Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 15 Mai 2018.
Felly, ar y llinell amser yr wyf i newydd eich holi amdani, h.y. bydd cyhoeddiad yr ymgeisydd a ffefrir yn cael ei wneud ym mis Mai eleni ac, yn amlwg, ym mis Hydref bydd y fasnachfraint ei hun yn dechrau, ac o gofio'r gwahaniaeth o ran dehongli gwelliannau, h.y. y gwelliannau mawr ymhen pedair neu bum mlynedd, beth allwch chi hefyd ei nodi fel yr enillion cyflym y gellir eu nodi ar gyfer gwelliannau cynnar? A gaf i ofyn i chi gadarnhau bod cydymffurfiad o hyd â'r llinell amser o ran y fasnachfraint, gyda'r cyhoeddiad y mis hwn, a byddai'n braf ei gael yn y Siambr hon, o gofio mai'r toriad hanner tymor yw wythnos ddiwethaf mis Mai, fel y gallwn holi Ysgrifennydd y Cabinet a deall yn union beth sy'n digwydd?