ychydig iawn o welliant, os o gwbl, i iechyd y cyhoedd, neu lai o'r problemau cymdeithasol eraill y gwyddom oll amdanynt sy'n cael eu creu drwy yfed gormod o alcohol.
Felly, mewn gwirionedd, mewn sawl ffordd, mae'r dreth arfaethedig yn afresymol—os gellir ei galw'n dreth at y dibenion hyn. Fel llawer o'r trethi sydd gennym yn y wlad hon, mae wedi'i chynllunio'n wael iawn. Rydym newydd gael dadl ynglŷn â threthi ar eiddo a gynlluniwyd yn wael iawn. Yma rydym yn mynd ati'n fwriadol i greu un arall, yn hytrach na'n bod yn ei hetifeddu gan ein rhagflaenwyr, fel llwyth o ddryswch a gweithgarwch gwrthgynhyrchiol.
Felly, nid dyma'r adeg inni geisio rhoi'r beichiau hyn ar bobl na allant eu fforddio. Os ydym yn mynd i gyflwyno trethi newydd, dylent gydymffurfio â chanonau cyffredinol trethiant, sef eu bod wedi'u cynllunio'n dda, yn targedu'n briodol ac yn codi symiau rhesymol o refeniw, neu wedi eu cynllunio i gyflawni'n ymarferol yr amcanion cymdeithasol y maent i fod i'w cyflawni, ac ni fydd y cynnig hwn yn cyflawni'r un o'r rhain.
Fel y nododd Mark Reckless, y rhai a fydd yn elwa fwyaf o hyn fydd yr archfarchnadoedd a chyfranddalwyr archfarchnadoedd, i'r graddau y bydd pobl yn croesi'r ffin i Loegr. Nid yw'n mynd i fod yn broblem fawr, a siarad yn gyffredinol, ond yn sicr, fe allai fod yng ngogledd-ddwyrain Cymru, neu yn ne-ddwyrain Cymru yn ogystal. Wedyn mae honno'n mynd i fod yn broblem i fasnachwyr lleol yn yr ardaloedd hynny. Nid yw hyn wedi cael ei ystyried yn dda o gwbl yn fy marn i, ac mae'n rhywbeth na ellir ei weinyddu mewn ffordd a fydd yn cynnig ateb i'r hyn y derbynnir ei bod yn broblem iechyd a chymdeithasol sylweddol. Felly, mae arnaf ofn y bydd yn methu ar bob lefel.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Suzy Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1. Paul Davies
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol.
Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rhaid imi ddweud bod y ddadl hon yn ddirgelwch i mi braidd, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr beth y byddwn yn ei glywed heddiw nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i glywed o'r blaen, gan gynnwys rhai o'r materion lle mae gennym rywfaint o gydymdeimlad ag UKIP mewn gwirionedd. Mae egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth eisoes wedi'u trafod yn y Cynulliad hwn. Cymerwyd tystiolaeth gan y pwyllgor iechyd y mae'r llefarydd UKIP yn aelod ohono, wrth gwrs, a lle y trafodwyd rhai o'r pwyntiau a nodwyd yn y cynnig a'u hadlewyrchu yn yr adroddiad Cyfnod 1. Yng Nghyfnod 2, cafodd ein gwelliant ni am fan cychwyn ar 50c ei wrthod, ac mae'n annhebygol iawn o godi eto, rwy'n tybio. Felly, credaf fod pwynt (c) y cynnig yn ddiystyr mewn gwirionedd. Y lle i fod wedi gwneud cyfraniad ystyrlon i'r pwynt penodol hwn fyddai yng Nghyfnod 2, ond golygodd y ffaith bod UKIP i gyd wedi ymatal eu bod wedi methu cymryd rhan ar gam pwysig o'r ddeddfwriaeth sylfaenol, sydd, wedi'r cyfan, yn fraint a roddir i 60 yn unig ohonom drwy Gymru gyfan.
Mae ein gwelliant, a gynigiaf yn awr, yn adlewyrchu'r pryder a rannwn ynghylch yr effaith bosibl ar aelwydydd incwm isel, ond hefyd mae ein gwelliant yn nodi pryder arall ynglŷn â'r tebygolrwydd y gall arwain unigolion sy'n ddibynnol ar alcohol, neu sydd mewn perygl o ddibyniaeth ar alcohol at fathau eraill o gaethiwed. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, nid wyf yn meddwl bod y Bil hwn wedi bod ym mhen draw'r ffwrn ychwaith, yn yr ystyr nad yw'r ystod lawn o dystiolaeth yno eto, ac mae gormod yn ddibynnol ar reoliadau. Ond y ffordd o ymdrin â hynny, gyda Bil sy'n amlwg yn ennyn cefnogaeth nifer o bobl, yw ceisio diwygio'r Bil, sef yr hyn y byddwn yn ei wneud yng Nghyfnod 3. Dyna pam, yn y ddadl hon, y byddaf yn rhoi rhybudd priodol i Ysgrifennydd y Cabinet y byddwn yn ailedrych ar fater yr adroddiad gwerthuso. Fel y dywedaf, rwy'n credu mai Cyfnod 3 yw'r lle gorau i wneud hynny. Mae'n codi o argymhelliad Cyfnod 1 a gefnogwyd gan aelodau Llafur y pwyllgor a'r unig beth a'i trechodd yng Nghyfnod 2 oedd chwip y Llywodraeth a'r ffaith bod UKIP wedi ymatal.
Pan gaiff y Ddeddf hon ei phasio, daw'n greadur y Cynulliad, nid y Llywodraeth, ac felly mae'n briodol mai'r Cynulliad sy'n penderfynu pa wybodaeth sydd ei hangen arno i benderfynu a yw'r Ddeddf hon yn goroesi'r dyddiad machlud. Rhestrir y wybodaeth y credwn y byddwn ei hangen ar ran ein hetholwyr, ac yn wir y Cynulliad, er mwyn asesu llwyddiant neu fethiant isafbris fesul uned ymhen pum mlynedd, yma yn y gwelliant. Nid yw'r Llywodraeth wedi'i chyfyngu i'r rhestr honno, ond rhaid cynnwys y meini prawf hyn yn yr adroddiad gwerthuso. Fel arall, ni fydd yn werthusiad o gwbl. Yn fyr, gadewch i ni osgoi ffrae ymhen pum mlynedd os cawn adroddiad gwerthuso nad yw'n cyfeirio at yr effeithiau hyn. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 2. Julie James
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ffurfiol, Lywydd.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei enw.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth, gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau yn arwain at fanteision iechyd.
Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul uned ar gyfer tafarndai.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol. Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl yma achos rwy'n meddwl ei bod yn gyfle inni egluro rhai o'r egwyddorion sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei drafod. Roeddwn yn darllen erthygl ddifyr yn gynharach heddiw am y berthynas rhwng pris tybaco yn America ac arferion ysmygu'r boblogaeth. Roedd yn mynd â ni yn ôl i'r 1880au, pan wnaeth dulliau cynhyrchu newydd sigaréts gan yr American Tobacco Company eu galluogi nhw i gorneli'r farchnad. Mae'n mynd â ni wedyn drwodd i'r 1960au a'r adroddiadau meddygol cyntaf am beryglon smocio a'r cynnydd ddaeth mewn trethi wedyn. Nid yw casgliad yr adroddiad yn synnu dim arnom ni:
Roedd prisio a hyrwyddiadau sy'n gysylltiedig â phris ymhlith yr arfau marchnata pwysicaf a gâi eu defnyddio gan gwmnïau tybaco. Mae ymdrechion i reoli tybaco yn y dyfodol sy'n anelu i godi prisiau a chyfyngu ar ymdrechion marchnata sy'n gysylltiedig â phris yn debygol o fod yn bwysig i sicrhau lleihad yn y defnydd o dybaco. '.
Y rheswm nad ydy'r casgliad yna ddim yn ein synnu ni ydy ein bod yn gwybod yn reddfol erbyn hyn bod ysmygu tybaco yn ddrwg ichi, a bod cynyddu'r pris yn amlwg yn arf defnyddiol yn y sialens o drio cael mwy o bobl i roi'r gorau i smocio. Beth sydd gennym ni yn fan hyn mewn difri ydy dechrau'r drafodaeth go iawn ar sut y gallwn ni ddefnyddio pris, defnyddio cymhellion ariannol, i drio dylanwadu ar faint o alcohol mae pobl yn ei yfed. Mae yna wahaniaethau rhwng alcohol a thybaco. Nid ydw i'n ymwybodol, er enghraifft, bod yna ffasiwn beth ag ysmygu cymedrol a all fod yn dderbyniol o ran lefel ei risg i iechyd. Rydym ni yn derbyn y gall rhywun yfed yn gymedrol ac yn ofalus, ac mae eisiau cadw hynny mewn golwg. Ond y pwynt sylfaenol yn fan hyn ydy: mae yfed gormod o alcohol yn ddrwg i chi. Nid yn unig mae o'n ddrwg i'ch iechyd chi yn bersonol, mae'n niweidiol i gymdeithas. Mae'n gallu effeithio yn ddifrifol iawn ar blentyndod, yn straen ar wasanaethau cyhoeddus, ac yn gallu gwaethygu tlodi. Ac mae'n rhaid i fi ddweud roeddwn i'n synnu clywed Neil Hamilton yn wfftio'r syniad yma bod alcohol rhywsut yn niweidiol i'n cymdeithas ni, achos mae o, a beth sydd gennym ni fan hyn ydy ymdrech i fynd i'r afael â hynny.
Mi ddylai fod pob un ohonom ni yn credu bod trio cael pobl i yfed llai yn beth da. Ac yn dilyn ymlaen o hynny, rydw i'n cytuno, fel efo tybaco, efo'r egwyddor o drio defnyddio cymhellion ariannol i gael pobl i ystyried yfed llai, ac i feddwl, hefyd, am alcohol mewn ffordd wahanol—am alcohol fel rhywbeth sy'n gallu bod yn niweidiol. Rydw i'n cytuno efo Neil Hamilton a Mark Reckless yn hyn o beth: rydw i'n digwydd meddwl mai trwy drethiant y dylai hynny ddigwydd. Mi fuasai hynny'n caniatáu i'r arian, fel rydym ni wedi clywed, fyddai'n cael ei godi i gael ei gasglu gan ein Trysorlys ni yng Nghymru a'i wario ar daclo goryfed a'i sgil-effeithiau. Ond ni allwn ni wneud hynny, achos nid yw'r pwerau gennym ni yng Nghymru i wneud hynny. Felly, mae'r syniad o osod isafbris i uned o alcohol yn ddull arall—un amherffaith, efallai, ond un dull posibl, un arf posibl—i geisio amrywio prisiau gwahanol fathau o ddiodydd alcoholig er mwyn annog yfed mwy cymedrol a llai niweidiol.
Mae yna Fil o'n blaenau ni, ac mae yna sawl elfen o'r Bil yna yr ydw i'n dymuno eu gweld yn cael eu cryfhau cyn y gallaf i fod yn gyfforddus ein bod ni'n mynd o'i gwmpas yn y ffordd iawn. Rydw i'n cytuno efo'r cynnig sy'n codi peryg y gallai aelwydydd incwm isel gael eu taro. Rydw i'n gofyn am sicrwydd drwy welliannau am y ffordd mae lefel yr isafbris yn cael ei osod—50c ydy'r ffigur sy'n cael ei drafod fwyaf. Nid ydw i'n arbenigwr, ond rydw i'n teimlo o bosibl nad yw hynny cweit yn iawn. Efallai ei fod o fymryn yn uchel. Felly, rydw i'n cyflwyno gwelliannu i fynnu mwy o ddata, mwy o fodelu, ac rydw i'n meddwl bod cyfle hefyd i weld sut mae hyn yn gweithio yn yr Alban, wrth i ni osod y pris yma. Rydym ni angen y dystiolaeth orau posibl. Rydw i hefyd eisiau gweld gwell cyfathrebu o gwmpas y Bil, ac ymrwymiad i addysgu pobl ar sut i osgoi gorfod talu mwy am alcohol—er enghraifft, drwy yfed diodydd efo cynnwys is o alcohol. Rydw i'n meddwl bod hynny yn sgil-effaith dda. Efo unrhyw fater iechyd y cyhoedd, mae angen perswadio pobl pam bod camau'n cael eu cymryd, ac nid ydy hwn yn wahanol.
Felly, rydym ni'n canolbwyntio llawer o'n gwelliannau ni ar yr elfen dystiolaeth a'r elfen gyfathrebu, yr elfen werthuso, er mwyn dod â phobl efo ni. Dyna lle rydw i'n sefyll. Beth mae'r cynnig yn enw Neil Hamilton—i gloi—yn ceisio'i wneud ydy lladd y drafodaeth a ninnau yn dal wrthi'n mynd drwy broses ddeddfwriaethol. Mae yna enillion mawr o gael hyn yn iawn. Mi fyddai ei gael yn anghywir yn dal ymdrechion iechyd cyhoeddus eraill yn ôl yn y dyfodol, o bosibl. Felly, gadewch i ni ganolbwyntio ar drio gweld os oes modd cael Bil a Deddf gryfach drwy weithio yn adeiladol.
