– Senedd Cymru am 6:58 pm ar 9 Mai 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rydw i'n symud yn syth i'r bleidlais. Ac felly, mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y treth trafodiadau tir ar dir masnachol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, dau yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 25, 12 yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal nag yn erbyn. Mae gwelliant 2 yn cael ei dderbyn.
Gwelliant 3. Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal nag yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 3.
Galwaf am bleidlais, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6719 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.
b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno.
Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl UKIP ar isafbris am alcohol. Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Gwelliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 11, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei wrthod.
Gwelliant 2, ac os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 34, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Ac felly derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 wedi'i ddad-ddethol, ac felly galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6718 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2. Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
3. Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
4. Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, wyth yn ymatal, pump yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
Os gwnaiff pawb adael y Siambr yn dawel ac yn gyflym; mae un eitem o fusnes i'w chwblhau eto, a'r ddadl fer yw honno.