1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 15 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod Whitehall, yn gwbl amlwg, yn ceisio cipio pwerau yng nghyswllt Bil ymadael yr UE?
Rwy'n credu bod hynny'n wir, ond mae'r cytundeb sydd gennym ni gyda Llywodraeth y DU erbyn hyn wedi osgoi hynny.
Mae'n hurt ac yn codi cywilydd i'r un graddau bod y Llywodraeth hon yn dewis cymeradwyo Theresa May yn hytrach nag arweinydd ei phlaid ei hun. Mae'n anodd dod o hyd i unrhyw fanteision gwirioneddol o adael yr UE, ond roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol—[Torri ar draws.]—
A gaf i glywed arweinydd Plaid Cymru, os gwelwch yn dda? Mae angen i'r cwestiwn gael ei ofyn, os gwelwch yn dda.
Roedd un gronyn bach iawn a oedd yn gadarnhaol o'r safbwynt y byddai mwy o benderfyniadau am Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru, addawyd hynny i ni. Mae'r llygedyn hwnnw o obaith wedi diflannu erbyn hyn. Felly, Prif Weinidog, byddwn yn pleidleisio heno i dderbyn y Bil Brexit trychinebus hwn. Gallwch chi ddewis pwy i'w gefnogi: Plaid Cymru, Plaid Lafur yr Alban, pleidiau Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban a Lloegr, y Blaid Werdd, Llywodraeth yr Alban, arbenigwyr cyfreithiol a chyfansoddiadol, neu arweinydd eich plaid eich hun. Nid oes hyd yn oed unrhyw un o'r chwe phrawf a sefydlwyd gan bwyllgor materion allanol trawsbleidiol y Cynulliad hwn yn cael ei fodloni gan y cytundeb hwn. Mae mwy ar y rhestr. Neu gallwch chi gefnogi'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ac UKIP. Pa un fydd hi?
Wel, rydym ni yng Nghymru, ac, fel Llafur Cymru, rydym ni, mewn Llywodraeth, wedi negodi'n galed i gael y fargen orau i Gymru, a chredwn ein bod wedi gwneud hynny. Mater i'r Alban a Lloegr yw'r hyn sy'n digwydd yn yr Alban a Lloegr. Dyna yw hanfod datganoli. Nodaf yn y gefnogaeth a gawsom gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain a'r adroddiad a dderbyniwyd gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ac nid wyf i'n eglur o hyd beth yw safbwynt arweinydd Plaid Cymru pan ddywed, rywsut, fod pwerau yn cael eu cipio oddi wrth Gymru. Bydd pob un o'r 64 maes yn dychwelyd i Gymru pan fyddwn ni'n gadael yr UE. Bydd rhai pwerau a fydd, trwy gytundeb, yn cael eu cadw yn y rhewgell wedyn. Bydd pob Llywodraeth yn y DU yn yr un sefyllfa; ni fyddan nhw'n gallu deddfu tan y bydd cytundeb i dynnu'r pwerau hynny allan o'r rhewgell. Mae hynny'n newid enfawr o'r sefyllfa y llynedd pan fyddai'r holl bwerau wedi mynd yn syth i San Steffan, lle byddai Gweinidogion yn San Steffan wedi cael pwerau diderfyn o ran cymalau machlud, a byddent wedi penderfynu pryd ac os y byddai pwerau yn dod i'r Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon. Rydym ni wedi gwneud cynnydd aruthrol ers hynny, a dyna pam mai ni yw plaid datganoli.
A allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bwerau ychwanegol sydd wedi eu darparu gan y cytundeb hwn? Oherwydd pan oedd angen ymyrraeth San Steffan ar ein diwydiant dur, nid oedden nhw i'w gweld yn unman. Pan fydd angen cymorth ar ein ffermydd teuluol i gynnal eu busnes, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Pan fo'n hamgylchedd yn cael ei ddinistrio, a ydych chi'n ymddiried yn San Steffan i fod yno? Dyna mae'r cytundeb hwn yn ei olygu. San Steffan, ac nid Cymru, fydd yn penderfynu ar faterion sy'n bwysig i fywydau pobl yma yng Nghymru. Llywydd, mae union egwyddorion datganoli yn y fantol gyda hyn. Felly, Prif Weinidog, nawr eich bod chi'n gwybod y ffeithiau, nawr bod yr holl chwaraewyr wedi dangos eu dwylo, beth fydd hi? A ydych chi'n mynd i sefyll dros Gymru neu dros San Steffan?
Byddaf bob amser yn sefyll dros fy ngwlad. Mae'n bosib y bydd pobl eraill yn cymryd safbwynt gwahanol ar yr hyn sydd orau i Gymru, ond rwy'n parchu eu barn a hyderaf y bydd barn y rheini ar y meinciau hyn yn cael eu parchu hefyd, oherwydd ni chawsant yr wythnos diwethaf. Mae'n rhaid imi ddweud, cyn belled ag yr wyf i yn y cwestiwn—mae'n sôn am ddur—fe wnaethom ni weithio i achub ein diwydiant dur. Gwnaethom hynny gyda'r pwerau sydd gennym, a gwnaethom hynny drwy weithio gyda Tata a rhoi pecyn ariannol ar y bwrdd. O ran ffermio, mae angen inni weld faint o arian a ddaw o San Steffan, mae cymaint â hynny'n wir, oherwydd ni allwn dalu cymorthdaliadau ffermio. Mae'n bwysig dros ben bod swm cyfatebol o arian yn cael ei roi mewn pot ar lefel y DU ac yn cael ei ddosbarthu yn yr un ffordd ag y mae ar hyn o bryd hyd nes bydd cytundeb i newid y ffordd y caiff arian ei wario a'i ddyrannu. Mae cymaint â hynny yn arbennig o wir.
Ond, cyn belled ag y mae'r cytundeb hwn yn y cwestiwn, ceir cyfyngiadau ar Lywodraeth y DU sy'n cyfateb i unrhyw gyfyngiadau a fyddai ar Lywodraeth Cymru. Rydym ni mewn sefyllfa nawr lle'r rydym ni i gyd yn yr un sefyllfa. Mae pwysau mawr ar bawb ohonom ni i gytuno ar fframweithiau ymhell cyn saith mlynedd, gan fod Lloegr yn yr un sefyllfa â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon erbyn hyn. Ac felly—[Torri ar draws.] Mae'r union yr un sefyllfa â'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle'r oedd Llywodraeth y DU, flwyddyn yn ôl, yn dweud—ac nid wyf i'n siŵr a fyddai'r sefyllfa yn wahanol pe byddai ganddyn nhw fwyafrif o 100 yn Nhŷ'r Cyffredin—'Bydd yr holl bwerau yn dod atom ni. Ni fydd yn penderfynu pryd ac os byddan nhw'n dod i'r gweinyddiaethau datganoledig.' Mae hynny wedi newid; bydd y pwerau hynny'n dod atom ni. Byddwn yn cytuno sut maen nhw'n cael eu rhewi, byddwn yn cytuno ar y fframweithiau ac yna, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn yr un sefyllfa ar draws Llywodraethau yn y DU. Dyma'r tro cyntaf erioed y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i gael ei rhwymo yn y ffordd hon, ac mae hynny'n deyrnged i sgiliau negodi Mark Drakeford.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Nid yn aml yr wyf i'n dechrau cwestiynau i'r Prif Weinidog trwy ddweud fy mod i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac efallai na fydd ef eisiau'r math hwnnw o ganmoliaeth gan arweinydd yr wrthblaid yma yn y Senedd.
