– Senedd Cymru am 7:00 pm ar 9 Mai 2018.
Mae'r ddadl fer yn cael ei chynnig gan David Melding, tai yn Cymoedd—treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi. Ac rydw i'n galw ar David Melding.
Diolch yn fawr, Llywydd.
Tawelwch. Tawelwch yn y Siambr, plis. David Melding.
Mae hanes, daearyddiaeth ac ehangu cyflym diwydiannau echdynnol, yn enwedig glo, wedi cyfuno i lunio amgylchedd adeiledig unigryw yng Nghymru, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwyf hefyd yn falch o ganiatáu i Hefin David a Suzy Davies gael munud o fy amser.
Mae tai teras o'r cyfnod diwydiannol yn bresennol mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid mewn crynodiadau o'r maint a welir ym Morgannwg a Chymoedd Gwent yn benodol. Mae'n gynnyrch y trefoli cyflym a ddaeth gyda darganfod maes glo de Cymru. De Cymru oedd Kuwait glo, yn ôl un hanesydd, a chynhyrchai'r maes glo yn union y math o lo yr oedd ei angen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg: glo caled ar gyfer gwresogi; glo stêm ar gyfer symudedd. Roedd y rhain yn rhannau canolog o'r chwyldro diwydiannol.
Yn 1851, nid oedd ond 951 o bobl yn byw yng Nghymoedd y Rhondda. Erbyn 1881, roedd y ffigur yn 55,000, ac erbyn 1921, roedd yn 167,000—mwy na Cheredigion, sir Feirionnydd a sir Drefaldwyn gyda'i gilydd. Wrth gwrs, roedd y twf yn y boblogaeth a welwyd yng Nghymoedd de Cymru yn dibynnu ar fudo gwledig, a ganiataodd i lawer o Gymry aros yng Nghymru, os nad yn sir eu geni, yn hytrach na chroesi Môr yr Iwerydd er enghraifft. Ac roedd yn rhaid rhoi to uwchben y don enfawr hon o ymfudwyr economaidd. Datblygodd rhywbeth unigryw mewn ymateb i ddaearyddiaeth hardd, aruchel hyd yn oed, y Cymoedd. Yr hyn a olygaf, wrth gwrs, yw'r patrwm rhuban ar hyd ochrau'r mynyddoedd sy'n dal i fod hyd heddiw yn ddelwedd bwerus ac atgofus o Gymru, na cheir dim sy'n cyfateb iddynt heblaw cestyll gogledd Cymru o bosibl.
Cyfunodd tai teras i wneud cyfres unigryw o gymunedau trefol, pentrefi bron, a wrthgyferbynnai'n amlwg â datblygiadau trefol cnewyllol mewn mannau eraill. Mae oddeutu 40 y cant o gartrefi Cymru yn dai teras, a bydd yn dal i fod yn 28 y cant o'n stoc dai erbyn 2050. Dylid dathlu'r etifeddiaeth hon yn frwd, yn hytrach na'i gweld fel baich neu rywbeth sydd wedi goroesi o'r oes ddiwydiannol. Fel yr ysgrifennodd y pensaer Andrew Sutton, golygai daearyddiaeth tai teras y Cymoedd a lynai at ochr y bryn na chafodd Cymru erioed yr un dwysedd o slymiau cefn wrth gefn ag a welwyd mewn rhai dinasoedd yn Lloegr, ac felly maent wedi parhau'n llefydd dymunol i fyw ynddynt gydag ysbryd cymunedol cryf... Yn wir, pe baech yn dechrau â thudalen wag ac yn edrych ar ffyrdd o adeiladu ar lethrau serth de Cymru, hyd yn oed heddiw mae'n debyg na allech feddwl am syniad mwy addas na'r tŷ teras.
Diwedd y dyfyniad. Mae yna lawer mwy na defnyddioldeb yn perthyn i dai traddodiadol y Cymoedd, fodd bynnag. Yn ôl y pensaer Peter Ireland, a ddyfynnwyd yn The Guardian:
Y peth mwyaf cynaliadwy y gallwn ei wneud yw peidio ag adeiladu stwff newydd... Rwy'n aml yn dweud wrth gleient fod popeth yn ased hyd nes y profwn fel arall.
