Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Mai 2018.
Beth yw hi ynglŷn â datganoli, Llywydd, nad yw Plaid Cymru yn ei ddeall? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod? [Torri ar draws.] Ble maen nhw wedi bod wedi dros yr 20 mlynedd diwethaf? Mae gwleidyddion yr Alban yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn y mae'n nhw'n credu sy'n iawn ar gyfer yr Alban. Mae'r Cynulliad hwn yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn yr ydym ni'n credu sy'n iawn i Gymru. Beth yw hi ynglŷn â'r gosodiad syml hwnnw y mae Plaid Cymru yn ei chael hi mor anodd deall?