Mae'n bwysig nodi ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yna unigolion sy'n cam-drin alcohol, a gall camddefnyddio alcohol—[Torri ar draws.] Gall cam-drin alcohol effeithio'n ddinistriol ar unigolion ac ar eu teuluoedd. Mae'r mater hwn yn peri pryder i ni. Ond rydym yn cwestiynu a fydd gosod isafbris fesul uned yn gweithio fel ffordd o drechu'r camddefnydd o alcohol i bob pwrpas. Ein casgliad ystyriol yw na fydd yn gwneud hynny.
Nawr, fe wyddom nad yw Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau heb ymchwil. Oes, mae ganddynt eu hymchwil. Maent wedi cael ymchwil gan Brifysgol Sheffield, er enghraifft, sy'n amcangyfrif y byddai isafbris o 50c yr uned yn arbed £882 miliwn i economi Cymru dros gyfnod o 20 mlynedd. Mae hynny'n golygu tua £40 miliwn y flwyddyn, sy'n swnio fel arbediad sylweddol. Deillia hyn o leihad mewn troseddu, salwch ac absenoldeb o'r gweithle. Y broblem yw bod y fethodoleg sy'n sail i'r adroddiad hwn wedi ei beirniadu gan academyddion a melinau trafod eraill.
Er enghraifft, mae'r Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes wedi llunio arfarniad amgen o'r cynllun isafbris uned, sy'n cynnwys beirniadaeth o waith prifysgol Sheffield, gan ganolbwyntio'n arbennig ar hyblygrwydd y galw am alcohol—hynny yw, parodrwydd pobl sydd â phroblem yfed i dalu mwy o arian i gael eu dos o alcohol. Teimlai'r Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes nad oedd astudiaeth Sheffield yn gwahaniaethu'n briodol rhwng gwahanol fathau o yfwyr a gwahanol fathau o ymddygiad yfed. Mewn geiriau eraill, ni roddodd ddigon o sylw i barodrwydd pobl sydd â phroblem yfed i dalu mwy o arian i gael eu dos, neu fod pobl sydd â phroblem yfed yn tueddu i arddangos patrymau ymddygiad sy'n wahanol i'r ymddygiad cyffredin.
Rhaid inni dderbyn ein bod yn ymdrin yma â phobl sy'n gaeth, pobl sydd â salwch, felly ni fyddant bob amser yn gweithredu mewn ffordd resymegol. Yn aml, bydd pobl sy'n gaeth yn tueddu i barhau i gael gafael ar y sylweddau y maent yn gaeth iddynt, hyd yn oed os yw'r pris yn codi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
A ydych yn deall nad yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth wedi'i anelu go iawn at gael alcoholigion i roi'r gorau i yfed? Rydych yn llygad eich lle, bydd alcoholigion yn dod o hyd i alcohol mewn unrhyw ffordd y gallant wneud hynny. Rhaid i'r Llywodraeth wneud ymdrech—mwy o ymdrech—i helpu alcoholigion i roi'r gorau i alcohol, ond rydym yn sôn yma am rai sy'n yfed i raddau peryglus, pobl y gellir eu darbwyllo drwy gymhellion pris i ymddwyn mewn ffordd wahanol o bosibl.
Ie, rwy'n sylweddoli eich bod yn gwahaniaethu rhwng alcoholigion a rhai sy'n yfed i raddau peryglus, ac mae gwahaniaeth o'r fath yn bodoli, ond er hynny ni chredwn y bydd y ddeddfwriaeth yn ymdrin yn effeithiol â phroblem yfed peryglus hyd yn oed.
I fynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud, efallai y bydd alcoholig ond yn gwario mwy o'i arian ar alcohol ar ôl gosod isafbris uned ac yn gwario llai ar hanfodion sylfaenol, megis gwres, bwyd, biliau cyfleustodau a rhent. Felly, efallai mai codi pris alcohol fydd y pwynt tyngedfennol yn y pen draw sy'n peri i alcoholig gael ei wneud yn ddigartref. Yn achos alcoholig sydd hefyd â theulu, gallai arwain at droi'r teulu cyfan allan.
Mae Richard Edwards, prif weithredwr elusen canolfan Huggard yng Nghaerdydd i'r digartref yn un o'r rhai sydd wedi lleisio pryderon mawr ynglŷn â'r cynllun isafbris uned. Rwy'n dyfynnu:
Ni fydd codi prisiau yn unig am gyffuriau cyfreithlon fel alcohol ond yn newid un math o gaethiwed am un arall o bosibl ac yn condemnio pobl i fywyd mwyfwy anobeithiol ac anodd dod ohono ar y strydoedd.
Diwedd y dyfyniad. Ceir bygythiad go iawn y bydd alcoholigion yn troi oddi wrth alcohol at sylweddau llawer gwaeth fel 'spice', sydd eisoes yn gyffredin ar strydoedd trefi mawr a dinasoedd Cymru. Ceir hefyd y posibilrwydd y gallai alcoholigion droi at droseddu i godi arian i fwydo eu harferion. Mewn gwirionedd gallai lefelau trosedd godi yn hytrach na gostwng fel y mae tystiolaeth Llywodraeth Cymru wedi honni.
Lleisiwyd dadl y byddai tafarndai'n elwa o gyflwyno isafbris uned. Wel, gadewch i ni gael golwg ar hynny. Mae tafarndai, mae'n wir, wedi bod yn cwyno ers rhai blynyddoedd eu bod yn cael eu trin yn annheg gan y system dreth o gymharu ag archfarchnadoedd, sy'n gallu codi pris is am gynhyrchion alcohol. Mae hyn oherwydd cyfraddau gwahanol o TAW a godir. Yn anffodus, ni fydd cyflwyno isafbris uned yn mynd i'r afael â'r gwahaniaeth treth hwn. Mae CAMRA, sydd wedi cefnogi isafbris uned yn y gorffennol, wedi ei wrthwynebu ers 2013 ac yn ddiweddar dywedodd eu pennaeth cyfathrebu:
Nid yw CAMRA yn cefnogi isafbris fesul uned oherwydd credwn ei fod yn cosbi yfwyr cymedrol a chyfrifol heb wneud fawr ddim i gynorthwyo'r rhai sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol.
