Part of the debate – Senedd Cymru am 7:05 pm ar 9 Mai 2018.
Cyfunodd tai teras i wneud cyfres unigryw o gymunedau trefol, pentrefi bron, a wrthgyferbynnai'n amlwg â datblygiadau trefol cnewyllol mewn mannau eraill. Mae oddeutu 40 y cant o gartrefi Cymru yn dai teras, a bydd yn dal i fod yn 28 y cant o'n stoc dai erbyn 2050. Dylid dathlu'r etifeddiaeth hon yn frwd, yn hytrach na'i gweld fel baich neu rywbeth sydd wedi goroesi o'r oes ddiwydiannol. Fel yr ysgrifennodd y pensaer Andrew Sutton, golygai daearyddiaeth tai teras y Cymoedd a lynai at ochr y bryn na chafodd Cymru erioed yr un dwysedd o slymiau cefn wrth gefn ag a welwyd mewn rhai dinasoedd yn Lloegr, ac felly maent wedi parhau'n llefydd dymunol i fyw ynddynt gydag ysbryd cymunedol cryf... Yn wir, pe baech yn dechrau â thudalen wag ac yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar lethrau serth de Cymru, hyd yn oed heddiw mae'n debyg na allech feddwl am syniad mwy addas na'r tŷ teras.
Diwedd y dyfyniad. Mae yna lawer mwy na defnyddioldeb yn perthyn i dai traddodiadol y Cymoedd, fodd bynnag. Yn ôl y pensaer Peter Ireland, a ddyfynnwyd yn The Guardian:
Y peth mwyaf cynaliadwy y gallwn ei wneud yw peidio ag adeiladu stwff newydd... Rwy'n aml yn dweud wrth gleient fod popeth yn ased hyd nes y profwn fel arall.
Er nad wyf wedi canfod unrhyw amcangyfrifon o garbon corfforedig mewn tai teras, amcangyfrifwyd bod hen felin flawd yn Sydney wedi arbed 21,000 tunnell o garbon deuocsid drwy osgoi cael ei dymchwel i ddod yn 47 o fflatiau stiwdio, sy'n cyfateb i gadw 5,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn. Mae Cyngor Adeiladu Gwyrdd Awstralia yn annog y dull hwn o ailddefnyddio ac ôl-osod. Mae'n datblygu pecyn cymorth ôl-osod adeiladau i wella effeithlonrwydd ynni, gwydnwch a chynaliadwyedd. Gallai Llywodraeth Cymru gyfrifo'r carbon corfforedig yn y stoc dai cyn 1919. Hefyd, mae angen inni adfer y sgiliau a oedd unwaith yn gyffredin a'r sylfaen wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw adeiladau traddodiadol, megis terasau'r Cymoedd, yn y modd cywir.
Er ein bod yn anochel yn meddwl am lo wrth sôn am dai'r Cymoedd, mae yna dreftadaeth ddyfnach mewn gwirionedd. Dechreuodd trefi haearn Blaenau'r Cymoedd, Merthyr yn fwyaf nodedig, y duedd o adeiladu tai teras. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Merthyr wedi dod yn dref fwyaf Cymru, ac erbyn 1851 roedd ei phoblogaeth o 46,000 ddwywaith cymaint ag un Abertawe a ddwywaith a hanner maint poblogaeth Caerdydd. Mae'r tai sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn lawn mor bwysig yn bensaernïol â'r Royal Crecscent yng Nghaerfaddon, ac rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae Chapel Row, Georgetown—fe welwch rai o'r lluniau hyn yn y montage—Coedcae Court, er enghraifft, eto ym Merthyr, yn dyddio o 1830 yn fras.
Mae goroesiad Bute Town yn Rhymni hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, man a adeiladwyd eto yn yr 1800au cynnar ac a ddisgrifiwyd gan John Newman yn ei gyfrol feistrolgar, Glamorgan, yn y gyfres Buildings of Wales, fel man sy'n galw i gof Lowther Village gan James Adam yn Westmoreland.