Er nad wyf wedi canfod unrhyw amcangyfrifon o garbon corfforedig mewn tai teras, amcangyfrifwyd bod hen felin flawd yn Sydney wedi arbed 21,000 tunnell o garbon deuocsid drwy osgoi cael ei dymchwel i ddod yn 47 o fflatiau stiwdio, sy'n cyfateb i gadw 5,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn. Mae Cyngor Adeiladu Gwyrdd Awstralia yn annog y dull hwn o ailddefnyddio ac ôl-osod. Mae'n datblygu pecyn cymorth ôl-osod adeiladau i wella effeithlonrwydd ynni, gwydnwch a chynaliadwyedd. Gallai Llywodraeth Cymru gyfrifo'r carbon corfforedig yn y stoc dai cyn 1919. Hefyd, mae angen inni adfer y sgiliau a oedd unwaith yn gyffredin a'r sylfaen wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cynnal a chadw adeiladau traddodiadol, megis terasau'r Cymoedd, yn y modd cywir.
Er ein bod yn anochel yn meddwl am lo wrth sôn am dai'r Cymoedd, mae yna dreftadaeth ddyfnach mewn gwirionedd. Dechreuodd trefi haearn Blaenau'r Cymoedd, Merthyr yn fwyaf nodedig, y duedd o adeiladu tai teras. Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Merthyr wedi dod yn dref fwyaf Cymru, ac erbyn 1851 roedd ei phoblogaeth o 46,000 ddwywaith cymaint ag un Abertawe a ddwywaith a hanner maint poblogaeth Caerdydd. Mae'r tai sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn lawn mor bwysig yn bensaernïol â'r Royal Crecscent yng Nghaerfaddon, ac rwy'n credu hynny o ddifrif. Mae Chapel Row, Georgetown—fe welwch rai o'r lluniau hyn yn y montage—Coedcae Court, er enghraifft, eto ym Merthyr, yn dyddio o 1830 yn fras.
Mae goroesiad Bute Town yn Rhymni hyd yn oed yn fwy rhyfeddol, man a adeiladwyd eto yn yr 1800au cynnar ac a ddisgrifiwyd gan John Newman yn ei gyfrol feistrolgar, Glamorgan, yn y gyfres Buildings of Wales, fel man sy'n galw i gof Lowther Village gan James Adam yn Westmoreland.
Mae manylion syml a chlasurol y lle yn rhagorol.
Mae'n briodol, wrth inni drafod treftadaeth unigryw tai'r Cymoedd, fod Comisiwn Dylunio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar Ferthyr Tudful heddiw, ac rwy'n annog pawb i edrych arno. Yn seiliedig ar adfywiad castell Cyfarthfa a'r ystâd i'r dwyrain ac i'r gorllewin o Afon Taf, mae'n gweld hwn fel prosiect angori ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Gydag amser, gallai ddod yn estyniad i Safle Treftadaeth y Byd ym Mlaenafon. Dyma'n union y math o weledigaeth sydd ei hangen arnom, a byddai'n cyfuno'n berffaith ag ailasesiad o werth tai'r Cymoedd i ddelwedd a diwylliant cyfoes Cymru. Llongyfarchiadau i Geraint Talfan Davies a'i dîm am ddatblygu'r prosiect cyffrous hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhannu llawer o'r uchelgais hwn, ac mae gwaith tasglu'r Cymoedd yn addawol. Yn sicr, gallai ei waith ar wella sgiliau fod yn ffordd ardderchog o alluogi cynlluniau ôl-osod i ehangu, ac i lawer o dai teras mwy traddodiadol allu dod i wneud defnydd effeithlon o ynni. Yn yr un modd, mae helpu i sicrhau bod metro de Cymru yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol i'n cymunedau yn y Cymoedd yn ffordd arall o sicrhau eu hadfywiad.