Un arall sy'n gwrthwynebu'r cynllun yw Tim Martin, pennaeth Wetherspoon, sydd wedi galw isafbris fesul uned yn gyfeiliornad ac mae'n dweud mai'r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw gostyngiad yn y TAW ar y cwrw a werthir mewn tafarndai. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru o ddifrif eisiau gwella sefyllfa tafarndai, rhywbeth nad oedd yn amcan ganddynt beth bynnag gyda'r Bil hwn, dylent lobïo Llywodraeth y DU yn lle hynny i ostwng y TAW ar alcohol a werthir mewn tafarndai.
Corff arall sydd wedi gwneud tro pedol o fath yw Llywodraeth y DU. Ar ôl bod o blaid cyflwyno isafbris fesul uned yn flaenorol, mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi penderfynu y byddant yn monitro'n ofalus beth sy'n digwydd yn yr Alban yn gyntaf, cyn iddynt weithredu unrhyw gynllun tebyg yn Lloegr. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud pethau'n wahanol a bwrw ymlaen â'i chynlluniau ei hun beth bynnag. Rwy'n credu bod angen iddynt gymryd cam yn ôl a meddwl eto ynglŷn â'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol, a diolch byth, nid fi yw'r unig un sy'n meddwl hynny, gan fod cymaint o sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes o ran sut y mae lleihau niwed alcohol hefyd yn cefnogi'r polisi hwn. Mae llawer o sefydliadau iechyd, am resymau gweddol amlwg, rwy'n tybio—amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, beth bynnag—hefyd yn cefnogi'r polisi hwn, ac yn wir dangosai'r ymgynghoriad ar y Bil drafft rai blynyddoedd yn ôl fod yna gefnogaeth gref iawn ymhlith y cyhoedd yn ogystal. Felly, credaf ein bod yn dechrau o sylfaen eithaf diogel o ran dealltwriaeth o'r angen am y polisi hwn fel rhan o strategaeth gyffredinol a phecyn o fesurau i leihau niwed yn sgil camddefnyddio alcohol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dyna'n union ydyw—un rhan o bolisi a strategaeth gyffredinol, ac rwy'n credu y byddai'n chwarae rhan sylweddol o fewn y gyfres gyffredinol honno o fesurau.
Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn gyfarwydd â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi, neu'r niwed y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi. Mae'n glir iawn o ran ei effaith ar ffurf afiechyd, effaith hynny ar yr economi mewn dyddiau a gollwyd o'r gwaith, y problemau mewn perthynas â throseddau a throseddu treisgar, a pheth o hwnnw'n codi o oryfed mewn pyliau, sy'n bla ynghanol llawer o'n trefi a'n dinasoedd, a hefyd, wrth gwrs, y niwed i deuluoedd a chwalu priodasau. Felly, mae'r niwed yn sylweddol iawn yn wir, ac mae angen inni gyflwyno ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â'r niwed hwnnw ac fel y dywedais, credaf fod isafbris uned am alcohol yn rhan bwysig o'r pecyn cyffredinol hwnnw.
Mae Ymchwil Canser y DU, Lywydd, yn un o'r sefydliadau sy'n cefnogi'r polisi arfaethedig hwn, ac maent yn glir mai alcohol yw'r ffactor risg ataliadwy mwyaf ond dau mewn perthynas â nifer yr achosion o ganser, ac y byddai'r polisi penodol hwn yn offeryn effeithiol iawn i leihau'r afiechyd a'r niwed yng nghyd-destun canser. Mae gennym yr ymchwil gan Brifysgol Sheffield a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriodd eraill ato. Yn bersonol, credaf fod y gwaith ymchwil hwnnw'n gryf ac yn argyhoeddiadol. Mae'n sôn am bolisi o osod 50c fel isafbris gan arwain at dderbyn 1,300 yn llai o bobl i ysbytai yng Nghymru a dros 65 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn. Yn bwysicach na hynny, rwy'n credu, o ran peth o'r feirniadaeth a anelwyd at y polisi, byddai'r fantais fwyaf i bobl sy'n byw mewn tlodi. Gwyddom fod 37 y cant o'r alcohol a werthir yng Nghymru yn cael ei werthu am lai na'r pris hwnnw o 50c yr uned, a bod yfwyr trymach yn fwy tebygol o dalu llai na 50c. Pan edrychwch ar y mathau hynny o ffactorau mae'n awgrymu, yn gyntaf oll, y bydd yn cael effaith sylweddol, ac yn ail, y bydd, o ran cyfran, o fwy o fudd i iechyd pobl yn y cymunedau tlotaf—
A wnaiff yr Aelod ildio?
—yn sicr— o ystyried y patrymau yfed rydym yn gyfarwydd â hwy.
Ildiaf i Simon Thomas.
Diolch. Fe fydd yn ymwybodol fy mod yn gyffredinol yn cefnogi'r Bil hwn a'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i gyflawni, ond credaf ei bod hi'n bwysig cofnodi mai modelu yw'r hyn y mae newydd ei ddyfynnu i ni, nid tystiolaeth. Ni allwn ddefnyddio tystiolaeth am nad oes gennym unrhyw beth fel hyn. Mae'r Alban newydd ddechrau ar ei thaith, ond nid oes gennym hynny.
Mae'r modelu y mae wedi'i nodi yn bwysig, ond yr hyn y mae gwir angen iddo ddigwydd, onid yw'n cytuno, yw bod y modelu a'r holl dystiolaeth yn cael eu dadlau'n drylwyr ac yn llawn yma yn y Siambr pan fyddwn yn gwneud penderfyniad ar y pris terfynol—nad ydym ond yn pasio Bil fframwaith ac yna'n gadael i'r Llywodraeth fwrw rhagddi? Mae angen inni fod yn rhan o hyn ar bob cam o'r ffordd.
Rwy'n derbyn yn llwyr fod angen trafodaeth barhaus ynghylch pob agwedd ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, gan gynnwys yr isafbris fesul uned. Ond rwy'n credu'n gryf iawn, o ystyried maint y niwed y mae alcohol yn ei achosi, ac yn wir yr anghydraddoldebau iechyd sydd ynghlwm â'r mater, fod cyfrifoldeb gwirioneddol yma ar Lywodraeth Cymru i weithredu. Mae hwn, i ryw raddau, yn bolisi gweddol ddewr, ond mae'n fater o Lywodraeth Cymru yn deall graddau'r niwed, y cyfrifoldeb y mae'n ei roi i Lywodraeth yng Nghymru, a datblygu polisi ar y sail honno wedyn. Ac rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru yn fawr am fod yn ddigon dewr i gynnig y polisi ac i weithredu yn y modd hwn.