Mae manylion syml a chlasurol y lle yn rhagorol.
Mae'n briodol, wrth inni drafod treftadaeth unigryw tai'r Cymoedd, fod Comisiwn Dylunio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar Ferthyr Tudful heddiw, ac rwy'n annog pawb i edrych arno. Yn seiliedig ar adfywiad castell Cyfarthfa a'r ystâd i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Afon Taf, mae'n gweld hwn fel prosiect angori ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Gydag amser, gallai ddod yn estyniad i Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Dyma'n union y math o weledigaeth sydd ei hangen arnom, a byddai'n cyfuno'n berffaith ag ailasesiad o werth tai'r Cymoedd i ddelwedd a diwylliant cyfoes Cymru. Llongyfarchiadau i Geraint Talfan Davies a'i dîm am ddatblygu'r prosiect cyffrous hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o'r uchelgais hwn, ac mae gwaith tasglu'r Cymoedd yn addawol. Yn sicr, gallai ei waith ar wella sgiliau fod yn ffordd ardderchog o alluogi cynlluniau ôl-osod i ehangu, ac i lawer o dai teras mwy traddodiadol allu dod i wneud defnydd effeithlon o ynni. Yn yr un modd, mae helpu i sicrhau bod metro de Cymru yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol i'n cymunedau yn y Cymoedd yn ffordd arall o sicrhau eu hadfywiad.
Ac ni ddylem anghofio bod gweithgarwch diwydiannol wedi dod â thai tebyg i gymunedau yng ngogledd Cymru. Ar y montage fe welwch lun o Nant Gwrtheyrn, y bydd llawer o'r Aelodau yn ei hadnabod fel canolfan iaith a threftadaeth arloesol. Adeiladwyd y pentref i wasanaethu'r chwarel leol ac yn y pen draw cafodd ei gau yn ystod yr ail ryfel byd. Dadfeiliodd y bythynnod yn adfeilion cyn cael eu hadfer yn fedrus a sensitif iawn yn fwy diweddar. Ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei wneud gyda'r hyn sy'n ymddangos yn rhesi anobeithiol a diffaith o dai teras.
Yn olaf, gadewch imi orffen gydag enghraifft ecsentrig, ond mae hefyd yn cynnwys rhybudd, rwy'n credu. Mae gan y Cymoedd dreftadaeth gyfoethog, ac efallai na cheir enghraifft well o hyn na thai crwn Glyntaf, Pontypridd, a adeiladwyd gan y Dr William Price rhyfeddol yn rhan o'i ddatblygiad ar gyfer amgueddfa dderwyddon. Yn anffodus, dymchwelwyd yr amgueddfa ei hun, sef tŷ crwn mwy o faint, yn 1950, ac mae'n ein hatgoffa o'r gofal sydd angen inni ei roi i drysori'r bensaernïaeth a'r etifeddiaeth hon.
I gloi, mae'n bryd inni sylweddoli gwerth llawn yr amgylchedd adeiledig a ddatblygwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pensaernïaeth ostyngedig, gynhenid oedd llawer ohoni, ond roedd hi bob amser yn meddu ar yr urddas a ddaw o ddatblygiad cymunedau cryf. Mae'r tai teras yn arbennig wedi gwrthsefyll prawf amser ac wedi gwasanaethu sawl cenhedlaeth. Maent yn hyblyg a chynaliadwy oherwydd eu carbon corfforedig. Nid yn unig y mae'n dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi, mae hefyd yn rhan hanfodol o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n arbennig ac yn unigryw. Mae bron bob un o'r diwydiannau trwm a ysgogodd hyn, y rhaglen adeiladu fwyaf yn ein hanes, wedi mynd. Fodd bynnag, erys y tai; gadewch inni ddathlu'r etifeddiaeth gyfoethog hon.