Ac ni ddylem anghofio bod gweithgarwch diwydiannol wedi dod â thai tebyg i gymunedau yng ngogledd Cymru. Ar y montage fe welwch lun o Nant Gwrtheyrn, y bydd llawer o'r Aelodau yn ei hadnabod fel canolfan iaith a threftadaeth arloesol. Adeiladwyd y pentref i wasanaethu'r chwarel leol ac yn y pen draw cafodd ei gau yn ystod yr ail ryfel byd. Dadfeiliodd y bythynnod yn adfeilion cyn cael eu hadfer yn fedrus a sensitif iawn yn fwy diweddar. Ac mae'n enghraifft wych o'r hyn y gellir ei wneud gyda'r hyn sy'n ymddangos yn rhesi anobeithiol a diffaith o dai teras.
Yn olaf, gadewch imi orffen gydag enghraifft ecsentrig, ond mae hefyd yn cynnwys rhybudd, rwy'n credu. Mae gan y Cymoedd dreftadaeth gyfoethog, ac efallai na cheir enghraifft well o hyn na thai crwn Glyntaf, Pontypridd, a adeiladwyd gan y Dr William Price rhyfeddol yn rhan o'i ddatblygiad ar gyfer amgueddfa dderwyddon. Yn anffodus, dymchwelwyd yr amgueddfa ei hun, sef tŷ crwn mwy o faint, yn 1950, ac mae'n ein hatgoffa o'r gofal sydd angen inni ei roi i drysori'r bensaernïaeth a'r etifeddiaeth hon.
I gloi, mae'n bryd inni sylweddoli gwerth llawn yr amgylchedd adeiledig a ddatblygwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pensaernïaeth ostyngedig, gynhenid oedd llawer ohoni, ond roedd hi bob amser yn meddu ar yr urddas a ddaw o ddatblygiad cymunedau cryf. Mae'r tai teras yn arbennig wedi gwrthsefyll prawf amser ac wedi gwasanaethu sawl cenhedlaeth. Maent yn hyblyg a chynaliadwy oherwydd eu carbon corfforedig. Nid yn unig y mae'n dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi, mae hefyd yn rhan hanfodol o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n arbennig ac yn unigryw. Mae bron bob un o'r diwydiannau trwm a ysgogodd hyn, y rhaglen adeiladu fwyaf yn ein hanes, wedi mynd. Fodd bynnag, erys y tai; gadewch inni ddathlu'r etifeddiaeth gyfoethog hon.
Nid oedd gennyf syniad beth oeddwn yn mynd i'w ddweud hyd nes i mi glywed yr hyn a oedd gan David Melding i'w ddweud. Ac am ddarlun gwych, atgofus a byw a gyflwynwyd gennych o'r gymuned sy'n gartref i mi. Euthum i'r ysgol yn Heol-ddu ym Margoed a byddwn yn cerdded ar hyd ochr y mynydd i'r ysgol ar ben y mynydd ac yn gweld y tai teras hyfryd hyn. Rwyf wedi sôn am Fargoed, ond hefyd am Benpedairheol, y pentref lle y cefais fy magu a Gilfach, ac mae'r tai gwych hyn gan Senghennydd ac Abertridwr hefyd. Rwy'n poeni am Senghennydd ac Abertridwr yn arbennig, gan eu bod yn swatio, i ffwrdd o'r prif fannau gwaith. Fy mreuddwyd fyddai gweld pobl yn teithio tua'r gogledd unwaith eto i weithio, ond bellach maent yn teithio tua'r de. Rwyf am weld yr adfywio economaidd y siaradwch amdano, a dyna pam y mae tasglu'r Cymoedd mor bwysig. Hefyd, rhaid i mi ychwanegu beirniadaeth fach o strategaeth Llywodraeth Cymru o gyflenwi tir ar gyfer tai bob pum mlynedd ar bob cyfrif, gan setlo ochr y galw heb ystyried angen digonol. A'r ardal y sonioch chi amdani David Melding, yw'r ardal honno o angen. Dyna ble y mae angen inni adeiladu tai, ble y mae angen inni weld ein cwmnïau bach yn tyfu ac yn adeiladu tai, fel y gallwn dorri'r cartél sydd gan y pedwar cwmni tai mawr. A dyna pam ein bod yn ei chael hi'n anodd darparu'r math o dai y soniwch amdanynt yn awr. Rwyf am weld hynny, a phob llwyddiant i chi, ac am araith hyfryd.
