Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Er mor bwysig yw'r materion cyfansoddiadol a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru, maen nhw bob amser yn debygol o beri llai o bryder uniongyrchol i'r person cyffredin yn y stryd na materion fel y gwasanaeth iechyd, a'r wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog, nid oeddech chi'n gallu rhoi'r sicrwydd iddo na fyddai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig erbyn i'ch tymor chi fel Prif Weinidog ddod i ben. Cyfeiriodd adroddiad Tawel Fan at yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â chreu Betsi Cadwaladr yn y lle cyntaf, ac roedd hwnnw'n dweud bod datblygiadau sefydliadol ar y raddfa honno fel rheol yn cymryd rhwng pump a saith mlynedd i'w cyflawni. Yng ngoleuni adroddiad Deloitte, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd nid yw'r trefniadau rheoli newid yn addas i'w diben ac maent yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflawni newid cynaliadwy, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n credu bod y diwylliant cywir yn bodoli, o hyd, o fewn Betsi Cadwaladr, ac a yw eu defnydd o bersonél yn ddigon da iddo allu tynnu ei hun allan o fesurau arbennig byth?