Hoffwn eich holi am y fasnachfraint reilffyrdd, Prif Weinidog, a'r ymarfer tendro sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Yn amlwg, mae llawer o edrych ymlaen at y gwelliannau i'r fasnachfraint reilffyrdd y mae pobl eisiau eu gweld. Rwy'n credu, ar draws y Siambr hon, fod pobl yn cydnabod yn gyffredinol fod y 15 mlynedd diwethaf wedi bod yn anodd, gadewch i ni ddweud, oherwydd nad oedd unrhyw dwf wedi ei gynnwys yn y fasnachfraint ddiwethaf a ddyfarnwyd. Fe ddywedasoch chi ddoe, yn agoriad yr orsaf newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r daith ddilynol yr aethoch arni, ei bod hi'n annhebygol y bydd unrhyw welliannau gwirioneddol am o leiaf pedair blynedd i mewn i'r fasnachfraint. Dyna oedd eich geiriau. Yn ôl ym mis Mehefin y llynedd, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor a ymchwiliodd i hyn, y byddai gwelliannau cynnar iawn yn y fasnachfraint reilffyrdd nesaf. Pam mae gwahaniaeth erbyn hyn yn y llinellau amser ar gyfer gweld y gwelliannau y mae teithwyr, gwleidyddion a busnesau eisiau eu gweld, oherwydd roedd eich asesiad ddoe yn nodi y bydd y gwelliannau hynny yn digwydd bron i draean y cyfnod i mewn i oes y fasnachfraint nesaf?
Na, yr hyn a ddywedais i oedd y bydd pobl yn dechrau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau yn fuan iawn, yn sicr dros y flwyddyn nesaf. Ond, o ran trenau newydd, wel, yn amlwg, maen nhw'n cymryd amser i'w caffael a'u hadeiladu, ac o ran trydaneiddio, er enghraifft, o ran trenau newydd, o ran ceisio ymestyn y rhwydwaith presennol, wel, wrth gwrs, byddai hynny'n mynd â ni i ddechrau'r flwyddyn nesaf. Bydd pobl yn dechrau gweld newidiadau yn gynnar, ond bydd y newid sylweddol yn dod, rwy'n amau, ymhen tua pedair neu bum mlynedd pan fydd pobl yn gweld trenau newydd a dulliau newydd o dyniant yn cael eu cyflwyno.
Rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddoe wedi drysu'r sefyllfa i lawer o bobl, oherwydd cawsom ein harwain i gredu y byddai newid yn dod yn y blynyddoedd cynnar iawn, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad yr ydych chi wedi ei roi. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Chwefror y byddai'r cyhoeddiad ynghylch enillydd y broses dendro yn cael ei wneud ym mis Mai eleni. Nid wyf i'n gweld dim yn y flaenraglen ar gyfer yr wythnos nesaf am unrhyw gyhoeddiad sydd i'w wneud. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn dal i gael ei wneud ym mis Mai ynghylch pwy fydd yr ymgeisydd a ffefrir ac y bydd y fasnachfraint yn dechrau ym mis Hydref eleni, fel y nodwyd yn yr amserlen wreiddiol?
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw oedi yn y broses, ac rydym ni eisiau gwneud y cyhoeddiad cyn gynted â phosib.
Felly, ar y llinell amser yr wyf i newydd eich holi amdani, h.y. bydd cyhoeddiad yr ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud ym mis Mai eleni ac, yn amlwg, ym mis Hydref bydd y fasnachfraint ei hun yn dechrau, ac o gofio'r gwahaniaeth o ran dehongli gwelliannau, h.y. y gwelliannau mawr ymhen pedair neu bum mlynedd, beth allwch chi hefyd ei nodi fel yr enillion cyflym y gellir eu nodi ar gyfer gwelliannau cynnar? A gaf i ofyn i chi gadarnhau bod cydymffurfiad o hyd â'r llinell amser o ran y fasnachfraint, gyda'r cyhoeddiad y mis hwn, a byddai'n braf ei gael yn y Siambr hon, o gofio mai'r toriad hanner tymor yw wythnos ddiwethaf mis Mai, fel y gallwn holi Ysgrifennydd y Cabinet a deall yn union beth sy'n digwydd?
