Part of the debate – Senedd Cymru am 7:03 pm ar 9 Mai 2018.
Mae hanes, daearyddiaeth ac ehangu cyflym diwydiannau echdynnol, yn enwedig glo, wedi cyfuno i lunio amgylchedd adeiledig unigryw yng Nghymru, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwyf hefyd yn falch o ganiatáu i Hefin David a Suzy Davies gael munud o fy amser.
Mae tai teras o'r cyfnod diwydiannol yn bresennol mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid mewn crynodiadau o'r maint a welir ym Morgannwg a Chymoedd Gwent yn benodol. Mae'n gynnyrch y trefoli cyflym a ddaeth gyda darganfod maes glo de Cymru. De Cymru oedd Kuwait glo, yn ôl un hanesydd, a chynhyrchai'r maes glo yn union y math o lo yr oedd ei angen yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg: glo caled ar gyfer gwresogi; glo stêm ar gyfer symudedd. Roedd y rhain yn rhannau canolog o'r chwyldro diwydiannol.
Yn 1851, nid oedd ond 951 o bobl yn byw yng Nghymoedd y Rhondda. Erbyn 1881, roedd y ffigur yn 55,000, ac erbyn 1921, roedd yn 167,000—mwy na Cheredigion, sir Feirionnydd a sir Drefaldwyn gyda'i gilydd. Wrth gwrs, roedd y twf yn y boblogaeth a welwyd yng Nghymoedd de Cymru yn dibynnu ar fudo gwledig, a ganiataodd i lawer o Gymry aros yng Nghymru, os nad yn sir eu geni, yn hytrach na chroesi Môr yr Iwerydd er enghraifft. Ac roedd yn rhaid rhoi to uwchben y don enfawr hon o ymfudwyr economaidd. Datblygodd rhywbeth unigryw mewn ymateb i ddaearyddiaeth hardd, aruchel hyd yn oed, y Cymoedd. Yr hyn a olygaf, wrth gwrs, yw'r patrwm rhuban ar hyd ochrau'r mynyddoedd sy'n dal i fod hyd heddiw yn ddelwedd bwerus ac atgofus o Gymru, na cheir dim sy'n cyfateb iddynt heblaw cestyll gogledd Cymru o bosibl.