Mae alcohol yn ffactor risg mawr ar gyfer canser, fel rydym newydd glywed. Yn wir, mae'n garsinogen dosbarth 1, a'r ffactor risg ataliadwy mwyaf ond dau ar gyfer canser ac mae'n gysylltiedig ag achosi o leiaf saith math o ganser oherwydd ei effeithiau cyrydol: canser y geg a'r wefusau; canser y tafod, y ffaryncs a chanser laryngaidd; canser oesoffagaidd, yr holl ffordd i lawr; yn ogystal â bod yn gysylltiedig â chanser yr iau a chanser y coluddyn; a chanser y fron hefyd.
Nawr, mae'r ddeddfwriaeth ar isafbris alcohol yn targedu'r yfwyr trymaf sy'n wynebu perygl o'r niwed mwyaf. Mae'n targedu yfwyr trwm. Yfwyr sy'n yfed i lefelau niweidiol a pheryglus, hynny yw, nad ydynt yn alcoholig. Nid yw'r alcoholig yn cael ei dargedu yma, ac ni ellir eu targedu. Fel y clywsom, mae'r alcoholig yn dal ati i yfed. Ond bydd pobl sy'n yfed ar lefel niweidiol a pheryglus nad ydynt yn gaeth yn rhoi'r gorau iddi pan fydd y pris yn rhy uchel. Oherwydd mae adolygiad pwysig o'r dystiolaeth ar isafbris am alcohol, a edrychodd ar dros 100 o adolygiadau systematig a metaddadansoddiadau—sef adolygiadau o adolygiadau—yn dangos bod cynyddu pris alcohol yn gysylltiedig â gostyngiadau yn lefel yr alcohol a yfir a'r niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw'r cynnydd enfawr yn nifer y trawsblaniadau afu yn sgil clefyd alcohol a welsom yn y blynyddoedd diwethaf. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw'r trais a'r cam-drin domestig sy'n digwydd, yn enwedig adeg gemau rygbi'r 6 Gwlad a gemau pêl-droed rhyngwladol—unrhyw beth sy'n gysylltiedig ag yfed trwm. Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yw ymosodiadau a chwympiadau, yw troseddu, yw nifer o'r rhai sy'n mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys. Ar rai nosweithiau yr wythnos yng Nghymru, mae dros 90 y cant o'r cleifion mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wedi yfed gormod o alcohol—dros 90 y cant o'r achosion, unrhyw noson yr wythnos, fel arfer ar benwythnosau—gan gyfrannu at adrannau damweiniau ac achosion brys gorlawn, a cham-drin, ymosod a difrïo staff meddygol, staff nyrsio a staff porthora yr adrannau hynny.
Felly, cyfrifir yr isafbris am alcohol yn y ddeddfwriaeth hon o fformiwla, fel y canfuwyd: faint o alcohol x cryfder yr alcohol x isafbris fesul uned am alcohol. Felly, nid yw'n ymwneud yn llwyr ag isafbris fesul uned. Dangosodd astudiaeth o Saskatchewan yng Nghanada fod cynnydd o 10 y cant yn yr isafbris uned yno wedi arwain at ostyngiad o 8.43 y cant yn yr alcohol a yfir. Ysgrifennodd Llywodraeth y Swistir at y pwyllgor iechyd yn gwneud pwyntiau tebyg. Mae adolygiadau meddygol di-rif dros ddegawdau wedi dod i'r casgliad fod gwneud alcohol yn fwy costus ac yn anos cael gafael arno yn arwain at bobl yn yfed llai. Yn ôl yn y 1960au a'r 1970au, roedd alcohol yn ddrutach nag ydyw heddiw o gymharu, a hefyd yn anos cael gafael arno oherwydd amseroedd agor a gwerthiant cyfyngedig. Nid oedd economi nos oriau agor llai llym ac alcohol rhad a werthir islaw'r gost wedi'u dyfeisio bryd hynny.
Yn y byd meddygol, mae'n rhaid imi ddweud nad oes unrhyw ddadl o gwbl ynglŷn â'r mater hwn. Mae meddygon yn llwyr gefnogi deddfwriaeth sy'n targedu alcohol rhad ac yn gwneud alcohol yn ddrutach. Mae isafbris am alcohol yn targedu yfed alcohol i raddau peryglus a niweidiol sy'n mynd yn groes i'r fformiwla honno, yn yr ystyr ei fod yn gryf iawn ac yn cael ei werthu mewn poteli mawr a rhad—cyn lleied â 18c am uned. Seidr gwyn cryf yw 25 y cant o'r alcohol a yfir gan rai sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol ac eithrio ymhlith y grwpiau economaidd-gymdeithasol mwyaf cyfoethog—25 y cant o'r alcohol a yfir yw'r stwff cryf a rhad iawn a gaiff ei effeithio gan y ddeddfwriaeth hon, gan godi pris potel o seidr gwyn o oddeutu £3 i oddeutu £11. Felly, mae potensial gan isafbris am alcohol i wneud cymaint â phosibl o les mewn perthynas ag iechyd, a hefyd i'r rhannau tlotaf o gymdeithas sydd eisoes â dangosyddion iechyd andwyol eraill. Ac fel y dywedodd John Griffiths, mae'n lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Nawr, rwy'n gwybod y cawn ein cyhuddo o fod yn wladwriaeth faldodus—mae meddygon yn wynebu hynny bob amser: 'Mae'n wladwriaeth faldodus. Beth y mae'r arbenigwyr yn ei wybod?' 'Nid oes unrhyw fwynhad ar ôl', meddai rhai o fy nghleifion wrthyf pan oeddem yn trafod y gwaharddiad ar ysmygu. 'Nid oes mwynhad ar ôl, Doctor. Fe fyddwch yn gwahardd rhyw gyda hyn.' Wel, na, sôn am alcohol rydym ni heddiw. Ond rydym wedi bod yma o'r blaen gyda'r gwaharddiad ar ysmygu. Nid oedd y cwmnïau tybaco mawr eisiau'r gwaharddiad ar ysmygu. Nid yw'r cwmnïau alcohol mawr eisiau isafbris am alcohol. Mae yna gysylltiad. Ac nid wyf yn dweud, wrth gloi, fod isafbris am alcohol yn gwella problem camddefnyddio alcohol yn llwyr, ond mae'n rhan o gyfres o fesurau sy'n rhaid inni eu defnyddio i leihau'r niwed y mae alcohol yn ei wneud i gymdeithas Cymru heddiw. Diolch.
Fel rydym wedi clywed, ni fydd isafbris yn torri lefel yr alcohol a yfir gan yfwyr sydd â phroblem yfed. O wrando ar yr hyn a ddywedodd Dr Dai yn awr, yn y bôn, bydd pobl yn dewis siorts, a gallai hynny achosi problemau pellach hyd yn oed.
