Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 9 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r materion a godwyd yn y ddadl heddiw. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP. Credwn y bydd y Bil hwn yn helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn lleihau lefelau peryglus a niweidiol o alcohol ac yfed, a'r niwed y mae hyn yn ei achosi i gymunedau ledled Cymru.
Cyflwynwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn ar 23 Hydref y llynedd. Mae eisoes, fel y nododd Suzy Davies, yn destun proses graffu drylwyr a manwl, fel sy'n digwydd gyda phob deddfwriaeth. Bydd craffu'n parhau wrth i'r Bil fynd drwy Gyfnod 3. Nid wyf yn credu y dylid caniatáu i siarad gorchestol gan UKIP a'u cyd-deithwyr heddiw ddifetha'r craffu y mae'r Cynulliad hwn yn ei wneud ar y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd bwysig hon.
Ceir sail resymegol gref i bolisi o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru. Mae ymrwymiad i ddeddfu yn y maes hwn wedi bod yn nodwedd o'r ddwy faniffesto ddiwethaf gan Blaid Cymru—er nad y grŵp Plaid Cymru yn unig a oedd yn ymrwymo i'r polisi hwnnw wrth gwrs—ac rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd am eu hareithiau synhwyrol ac adeiladol, yn enwedig yr achos a wnaeth Dai Lloyd pam y mae'r niwed a achosir gan alcohol yn creu rheidrwydd i weithredu. Mae'n ymrwymiad hirsefydlog gan y Llywodraeth hon hefyd wrth gwrs. Fe'i cefnogir gan dystiolaeth ryngwladol sy'n cadarnhau bod pris alcohol yn bwysig. Ac fel y clywsom Gadeirydd y pwyllgor iechyd yn cyfeirio at y dystiolaeth a gyflwynwyd, disgrifiodd Swyddfa Ffederal Iechyd y Cyhoedd yn y Swistir, a ymatebodd i dystiolaeth Cyfnod 1, effeithiau gostyngiad yng nghost gwirodydd a arweiniodd yn syth bron at yfed mwy ohonynt. Ceir perthynas ddiymwad rhwng pris alcohol a faint a yfwn, a cheir perthynas gref hefyd, wrth gwrs, fel y clywsom gan Dai Lloyd a John Griffiths, rhwng faint y mae rhywun yn ei yfed a'r niwed y maent yn ei brofi. Mae'r Bil hwn yn helpu i leihau'r niwed hwnnw. Ac rwy'n derbyn bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon yn seiliedig ar yr effeithiau a fodelwyd, ond mae'r dystiolaeth mor gynhwysfawr a darbwyllol ag y gall fod, ac mae gennyf ffydd yn y dadansoddiad a wnaed gan Brifysgol Sheffield. Dyna'r un sylfaen dystiolaeth ag y gweithredodd Senedd yr Alban arni i gyflwyno eu deddfwriaeth hwy ar isafbris fesul uned.
Wrth gwrs, rydym wedi ymgynghori ddwywaith ar gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol—unwaith yn 2014, fel rhan o Bapur Gwyn iechyd cyhoeddus ac unwaith yn 2015, fel rhan o Fil drafft, pan oeddwn yn Ddirprwy Weinidog Iechyd ar y pryd—ac ar y ddau achlysur mae bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r mesur iechyd cyhoeddus hwn wedi cael cefnogaeth dda. Roedd hynny'n wir hefyd ar ddiwedd y llynedd gyda'r dystiolaeth a ddarparwyd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 y Bil hwn. Fel y dywedais ar sawl achlysur yn ystod y gwaith o graffu ar y Bil, byddwn hefyd yn ymgynghori eto ar lefel arfaethedig yr isafbris uned, os yw'r Cynulliad hwn yn pasio'r Bil.
Clywodd y pwyllgor iechyd dystiolaeth rymus gan ddarparwyr gwasanaethau a chan arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd. Cafwyd cefnogaeth sylweddol gan randdeiliaid yn Lloegr, nid meddygon yn unig ond amrywiaeth o randdeiliaid eraill, ac maent yn gobeithio, fel finnau, y bydd Llywodraeth y DU o'r diwedd yn dilyn yr esiampl sy'n cael ei gosod yma yng Nghymru ac yn yr Alban. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ddull synhwyrol o weithredu sy'n targedu problem real ac amlwg iawn yng Nghymru heddiw.
Fel cymaint o wledydd gorllewinol eraill, yma yng Nghymru mae gennym broblem gydag alcohol rhad, cryf, sydd ar gael yn rhwydd. Rydym yn gweld effeithiau niweidiol yfed bob dydd yn ein GIG, yn ein gweithleoedd, mewn cymunedau ac mewn teuluoedd. Dengys ymchwil a gyhoeddwyd eleni mai pobl sy'n yfed i raddau niweidiol a pheryglus yng Nghymru yw 28 y cant o'r boblogaeth sy'n yfed, ond roeddent yn yfed tri chwarter yr holl alcohol a yfir. Yn 2015-16 yn unig, cafodd 54,000 o dderbyniadau i'r ysbyty yng Nghymru eu priodoli i alcohol. Priodolwyd costau gofal iechyd uniongyrchol o £159 miliwn amcanyfrifedig y flwyddyn i alcohol. Pan ddarllenodd Neil Hamilton ffigurau ac ystadegau ynglŷn â'r niwed a achosir, fe wnaf ailadrodd eto yr hyn a ddywedais o fy sedd: mae dros 500 o bobl yn marw bob blwyddyn oherwydd alcohol. Dyna reswm grymus dros weithredu, ac roedd pob un—pob un—o'r marwolaethau hynny'n ataliadwy. Ni ddywedais erioed, er hynny, y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ateb i bopeth—dim o gwbl—ond bydd yn un ffordd arall i'n helpu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a'i atal. Rydym eisoes yn buddsoddi bron £50 miliwn y flwyddyn ar gefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae bron i hanner yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol i saith ardal y byrddau cynllunio, sy'n comisiynu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar gyfer eu rhanbarthau, a chaiff £18 miliwn arall ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn byrddau iechyd.
Yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil hwn, mae nifer o faterion wedi'u codi a'u trafod, yn enwedig mewn perthynas ag effeithiau'r ddeddfwriaeth hon ar grwpiau penodol yn y gymdeithas, ar bwysigrwydd darparu gwasanaethau i'r rheini sydd angen help a chymorth, a phwysigrwydd ystyried effeithiau isafbris uned ar yfwyr cymedrol ac aelwydydd incwm isel. Dengys y dystiolaeth sydd gennym o'r modelu a wnaed gan Brifysgol Sheffield na fydd fawr o effaith at ei gilydd ar yfwyr cymedrol o gyflwyno isafbris uned. Nid yw yfwyr cymedrol fel arfer yn yfed llawer o alcohol, ac maent yn llai tebygol o yfed alcohol rhad a chryf.
Rydym yn disgwyl y bydd yn effeithio ar bobl mewn cartrefi incwm isel sy'n yfed i raddau peryglus a niweidiol. Dyma lle y disgwyliwn i'r enillion mwyaf i iechyd gael eu gwneud wrth gwrs. Mae'r bobl sydd â'r lleiaf o adnoddau ac sy'n yfed i raddau niweidiol yn llawer mwy tebygol o brofi salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol, ac o fod angen gofal iechyd hirdymor a sylweddol. Maent hefyd yn llawer mwy tebygol o farw o ganlyniad i'w hyfed. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod pobl yn ein cymunedau lleiaf cefnog bron dair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i alcohol na phobl yn ein cymunedau mwyaf breintiedig.