Rwyf am ategu popeth a ddywedoch yn awr; roedd yn bleser gwrando ar hynny, David. Mewn gwirionedd, roeddwn yn arbennig o hoff o'ch sylwadau am y cilgant yng Nghaerfaddon, a gwnaeth i mi ystyried—cofiaf i mi ei weld ar Facebook mewn gwirionedd a llwyddais i ddod o hyd iddo fel yr oedd Hefin yn siarad—Crescent Street yn Ynysowen. Mae'n gilgant llawn o'r math o dai rydych wedi bod yn siarad amdanynt, a phob un ohonynt—gallaf weld y darlun yma—wedi cau; mae'r ffenestri i gyd wedi'u bordio ac maent yn mynd i gael eu dymchwel, yn y bôn, a chredaf ei fod yn un o'r lluniau tristaf a welais ers amser maith. Y rheswm yr oeddwn eisiau siarad â chi heddiw yw fy mod yn credu y gellid achub rhai o'r tai hyn, neu'r mathau hyn o dai, drwy ddefnyddio Cymorth i Brynu yng Nghymru. Rwy'n credu eich bod wedi dweud nad oes angen inni adeiladu pethau newydd drwy'r amser mewn gwirionedd. Byddai Cymorth i Brynu nid yn unig yn dod â rhai o'r tai hyn yn ôl i ddefnydd, yn enwedig ar gyfer prynwyr tro cyntaf, wrth gwrs, ond byddai'n targedu adeiladwyr bach a chanolig a mentrau adeiladu yn hytrach na'r chwe chwmni mawr, sydd, wrth gwrs, yn elwa'n bennaf o Cymorth i Brynu fel y mae ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, ac roedd yn bleser gwirioneddol gwrando arni. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod tai'r Cymoedd yn dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi a'i dathlu'n frwd, fel y dywedodd David Melding.
Mae tai ein Cymoedd yn etifeddiaeth bwysig, ac yn un y byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i'w diogelu a'i gwella. Mae ganddi ei chymeriad arbennig ei hun, un sy'n dod o batrwm nodedig yr aneddiad, fel y disgrifiodd David Melding yn ei araith, a dyluniad pensaernïol y tai eu hunain. Mae tai'r Cymoedd yn rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn dyst i hanes cymdeithasol a diwylliannol cyfoethog ein cymunedau yn y Cymoedd. Nid yw hynny'n dweud nad yw tai'r Cymoedd wedi wynebu eu problemau. Fel y clywsom, arweiniodd y chwyldro diwydiannol at dwf sylweddol ym mhoblogaeth y Cymoedd, ac yn aml adeiladwyd tai o ansawdd isel ar frys. Cydnabu adroddiad Beveridge, y ddogfen a sefydlodd y wladwriaeth les fodern, fod tai gwael yn niweidiol i iechyd. Gweithredodd Aneurin Bevan ar argymhellion yr adroddiad, gan wneud adeiladu tai newydd ac uwchraddio'r stoc a fodolai'n barod yn flaenoriaeth allweddol er mwyn sicrhau gwelliannau i iechyd y boblogaeth.
Mae'r cysylltiad hwn rhwng ansawdd y cartref ac iechyd yr unigolyn lawn mor bwysig heddiw ag a oedd ar y pryd, a dyma pam yr ydym yn gweithio ar draws portffolios i integreiddio gwasanaethau a hybu defnydd effeithlon o adnoddau cyfyngedig. Rydym yn defnyddio mentrau fel y gronfa gofal integredig i wella'r cysylltiadau rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Pan fo'r maes tai'n cael ei ystyried yn briodol a'i integreiddio â gofal cymdeithasol, gall arwain at fanteision sylweddol i bobl ac i'r GIG drwy atal derbyniadau diangen a chefnogi lleihad yn y lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal.