Rwy'n mynd i gefnogi'r cynnig, a'r rheswm pam rwy'n ei gefnogi yn fwy nag unrhyw beth arall—mae'n fwy o beth diwylliannol, a welwn yn y Cynulliad hwn, oherwydd credaf fod gennym Lywodraeth Lafur y mae ei Haelodau Cynulliad yn teimlo'n wirioneddol mai hwy sy'n gwybod orau i bawb, ac o ganlyniad rydym yn gweld cyfyngu ar ddewis yn gyffredinol. Rydych yn ceisio cyfyngu ar bwy y gall pobl bleidleisio drostynt mewn etholiadau cyngor. Ymddengys eich bod yn credu y cewch ddweud wrth bobl sut i fagu eu plant. Ac yn awr rydych am reoli sut y mae pobl yn yfed. Teimlaf fod yna haerllugrwydd yn hynny, ac yn syml—. [Torri ar draws.] Wel, fe ofynnaf y cwestiwn yn agored yma. Rwyf wedi bod o gwmpas y bariau ym Mae Caerdydd, felly dewch, a oes unrhyw un yma nad yw'n yfed gormod ar brydiau? Mae'r broblem yma yn rhywbeth arall—. Fe ildiaf, Rhun, os ydych am ymyrryd. Fe ildiaf.
Rwy'n gwneud y pwynt nad wyf yn yfed pan fyddaf i lawr yn y Cynulliad, felly, wyddoch chi—.
Iawn, diolch yn fawr iawn. Ond y pwynt rwy'n ei wneud, y tu allan i oriau gwaith, credaf ein bod i gyd yn gwybod fod pobl yn y Siambr hon yn yfed gormod. [Torri ar draws.] Mae'n ffaith—gyda phob parch, mae'n un o ffeithiau bywyd. Mae'n beth diwylliannol. A oes unrhyw un yma o ddifrif yn dweud, ar adegau, nad ydynt yn yfed gormod o alcohol? Byddwch yn onest. O ddifrif? O'r gorau. Fe gofiaf hynny Nadolig nesaf.
Fe symudaf ymlaen oherwydd rwy'n gweld hyn fel treth ar rai sydd ar incwm is yn fwy na dim. Weinidog, wrth i chi sgwrsio yn y fan honno—rwy'n dweud, os ydych am wrando, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, treth ar y rhai ar gyflogau is yw hon. Treth arall gan Lafur, ac yn sicr ni fyddaf yn ei chefnogi.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP. Credwn y bydd y Bil hwn yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o alcohol ac yfed, a'r niwed y mae hyn yn ei achosi i gymunedau ledled Cymru.
Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 23 Hydref y llynedd. Mae eisoes, fel y nododd Suzy Davies, yn destun proses graffu drylwyr a manwl, fel sy'n digwydd gyda phob deddfwriaeth. Bydd craffu'n parhau wrth i'r Bil fynd drwy Gyfnod 3. Nid wyf yn credu y dylid caniatáu i siarad gorchestol gan UKIP a'u cyd-deithwyr heddiw ddifetha'r craffu y mae'r Cynulliad hwn yn ei wneud ar y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd bwysig hon.
Ceir sail resymegol gref i bolisi o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru. Mae ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi bod yn nodwedd o'r ddwy faniffesto ddiwethaf gan Blaid Cymru—er nad y grŵp Plaid Cymru yn unig a oedd yn ymrwymo i'r polisi hwnnw wrth gwrs—ac rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd am eu hareithiau synhwyrol ac adeiladol, yn enwedig yr achos a wnaeth Dai Lloyd pam y mae'r niwed a achosir gan alcohol yn creu rheidrwydd i weithredu. Mae'n ymrwymiad hirsefydlog gan y Llywodraeth hon hefyd wrth gwrs. Fe'i cefnogir gan dystiolaeth ryngwladol sy'n cadarnhau bod pris alcohol yn bwysig. Ac fel y clywsom Gadeirydd y pwyllgor iechyd yn cyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd, disgrifiodd Swyddfa Ffederal Iechyd y Cyhoedd yn y Swistir, a ymatebodd i dystiolaeth Cyfnod 1, effeithiau gostyngiad yng nghost gwirodydd a arweiniodd yn syth bron at yfed mwy ohonynt. Ceir perthynas ddiymwad rhwng pris alcohol a faint a yfwn, a cheir perthynas gref hefyd, wrth gwrs, fel y clywsom gan Dai Lloyd a John Griffiths, rhwng faint y mae rhywun yn ei yfed a'r niwed y maent yn ei brofi. Mae'r Bil hwn yn helpu i leihau'r niwed hwnnw. Ac rwy'n derbyn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn seiliedig ar yr effeithiau a fodelwyd, ond mae'r dystiolaeth mor gynhwysfawr a darbwyllol ag y gall fod, ac mae gennyf ffydd yn y dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Dyna'r un sylfaen dystiolaeth ag y gweithredodd Senedd yr Alban arni i gyflwyno eu deddfwriaeth hwy ar isafbris fesul uned.
Wrth gwrs, rydym wedi ymgynghori ddwywaith ar gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol—unwaith yn 2014, fel rhan o Bapur Gwyn iechyd cyhoeddus ac unwaith yn 2015, fel rhan o Fil drafft, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd—ac ar y ddau achlysur mae bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r mesur iechyd cyhoeddus hwn wedi cael cefnogaeth dda. Roedd hynny'n wir hefyd ar ddiwedd y llynedd gyda'r dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil hwn. Fel y dywedais ar sawl achlysur yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil, byddwn hefyd yn ymgynghori eto ar lefel arfaethedig yr isafbris uned, os yw'r Cynulliad hwn yn pasio'r Bil.
Clywodd y pwyllgor iechyd dystiolaeth rymus gan ddarparwyr gwasanaethau a chan arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd. Cafwyd cefnogaeth sylweddol gan randdeiliaid yn Lloegr, nid meddygon yn unig ond amrywiaeth o randdeiliaid eraill, ac maent yn gobeithio, fel finnau, y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn dilyn yr esiampl sy'n cael ei gosod yma yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddull synhwyrol o weithredu sy'n targedu problem real ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw.