Gallaf gadarnhau hynny. O ran yr hyn y bydd pobl yn ei weld ar unwaith, wel, yr hyn y byddem ni'n dymuno ei weld yw gwasanaethau newydd a gwasanaethau amlach, ond nid, yn amlwg, gyda threnau newydd bryd hynny o reidrwydd. Yna, ceir y cwestiwn o drydaneiddio a sut y mae hynny'n cael ei gyflwyno, ac yna trenau newydd yn cael eu caffael o ganlyniad i drydaneiddio. Felly, bydd pobl yn gweld newidiadau pan fydd y fasnachfraint yn cael ei rhoi ar dendr, ond mae'r newidiadau mawr yn sicr o ddod ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth i ni edrych ar natur newidiol y rheilffyrdd trwy drydaneiddio ac wrth i ni edrych ar gerbydau newydd. Dyna pryd y bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth mawr yn ansawdd y trenau.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Er mor bwysig yw'r materion cyfansoddiadol a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru, maen nhw bob amser yn debygol o beri llai o bryder uniongyrchol i'r person cyffredin yn y stryd na materion fel y gwasanaeth iechyd, a'r wythnos diwethaf, mewn ateb i arweinydd yr wrthblaid, Prif Weinidog, nid oeddech chi'n gallu rhoi'r sicrwydd iddo na fyddai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig erbyn i'ch tymor chi fel Prif Weinidog ddod i ben. Cyfeiriodd adroddiad Tawel Fan at yr anawsterau a oedd yn gysylltiedig â chreu Betsi Cadwaladr yn y lle cyntaf, ac roedd hwnnw'n dweud bod datblygiadau sefydliadol ar y raddfa honno fel rheol yn cymryd rhwng pump a saith mlynedd i'w cyflawni. Yng ngoleuni adroddiad Deloitte, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ddywedodd nid yw'r trefniadau rheoli newid yn addas i'w diben ac maent yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gyflawni newid cynaliadwy, a all y Prif Weinidog ddweud wrthym a yw'n credu bod y diwylliant cywir yn bodoli, o hyd, o fewn Betsi Cadwaladr, ac a yw eu defnydd o bersonél yn ddigon da iddo allu tynnu ei hun allan o fesurau arbennig byth?
Rwy'n credu y gall dynnu ei hun allan o fesurau arbennig. Nid yw yno eto. Nid wyf i erioed wedi bod yn rhywun a fyddai'n rhoi amserlen artiffisial ar bryd y dylai ddod allan o fesurau arbennig. Credaf ei bod yn bwysig ei fod yn dod allan o fesurau arbennig pan fydd yr amser yn briodol ac yn iawn. Pryd fydd hynny, byddai'n rhaid i ni wneud penderfyniad ar y pryd. Ceir heriau i Betsi Cadwaladr o ganlyniad i'r hyn oedd yn adroddiad Tawel Fan, mae cymaint â hynny'n wir, a bydd angen iddyn nhw ymateb i'r heriau hynny, ond nid wyf i'n credu, er enghraifft, mai ad-drefniad arall o'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd fyddai'r ateb. Credaf fod sefydlogrwydd yn hollbwysig ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
