Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 9 Mai 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y treth trafodiadau tir ar dir masnachol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, dau yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.