Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 15 Mai 2018.
Ydw, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cysylltu'r hyn sydd gan Merthyr i'w gynnig gydag atyniadau eraill yn yr ardal hefyd. Felly, canolbwynt adroddiad 'Crucible' yw adfywio castell Cyfarthfa, ond mae cyfleoedd ehangach i ddod â thirnodau treftadaeth leol eraill at ei gilydd, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffwrneisi ym Mlaenafon, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd, a bydd gallu cynnig casgliad o brofiadau o ansawdd uchel i ddarpar ymwelwyr yn bwysig yn y dyfodol.