Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch. Dywedodd mai'r dewis arall oedd dychwelyd at ddrafft anfoddhaol y Bil blaenorol, ond onid yw hi'n wir, mewn gwirionedd, bod ei Lywodraeth wedi diogelu pobl yr Alban a'u setliad datganoli, ac mai ei negodi ef o'r hyn y mae wedi cytuno arno ar gyfer Cymru a fydd yn berthnasol bellach i'r Alban, er nad yw Nicola Sturgeon wedi gwneud y peth synhwyrol y mae ei Lywodraeth ef wedi ei wneud?