Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 15 Mai 2018.
Mae hynny'n ddiffyg dealltwriaeth llwyr, Llywydd. Lle pobl yn yr Alban yw rhoi sylwadau ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, a'u lle nhw yw rhoi sylwadau ynglŷn â beth sy'n iawn iddyn nhw yn eu hamgylchiadau. Yr Alban—lle, gadewch i ni beidio ag anghofio, y pleidleisiodd mwyafrif y boblogaeth leol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yma yng Nghymru, mae ystyriaethau gwahanol, pwerau gwahanol, trefniadau gwahanol yn berthnasol. Rydym ni'n trafod beth sy'n iawn i Gymru, ac mae'r cytundeb a gyflwynwn yn un yr ydym ni'n gwybod sy'n iawn ar gyfer datganoli ac yn iawn ar gyfer ein cenedl hefyd.
A chaniatewch i mi egluro hefyd, Llywydd, os caf i, unwaith ac am byth, beth mae 'cydsyniad' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn. Mae cydsyniad yn golygu bod y Cynulliad wedi pleidleisio yn gadarnhaol o blaid cyflwyno'r rheoliadau drafft gerbron y Senedd. Dyna ystyr cydsyniad, a dim byd arall.
Yn drydedd elfen o amddiffyniad, Llywydd, mae Llywodraeth y DU wastad wedi honni y byddai'r cyfyngiadau a ragwelwyd yn y Bil gwreiddiol yn rhai dros dro, ond nid oedd dim yn y Bil hwnnw i gadarnhau hynny. Bellach, mae yna gymalau machlud ar wyneb y Bil. Mae rhai wedi dadlau y gellid ymestyn y rhain yn ddi-ben-draw, ond caniatewch imi fod yn glir eto: nid yw'r Bil hwn yn caniatáu i hynny ddigwydd. Yr unig ffordd y gellid ymestyn cymalau machlud fyddai drwy ddeddfwriaeth seneddol newydd, a byddai'r ddeddfwriaeth seneddol newydd honno wrth gwrs yn amodol ar ganiatâd y Cynulliad.
Mewn pedwerydd datblygiad, mae'r cytundeb yn rhoi sicrwydd diamwys na fydd Gweinidogion y DU yn cyflwyno gerbron y Senedd unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Lloegr sy'n gwneud newidiadau i ddargadw cyfraith yr UE mewn meysydd fframwaith. Fel y dywedodd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ei adroddiad, ddoe, mae'r gydnabyddiaeth hon o Loegr yn y cytundeb yn gyfansoddiadol nodedig. Mae'n un ffordd yn unig, Llywydd, o sut mae'r cytundeb yn torri tir newydd er mwyn amddiffyn datganoli a sut fydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu yn y dyfodol. Mae chwarae teg wedi ei chreu, mae'n berthnasol i'r holl weinyddiaethau, a bellach mae er budd pawb, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, i gytuno ar reolau newydd cyn gynted â phosib o ran yr hyn fydd yn digwydd ar ôl gadael yr UE.
Yn olaf, mae'r cytundeb yn ei gwneud hi'n glir y caiff unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd sy'n sefydlu fframweithiau DU newydd eu negodi, eu negodi gyda phob partner yn dod ynghyd i drafod fel aelodau cydradd, ac y bydd angen cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad ar ganlyniadau negodiadau o'r fath yn unol ag egwyddorion arferol.
Llywydd, hoffwn orffen drwy fynd i'r afael â rhai o'r materion cyfansoddiadol ehangach y mae'r Bil yn eu hamlygu. Nid yw llawer o'r gwrthwynebiadau a'r beirniadaethau yr wyf i wedi eu clywed yn y dyddiau a'r wythnosau diwethaf wedi bod ynghylch y Bil neu'r cytundeb o gwbl. Maen nhw wedi bod ynglŷn â chonfensiwn Sewel ei hun, confensiwn y dywed adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fod ei rym 'wedi cael ei gynnal a'i atgyfnerthu' o ganlyniad i'r cytundeb hwn.
Rwyf hefyd wedi clywed llawer o feirniadaeth anwybodus o'r fformiwleiddiad 'anarferol' yn y cytundeb, fel petaem ni, drwy gytuno i hynny, rywsut wedi 'bradychu', fel y dywedir wrthym ni, datganoli, yn yr ymadrodd sarhaus hwnnw. Ond mae'r ymrwymiad y bydd hi'n 'anarferol' i ddeddfu heb ganiatâd yn Neddf Llywodraeth Cymru, y rhoddodd y Cynulliad hwn ei gydsyniad iddo, ac yna mae yn Neddf Yr Alban hefyd. Ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae angen inni symud y tu hwnt i Sewel a'r fformiwla 'anarferol'? Wel, rwy'n cytuno â'r casgliad y daeth yr Athro Michael Keating, Prifysgol Aberdeen, iddo yn ddiweddar, pan ddywedodd fod confensiwn Sewel wedi gweithio'n dda ers bron i 20 ugain mlynedd, ond ni chafodd ei gynllunio i ysgwyddo'r baich y mae Brexit bellach yn ei osod arno. Dyna pam, yn 'Brexit a Datganoli', y dadleuodd Llywodraeth Cymru dros greu cyngor newydd o Weinidogion ar gyfer y DU, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau terfynol gyda chefnogaeth dulliau datrys anghydfod ac ysgrifenyddiaeth annibynnol, ac a fyddai'n gweithredu llawer mwy yn llygad y cyhoedd.
Llywydd, ni roddwyd y farwol o bell ffordd i'n huchelgeisiau ar gyfer datganoli gan y cytundeb y daethpwyd iddo, ond ein nod o'r cychwyn oedd cael Bil ymadael sy'n rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau a dinasyddion ynglŷn â'r hawliau, y rhwymedigaethau a'r cyfrifoldebau a fydd yn bodoli ar yr adeg y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni wedi amddiffyn ac atgyfnerthu ein setliad datganoli. Rydym ni wedi darparu ar gyfer gweithredu llwyddiannus y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit. Rydym ni wedi cyflawni bargen dda ar gyfer y Cynulliad a bargen dda i Gymru. Rwy'n falch o ofyn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn y prynhawn yma.