Rwy'n deall y pwynt y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud, ac mae gen i lawer iawn o gydymdeimlad ag ef. Ond mae adroddiad Deloitte yn nodi nifer o wendidau systemig hirdymor sy'n peri pryder, y bydd angen rhoi sylw iddynt os yw'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yn y gogledd yn mynd i gael ei gwella'n sylweddol. Er enghraifft, o ran y grwpiau gweddnewid sydd i fod i gyflawni'r gwelliannau yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld, dywedir bod yr amcanion wedi eu diffinio'n wael; nid yw'n ymddangos bod arweinwyr y grŵp yn eglur hyd yn hyn ynghylch atebolrwydd y tu allan i'w his-adrannau eu hunain, ac nid ydynt wedi sicrhau unrhyw ganlyniadau pendant hyd yn hyn; dywedir bod aelodau staff gwella gwasanaethau ar lefel rhy iau; ceir diffyg dadansoddi a meincnodi manwl; ceir pryder ynghylch y swyddfa rheoli prosiect ynghylch pa un a yw'r set sgiliau yn bodoli i fynd i'r afael â'r agenda gweddnewid; ac wrth ymateb i gwestiwn gan Deloitte ynghylch pa un a oes digon o allu rheoli prosiect a chapasiti i gefnogi darpariaeth ar draws y cynllun ariannol, dywedodd mwyafrif y rheolwyr, y cyfarwyddwyr cyllid ac aelodau'r timau swyddogaeth cyllid canolog naill ai na allent ddweud neu eu bod yn anghytuno. Felly, a ydym ni mewn gwirionedd mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle gallwn ni ddweud ein bod ni hyd yn oed wedi dechrau'r cynllun gwella hwn i unrhyw raddau sylweddol?
Bu gwelliannau i berfformiad, ond mae cryn dipyn i'w wneud o hyd, ac mae arweinydd UKIP yn iawn i nodi'r gwendidau y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, a dyna pam y bydd Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig hyd nes y gallwn fod yn sicr fel Llywodraeth, ac yn wir y gall y Cynulliad fod yn sicr, ei fod yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith eto.
Cafwyd rhai sylwadau damniol yn adroddiad Deloitte am arweinyddiaeth yn Betsi Cadwaladr, ac yn benodol: cyfarwyddwyr gweithredol yn gweithredu mewn seilos; diffyg perchnogaeth ac atebolrwydd corfforaethol ar y cyd; dywedwyd bod portffolio'r prif swyddog gweithredu yn rhy fawr i un unigolyn, gan reoli cyllideb o dros £800 miliwn y flwyddyn; cyfarwyddwyr gweithredol eraill yn dal i sefydlu eu portffolios; diffyg dealltwriaeth ronynnog y bydd angen i gamau gweithredu'r bwrdd iechyd ei darparu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol. O ystyried y cyhuddiadau parhaus hynny, onid oes achos dros gael Llywodraeth Cymru i gymryd hyd yn oed mwy o ran yn y broses weddnewid nag y mae eisoes yn ei chymryd, a bod gan dîm arweinyddiaeth presennol Betsi Cadwaladr dasg sy'n rhy fawr iddyn nhw ei chyflawni o fewn cyfyngiadau strwythur gweinyddol Betsi Cadwaladr a'r gyllideb sydd ar gael iddyn nhw?
Nac oes. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr yn golygu nad yw'r strwythur newydd wedi ei ymwreiddio eto, a dyna pam, wrth gwrs, mae'n dal i fod mewn mesurau arbennig, a dyna pam yr wyf i wedi bod yn gwbl gadarn erioed o ran dweud y bydd yn aros mewn mesurau arbennig tan y bydd yn gallu gadael. Pe byddwn i'n dweud, er enghraifft, 'Wel, bydd yn gadael mesurau arbennig erbyn dyddiad x', wel, yn anochel, rwy'n credu y byddai hynny'n cael gwared ar rywfaint o'r pwysau cadarnhaol o ran gwneud yn siŵr bod y bwrdd iechyd yn addas i'w ddiben yn y dyfodol, ac nid wyf i'n bwriadu gwneud hynny. Gan weithio gyda'r bwrdd, rydym ni'n bwriadu gwneud yn siŵr bod y bwrdd yn ceisio sicrhau sefyllfa lle mae'n gallu rhedeg ei hun y tu allan i fesurau arbennig yn y dyfodol.