Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 15 Mai 2018.
Roeddwn yn dilyn hynny yn agos, ond efallai y gall ef fy helpu i yma, oherwydd bod pawb arall, mae'n ymddangos—fel y clywsom ni gan arweinydd Plaid Cymru yn gynharach—yn eich plaid eich hun, Plaid Lafur yr Alban, ac arweinydd Plaid Lafur y DU, yn credu bod y darpariaethau hynny yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn sarhad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar egwyddorion datganoli democrataidd. Pam ydych chi'n gywir a nhw'n anghywir?