Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae dau amcan, yn fy marn i, i'r ymarfer: yn gyntaf oll, cael yr ymgynghoriad llawnaf posibl, ac, yn ail, sicrhau bod yr hyn yr ydym ni'n ei weld, nid yn unig yn Hywel Dda, ond ledled Cymru, yn cynrychioli’r gwasanaeth iechyd gorau, mwyaf diogel a mwyaf cynaliadwy ar gyfer y boblogaeth. Mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, fel Llywodraeth, eisiau ei weld ledled Cymru.