Fel cymaint o wledydd gorllewinol eraill, yma yng Nghymru mae gennym broblem gydag alcohol rhad, cryf, sydd ar gael yn rhwydd. Rydym yn gweld effeithiau niweidiol yfed bob dydd yn ein GIG, yn ein gweithleoedd, mewn cymunedau ac mewn teuluoedd. Dengys ymchwil a gyhoeddwyd eleni mai pobl sy'n yfed i raddau niweidiol a pheryglus yng Nghymru yw 28 y cant o'r boblogaeth sy'n yfed, ond roeddent yn yfed tri chwarter yr holl alcohol a yfir. Yn 2015-16 yn unig, cafodd 54,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru eu priodoli i alcohol. Priodolwyd costau gofal iechyd uniongyrchol o £159 miliwn amcanyfrifedig y flwyddyn i alcohol. Pan ddarllenodd Neil Hamilton ffigurau ac ystadegau ynglŷn â'r niwed a achosir, fe wnaf ailadrodd eto yr hyn a ddywedais o fy sedd: mae dros 500 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd alcohol. Dyna reswm grymus dros weithredu, ac roedd pob un—pob un—o'r marwolaethau hynny'n ataliadwy. Ni ddywedais erioed, er hynny, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ateb i bopeth—dim o gwbl—ond bydd yn un ffordd arall i'n helpu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a'i atal. Rydym eisoes yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn ar gefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i saith ardal y byrddau cynllunio, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau, a chaiff £18 miliwn arall ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn byrddau iechyd.
Yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil hwn, mae nifer o faterion wedi'u codi a'u trafod, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau'r ddeddfwriaeth hon ar grwpiau penodol yn y gymdeithas, ar bwysigrwydd darparu gwasanaethau i'r rheini sydd angen help a chymorth, a phwysigrwydd ystyried effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol ac aelwydydd incwm isel. Dengys y dystiolaeth sydd gennym o'r modelu a wnaed gan Brifysgol Sheffield na fydd fawr o effaith at ei gilydd ar yfwyr cymedrol o gyflwyno isafbris uned. Nid yw yfwyr cymedrol fel arfer yn yfed llawer o alcohol, ac maent yn llai tebygol o yfed alcohol rhad a chryf.
Rydym yn disgwyl y bydd yn effeithio ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol. Dyma lle y disgwyliwn i'r enillion mwyaf i iechyd gael eu gwneud wrth gwrs. Mae'r bobl sydd â'r lleiaf o adnoddau ac sy'n yfed i raddau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac o fod angen gofal iechyd hirdymor a sylweddol. Maent hefyd yn llawer mwy tebygol o farw o ganlyniad i'w hyfed. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod pobl yn ein cymunedau lleiaf cefnog bron dair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i alcohol na phobl yn ein cymunedau mwyaf breintiedig.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf.
Diolch. Fe fydd yn gwybod, os gallwn, drwy'r Bil hwn a chamau eraill, leihau faint o alcohol cryf y mae pobl yn ei yfed a symud pobl—os gallaf ei roi mewn ffordd gwmpasog—at ffyrdd iach o yfed, byddwn wedi llwyddo i leihau'r niwed a ddaw o yfed alcohol. Mae'r Bil yn un ffordd o wneud hynny. Ffordd arall, wrth gwrs, yw sicrhau bod mwy o ddiodydd alcohol isel yn cael eu gwerthu, diodydd alcohol is, yn enwedig cwrw a seidr ac ati. Mae hynny'n mynd â ni at reolau Llywodraeth y DU a'r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn enwedig, sydd, ar hyn o bryd, yn ein hatal rhag hyrwyddo, os mynnwch, ffyrdd gwell o yfed neu ffyrdd amgen o leiaf i bobl fod yn fwy ymwybodol o hynny. A yw hynny'n rhywbeth y mae'n annog Llywodraeth y DU i gael trafodaeth yn ei gylch, i fynd law yn llaw â'r ddeddfwriaeth hon?
Ydy. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Hysbysebu am amrywiaeth o faterion, ac mae swyddogion yn parhau i gael deialog, nid yn unig ynglŷn â'r Bil hwn ond ynglŷn â chyfres ehangach o gamau i geisio newid ymddygiad unigolion, ond hefyd o fewn y diwydiant alcohol ei hun, oherwydd mewn gwirionedd nid oes cymaint â hynny o amser er pan oedd y rhan fwyaf o'r cwrw, y lager a'r seidr a werthid mewn tafarnau gryn dipyn yn llai cryf nag y maent yn awr. Maent oddeutu 20 y cant yn gryfach yn rheolaidd bellach ym mhob tafarn y byddwn yn yfed ynddi. Ac i gyfeirio at y ffigurau ar anghydraddoldebau iechyd, ni ddylem adael i hynny ddigwydd ac anwybyddu'r lefel honno o anghydraddoldeb iechyd sydd eisoes yn bodoli.
Ddydd Iau diwethaf, fe gwblhawyd trafodion Cyfnod 2 ar y Bil hwn, a gwrandewais yn ofalus ar y dadleuon a gawsom hyd yma, ac rwy'n bwriadu gweithio gydag Aelodau yn y pleidiau eraill dros yr wythnosau nesaf i weld lle y gallwn weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi, yn enwedig ar yr angen i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth a gwaith craffu ar ôl deddfu. Bydd yr Aelodau, wrth gwrs, yn cael cyfle pellach i drafod y Bil yng Nghyfnod 3 a phleidlais derfynol yng Nghyfnod 4.
Nid yw isafbris am alcohol yn ateb i bob dim. Mae'n rhan o'n dull ehangach i gyfyngu ar faint o alcohol a yfir ac i hyrwyddo perthynas iachach ag alcohol. Dylem ddefnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael i ni i gynorthwyo pobl yng Nghymru i ddatblygu'r berthynas iach honno ag alcohol a rhoi diwedd ar y realiti trist fod llawer gormod o bobl yn marw oherwydd eu bod yn yfed gormod.
Mae gosod isafbris yn ateb newydd ac arloesol, ac wrth gwrs, mae'r farn yn ei gylch yn gallu bod yn rhanedig. Dyna'n union pam ein bod wedi cynnwys darpariaethau machlud ac adolygu yn y Bil, ac maent wedi cael eu cymeradwyo'n eang ac rwy'n siŵr, fel y nododd Suzy Davies, y byddwn yn parhau i ddadlau yn eu cylch drwy gydol Cyfnod 3. Edrychaf ymlaen at Gyfnod 3, Lywydd, a Chyfnod 4 gobeithio, a pharhau i graffu ar y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd arwyddocaol hon.
Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae hi wedi bod yn ddadl ddiddorol ac rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y ddau Aelod a gefnogodd y cynnig—fy nghyd-Aelod Gareth Bennett a Neil McEvoy ar yr ochr arall i'r Siambr. Rwy'n credu bod Neil McEvoy wedi gwneud pwynt pwysig ein bod yn y tŷ hwn yn deddfu ar ran pobl eraill, a cheir agwedd gyffredinol, rwy'n credu, mai ni sy'n gwybod orau a ni sy'n gwybod beth sydd orau i'r bobl. Mae hynny'n wir am bob dim y gallem ei alw'n gynlluniau 'gwladwriaeth faldodus' o'r fath. Gallwn gymhwyso'r un rhesymeg, wrth gwrs, i arferion afiach eraill, megis bwyta gormod o fwyd brasterog neu fwyd cyflym. Gellid cymhwyso'r un ddadl i gymryd rhan mewn chwaraeon peryglus a phob math o weithgareddau eraill yn ogystal a allai greu niwed i unigolion a chost i gymdeithas, ond mewn cymdeithas rydd rwy'n credu y dylem fod yn araf iawn i ddefnyddio pwerau deddfwriaethol er mwyn gwneud hynny.
Mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â gwelliannau Plaid Cymru. Ar wahân i'r cymal 'dileu popeth', gallwn eu cefnogi. Wrth gwrs, mae'n synhwyrol inni gael gwerthusiad priodol o effeithiau'r ddeddfwriaeth hon a'r data gorau posibl sydd ar gael cyn ei roi ar y llyfr statud yn y pen draw—pwynt a wnaed gan Rhun ap Iorwerth a Simon Thomas, ac maent yn bwyntiau synhwyrol iawn. Ni fydd modelu ond yn mynd â chi hyd at ryw bwynt, gan ei fod yn achos o sothach i mewn a sothach allan. Ac yn achos yr astudiaethau a grybwyllwyd gan Dai Lloyd megis astudiaeth Saskatchewan, mae'r sefyllfa yng Nghanada'n wahanol iawn oherwydd mae ganddynt fonopoli gwladwriaethol ar alcohol ac mae gan y wladwriaeth bwerau i reoli mynediad at alcohol mewn ffordd nad oes ganddi yma. Felly, rhaid arfer rhyw gymaint o bwyll wrth wneud y cymariaethau rhyngwladol hyn.
Awgrymodd Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad, o ran Plaid Cymru, fod yr isafbris o 50c fesul uned a awgrymwyd yn rhy isel ac mae angen inni feddwl am gael pris llawer uwch na hynny—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Dywedais y gwrthwyneb yn llwyr, mewn gwirionedd.
Fe gamddeallais felly, ond dyna y credais oedd hanfod eich sylwadau.
Nid oes neb yn dadlau na all y pris ddylanwadu ar y galw, ac felly po uchaf y dreth, ar rai lefelau, mae'n sicr y bydd yna effaith ar y galw. Ond y cwestiwn allweddol yw: pwy yr effeithir arnynt fwyaf gan y cynnydd yn y pris? Ai pobl sy'n yfwyr cymedrol neu yfwyr achlysurol yn unig neu rai sydd â mwy o ddibyniaeth ar alcohol? Nid wyf yn sôn am alcoholigion yn unig yma, rwy'n sôn am bobl y mae alcohol yn golygu mwy yn eu bywydau bob dydd fel math o ddifyrrwch, adloniant, mwynhad—gallwch ei alw'n beth bynnag a fynnwch—nag eraill. Mae'n ymddangos bron yn anghredadwy fod lefel o 50c o isafbris fesul uned yn mynd i arwain at unrhyw welliant sylweddol yn nifer y bobl sy'n cael eu disgrifio fel rhai sy'n yfed i raddau peryglus.
Y diffiniad swyddogol o 'oryfed', gadewch imi ddweud, yw rhywun sy'n ddyn ac yn yfed wyth uned y dydd, sy'n cyfateb i bum gwydraid o win. Felly, os ydych yn cael pum gwydraid o win mewn un sesiwn, mae arnaf ofn eich bod yn goryfed yn ôl yr ystadegwyr swyddogol, a dyma'r ffigurau y mae'r Llywodraeth yn dibynnu arnynt. Felly, pan fyddwn yn sôn am yfed peryglus, rhaid inni gydnabod bod hwn yn derm goddrychol iawn. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod yfed pum gwydraid o win, mewn gwirionedd, yn fy rhoi mewn unrhyw berygl o gwbl. Mae'n debyg fy mod yn yfed hynny y rhan fwyaf o ddiwrnodau, mewn gwirionedd—rwy'n fodlon cyfaddef—ac nid yw'n fy ngwneud yn llai dealladwy neu'n llai o werth gwrando arnaf. Efallai, mewn gwirionedd, ei fod yn fy ngwneud yn fwy o werth gwrando arnaf.
Yn ystod ei araith, disgrifiodd John Griffiths rai o effeithiau gwael alcohol, fel y gwnaeth Dai Lloyd a siaradodd yn huawdl am agweddau meddygol yfed gormod o alcohol, ond nid dyna yw'r broblem yma. Y broblem yw a yw'r ddeddfwriaeth hon wedi ei thargedu'n ddigon da ac yn mynd i lwyddo i gynhyrchu'r canlyniadau y byddent yn hoffi eu gweld. Rwy'n credu mai'r hyn rydym yn ymdrin ag ef yma yw problemau diwylliannol yn fwy na phroblemau economaidd, ac mae agweddau tuag at alcohol a pha mor gyflym yr ydych yn ei yfed yn bwysig iawn yng nghymysgedd y ddadl yma. Nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam y dylai'r cyhoedd yn gyffredinol, nad yw alcohol yn broblem iddynt—nid ydynt yn creu problemau i gymdeithas yn gyffredinol—orfod talu mwy am eu mwynhad er mwyn cael effaith gymedrol iawn neu fach ar yr ystadegau.
A oes gennyf amser i ildio, Lywydd? Rwy'n hapus i wneud. Nid wyf yn credu. Buaswn wedi hoffi ildio, ond yn anffodus, ni allaf wneud hynny.
Gofynnodd Suzy Davies imi pam ein bod yn cael y ddadl hon eto, a ninnau eisoes wedi cael dadl gyffredinol ar y Bil. Ond rwy'n credu bod angen parhau i ddadlau'r achos cyffredinol dros y Bil hwn, er y bydd cyfleoedd eraill yn ystod hynt y ddeddfwriaeth. Ein cynnig ni yw hwn. Mae'n mynegi beth y credwn yw'r prif bwyntiau a phe bai'n pasio, byddai'n rhoi diwedd ar y Bil wrth gwrs. Nid yw'n mynd i basio, rwy'n cydnabod hynny, ond serch hynny, credaf fod y dadleuon a wneuthum heddiw yn werth eu hailadrodd. A chyda hynny, rwy'n annog cymaint o'r Aelodau â phosibl i ymuno â ni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.