Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 15 Mai 2018.
Rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddiwyd gennych chi ddoe wedi drysu'r sefyllfa i lawer o bobl, oherwydd cawsom ein harwain i gredu y byddai newid yn dod yn y blynyddoedd cynnar iawn, ond rwy'n falch o gael yr eglurhad yr ydych chi wedi ei roi. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Chwefror y byddai'r cyhoeddiad ynghylch enillydd y broses dendro yn cael ei wneud ym mis Mai eleni. Nid wyf i'n gweld dim yn y flaenraglen ar gyfer yr wythnos nesaf am unrhyw gyhoeddiad sydd i'w wneud. A all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y cyhoeddiad yn dal i gael ei wneud ym mis Mai ynghylch pwy fydd yr ymgeisydd a ffefrir ac y bydd y fasnachfraint yn dechrau ym mis Hydref eleni, fel y nodwyd yn yr amserlen wreiddiol?