3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:59, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Er bod y setliad datganoli efallai yn wahanol i'r Alban ag ydyw ar gyfer Cymru, er efallai bod cwestiynau gwahanol o ran beth i'w wneud â phwerau gwahanol yn yr Alban ac yng Nghymru, yr un yw'r egwyddor, a'r egwyddor yma yw, o ran yr Alban, mae pobl allweddol yn eich plaid, gan gynnwys arweinydd eich plaid, yn credu bod hyn yn sarhad ar ddemocratiaeth, ond yng Nghymru am ryw reswm nid yw. Yr un peth ydyw yn union o ran yr egwyddor.