Yn ddiweddar gwelais â fy llygaid fy hun yr effeithiau cadarnhaol y gall ein partneriaid eu cael yn hyrwyddo iechyd a lles ymhlith eu tenantiaid yn y Cymoedd pan ymwelais â phrosiect Strive and Thrive yn y Rhondda. Mae'r prosiect yn darparu cyfleoedd i denantiaid cymdeithasau tai yn y Rhondda, yn ogystal â phobl leol eraill, gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau, o bêl-droed dan gerdded i ganŵio. Dywedodd y bobl y cyfarfûm â hwy sut roedd hyn wedi cynyddu eu hunanhyder a'u hunan-barch, ac wedi rhoi rhwydwaith cymorth iddynt nad oedd ganddynt cyn hynny. Drwy ddarparu'r mathau hyn o wasanaethau, gallwn gynyddu iechyd, lles a dyheadau cymdeithasol pobl, ac mae'r gwasanaethau hyn hefyd yn harneisio ymdeimlad o berthyn o fewn cymunedau lleol.
Fel y dywedais, rydym yn cydnabod tai'r Cymoedd fel rhan bwysig o'n treftadaeth, a dyna pam yr ydym yn parhau i fuddsoddi'n helaeth yn y stoc tai bresennol. Rhaid i'r holl gartrefi rhent cymdeithasol fodloni'r safon ansawdd tai erbyn 2020 Rhagfyr Cymru. Rydym yn darparu £108 miliwn o arian cyfalaf bob blwyddyn i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i helpu i ariannu'r gwaith gwella hwn. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y buddsoddiad hwn a wnaethom dros gyfnod hir er mwyn sicrhau bod rhai o'r bobl dlotaf yng Nghymru yn cael cartrefi cynnes a diogel.
Gwyddom fod nifer o heriau'n wynebu rhannau o'r Cymoedd ac rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r heriau hynny. Drwy hyrwyddo adfywio economaidd gyda gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar yr ardaloedd sydd fwyaf mewn angen, gallwn gael effaith fawr. Bydd ein rhaglen fuddsoddi mewn adfywio sydd wedi'i thargedu, ac sy'n werth hyd at £100 miliwn ar draws Cymru dros dair blynedd, yn un arf pwysig. Gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y gall ein buddsoddiad mewn adfywio ei wneud. Y llynedd, ymwelais â Pharc Lansbury yng Nghaerffili, lle yr ariannodd cyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru waith ar effeithlonrwydd ynni a oedd yn cael ei wneud ar gartrefi cymdeithasol a phreifat. Golyga'r buddsoddiad hwn y bydd y bobl sy'n byw yno'n gwario llai ar wresogi eu cartrefi, gan leddfu'r pwysau ar gyllidebau sydd weithiau'n dynn iawn. Roedd y buddsoddiad hefyd yn gwella edrychiad gweledol y cartrefi, gan roi cyfle i bobl deimlo mwy o falchder ynglŷn â lle maent yn byw.
Fel Llywodraeth, rydym yn cynyddu maint a chyfraddau ôl-osod cartrefi preswyl at ddibenion effeithlonrwydd ynni. Rydym yn buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer y cyfnod 2017-21. Bydd hyn yn ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi i bobl ar incwm isel neu sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gynnwys y Cymoedd. Lle bydd eiddo'n dod yn wag, gallant fod yn falltod go iawn ar y dirwedd leol. Felly, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w cael yn ôl i ddefnydd a darparu cartrefi. Mae ein cronfa gylchol Troi Tai'n Gartrefi yn parhau i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu benthyciadau i berchnogion eiddo ailwampio adeiladau gwag yn gartrefi i'w gwerthu neu eu rhentu, ac mae'n buddsoddi dros £10 miliwn yn y Cymoedd.
Drwy dasglu'r Cymoedd, rydym yn gweithio ar fenter arall gyda Chymdeithas Tai Rhondda a chyngor Rhondda Cynon Taf. Ceir nifer o adeiladu ym mhentrefi gogleddol y sir sy'n wag ar hyn o bryd. Nid oes galw am dai cymdeithasol at angen cyffredinol yn yr ardal hon. Fodd bynnag, mae pobl leol eisiau byw yn y pentrefi hyn ac eisiau bod yn berchen ar eu cartref ond yn aml ni allant fforddio blaendal neu forgais. Felly, rydym yn gweithio ar gynllun rhannu ecwiti i ddod â'r adeiladu hyn yn ôl i ddefnydd a galluogi pobl leol i brynu eu cartref eu hunain yn eu cymuned—rhywbeth yr oedd Suzy Davies yn ei ddisgrifio yn ei chyfraniad.
