1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mai 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52176
Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi darparu cymorth ar gyfer nifer o brosiectau cyfalaf a digwyddiadau cyffrous yn yr ardal, er enghraifft BikePark Cymru, Rock UK ac, wrth gwrs, cefnogaeth i ŵyl Merthyr Rising.
Diolch, Prif Weinidog, ac o gofio ei bod hi'n wythnos twristiaeth, mae'n debyg ei bod hi'n amserol i atgoffa ein hunain y bydd twristiaeth, diwylliant, ein hamgylchedd a'n treftadaeth yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau dyfodol llwyddiannus i'n cymunedau yn y Cymoedd gan eu bod nhw'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau economi amrywiol ochr yn ochr â sectorau traddodiadol fel gweithgynhyrchu, gwasanaethau cyhoeddus a chynnig manwerthu cynyddol gryfach erbyn hyn. Gyda hyn mewn golwg, a allwch chi fy sicrhau y bydd adroddiad diweddar 'Crucible', a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, sy'n cyflwyno gweledigaeth fawr ar gyfer y potensial enfawr ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn y dyfodol, yn derbyn ystyriaeth lawn a phriodol gan Lywodraeth Cymru fel y gall yr holl bartneriaid weithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd â'r potensial i gynnig atyniad mawr i ni yn y Cymoedd a allai fod mor llwyddiannus â Titanic Belfast neu hyd yn oed yr Eden Project yng Nghernyw?
Wel, rwy'n ymwybodol o'r adroddiad. Mae yn galw am i tua £50 miliwn gael ei wario ar orffennol diwydiannol Merthyr i'w wneud yn atyniad mawr i dwristiaid gyda'r pwyslais, wrth gwrs, ar Gastell Cyfarthfa. Edrychaf ymlaen at dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran datblygu'r cynnig a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Rwy'n deall eich bod chi wedi cyfarfod yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i drafod yr adroddiad, ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, a fydd yn parhau, heb amheuaeth, yn y dyfodol. Gwn fod swyddogion hefyd yn gweithio ar nifer o gynigion sector preifat cyffrous a fydd yn parhau i ddatblygu'r cynnig yn yr ardal. Felly, llawer iawn o ddiddordeb ac, wrth gwrs, llawer iawn i'w gynnig, cyn belled ag y mae Merthyr Tudful a Rhymni yn y cwestiwn.
Mae'r adroddiad ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru wedi amlygu bod budd enfawr y gellid ei gael o farchnata treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful, gan droi'r dref yn gyrchfan dwristiaeth flaenllaw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan strategaeth farchnata sy'n cynnwys holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y de, gan gynnwys camlesi fel Mynwy ac Aberhonddu, y potensial i roi hwb enfawr i sector dwristiaeth ein heconomi? Diolch.
Ydw, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n cysylltu'r hyn sydd gan Merthyr i'w gynnig gydag atyniadau eraill yn yr ardal hefyd. Felly, canolbwynt adroddiad 'Crucible' yw adfywio castell Cyfarthfa, ond mae cyfleoedd ehangach i ddod â thirnodau treftadaeth leol eraill at ei gilydd, gan gynnwys, wrth gwrs, y ffwrneisi ym Mlaenafon, Big Pit ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd, a bydd gallu cynnig casgliad o brofiadau o ansawdd uchel i ddarpar ymwelwyr yn bwysig yn y dyfodol.