Wrth i ni barhau i warchod a gwella'r stoc dai yn ein cymunedau yn y Cymoedd, mae'n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu tai newydd pan fo angen. Gall cartrefi newydd o fewn aneddiadau sy'n bodoli eisoes, neu ddatblygiadau newydd mwy o faint, arwain at gymunedau'n tyfu ac yn ffynnu. Rwy'n gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i gyflwyno safleoedd tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai yn y Cymoedd, gan fy mod yn cydnabod y rôl y gall ein hasedau ei chwarae yn darparu mwy o gartrefi a chryfhau cymunedau sydd eisoes yn bodoli.
I gefnogi ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, rydym yn buddsoddi mewn amrywiaeth o ddeiliadaethau ac ystod o gynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion tai amrywiol ledled Cymru. Y flwyddyn ddiwethaf yn unig, buddsoddwyd £52 miliwn gennym drwy'r rhaglen grant tai cymdeithasol ledled y Cymoedd, ac rwyf wedi gweld drosof fy hun—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rwy'n cymeradwyo'r mentrau y mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw atynt yn ei haraith, ond mae rhywbeth a grybwyllodd Hefin David yn ddolen goll allweddol yn y blwch offer adeiladu tai, sef y gallu i adeiladwyr bach a chanolig eu maint gael troed yn y farchnad a chychwyn adeiladu tai. Clywais yr hyn a ddywedoch am ryddhau tir Llywodraeth Cymru, ond mae gan y cwmnïau mawr afael haearnaidd. Felly, yn ogystal â rhyddhau'r tir, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu adeiladwyr bach a chanolig eu maint—cwmnïau lleol—i gael y gallu i adeiladu'r cartrefi hynny?
Rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig inni annog—wel, mwy nag annog—ein bod yn creu hinsawdd i fusnesau bach a chanolig allu adeiladu cartrefi, a dyna un o'r rhesymau dros gynyddu ein cronfa datblygu eiddo o dan fanc datblygu Cymru o £10 miliwn i £30 miliwn. Pwrpas y gronfa hon yw galluogi busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid pan na allant ei gael o ffynonellau eraill o bosibl, er mwyn iddynt allu adeiladu cartrefi yn ein cymunedau. Cronfa wedi'i hailgylchu yw honno, felly, dros y cynllun hwn, bydd yn caniatáu hyd at £270 miliwn o fuddsoddiad drwy fusnesau bach a chanolig ar gyfer adeiladu tai, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn. Ond unwaith eto, mae'n aml yn ymwneud â dod o hyd i'r darnau o dir y gallwn eu rhyddhau ar gyfer tai cymdeithasol, neu dai eraill, yn dibynnu ar yr angen lleol, a dyna pam rwy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i nodi'r darnau hynny o dir. Hefyd, mae gennym gynllun cyffrous siopa am blot hunanadeiladu yr ydym yn ei ddatblygu gyda Rhondda Cynon Taf i weld beth y gallwn ei wneud yn enwedig yn y Rhondda er mwyn defnyddio'r plotiau gwag mewn cymunedau ar gyfer busnesau bach a chanolig yn arbennig, neu fel bod pobl a hoffai adeiladu eu heiddo eu hunain yn gallu gwneud hynny.
Felly, ar ymweliad â safle hen orsaf dân Bargoed yn ddiweddar, ymwelais â fflatiau rhent cymdeithasol newydd a chynllun tai â chymorth a oedd yn helpu pobl i adennill neu ddatblygu eu hyder i allu byw'n annibynnol. Ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn mewn tai cymdeithasol, rydym hefyd yn dyrannu adnoddau sylweddol ar gyfer helpu pobl sydd am brynu cartref drwy Help i Brynu Cymru, Rhentu i Brynu Cymru a Rhanberchenogaeth Cymru. Yn ogystal, rydym yn parhau i gefnogi atebion arloesol posibl, neu ddulliau arloesol o fynd i'r afael â'n heriau ym maes tai, megis y prosiect Tai Cydweithredol yng Nghymru sydd wedi arwain yn uniongyrchol at ddatblygu modelau tai cydweithredol yn y Cymoedd, gan gynnwys yng Ngelli-deg ym Merthyr Tudful a Rhydyfelin yn Rhondda Cynon Taf. Drwy ein Rhaglen Tai Arloesol, rydym yn awyddus i edrych ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau, gan adeiladu cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae rhai o'r cynlluniau rhagorol a ariannwyd y llynedd yn cynnwys cynllun gofal ychwanegol, darparu 40 o gartrefi gan ddefnyddio unedau wedi'u hadeiladu mewn ffatri yn Aberdâr, yn ogystal ag wyth cartref yn Abercynffig, gan ddefnyddio system fodwlar a weithgynhyrchwyd yn ffatri Wernick 10 milltir yn unig o'r safle adeiladu. Rwyf hefyd yn awyddus i archwilio syniadau newydd. Er enghraifft, rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau'r Cymoedd i ddatblygu syniadau newydd ac arloesol ar gyfer cartrefi hunanadeiladu ac wedi'u teilwra'n arbennig. Mae'r syniadau hyn yn cynnwys defnyddio asedau tir cyhoeddus, cynllunio ac ariannu, ac rwy'n gobeithio gwneud datganiad mwy manwl ar hyn yn yr hydref.
Gan edrych ymlaen, rwyf am osod targedau mwy ymestynnol byth yn y dyfodol, yn y Cymoedd ac ar draws Cymru, o ran adeiladu tai, ac rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd sy'n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dylunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. Dyna pam y comisiynais yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Bydd angen i'r adolygiad hwnnw sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen cynyddol am dai fforddiadwy yng nghyd-destun pwysau parhaus ar y gwariant cyhoeddus sydd ar gael i gefnogi adeiladu tai.
Mae tasglu'r Cymoedd yn parhau ei waith yn canolbwyntio adnoddau ar greu newid go iawn ar gyfer Cymoedd de Cymru, ac mae tai yn rhan ganolog o'r gwaith hwn. Yn dilyn cyfnod o siarad a gwrando ar bobl sy'n byw yng nghymunedau'r Cymoedd, cyhoeddwyd y cynllun cyflawni gennym ym mis Tachwedd, ac mae'n cynnwys camau gweithredu a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru a chamau gweithredu'n ymwneud â datblygiadau tai a gwella canol trefi. Yn rhan o hyn, mae prosiect a gomisiynwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn ceisio casglu gwybodaeth am anawsterau a wynebir gan aelwydydd incwm isel mewn perthynas â thai yn y Cymoedd a darparu argymhellion ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn yr adroddiad terfynol cyn bo hir ac ystyried unrhyw gamau gweithredu dilynol o ganlyniad.
Felly, mae tai yn y Cymoedd yn amlwg yn dreftadaeth sy'n werth buddsoddi ynddi, ac rydym yn gwneud hynny. Rhaid inni ddiogelu a thrysori'r etifeddiaeth hon o'r gorffennol yn ogystal ag edrych i'r dyfodol. Mae bargen ddinesig Caerdydd wedi gwneud tai yn ffocws ar draws y rhanbarth, sy'n cynnig cyfle go iawn ar gyfer dull mwy strategol a defnydd wedi'i dargedu o adnoddau. Mae metro de Cymru yn gyfle enfawr i gysylltu mwy o gymunedau â chanolfannau economaidd a helpu i gynnal a bywiogi cymunedau'r Cymoedd. Byddwn yn sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd hyn i wella dyfodol cymunedau'r Cymoedd.
Felly, i gloi, rydym yn rhoi camau pendant ar waith i gynnal a gwella stoc dai ein Cymoedd ar gyfer cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol. Rydym hefyd yn cefnogi rhaglenni pellgyrhaeddol ac arloesol er mwyn cynyddu'r cyflenwad o dai yn y Cymoedd a ledled Cymru. Mae buddsoddi mewn tai yn fuddsoddiad yng nghymunedau ein Cymoedd, ac mae ein record yn dangos ein bod yn buddsoddi yn y cymunedau hyn, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.