Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Chwefror eleni, roedd modd imi ddweud wrth yr Aelodau am fwriad Llywodraeth Cymru i brofi dull newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i sefydlu trethi Cymreig penodol drwy geisio datganoli pwerau ar gyfer treth Gymreig ar dir gwag. Proses gyfan gwbl newydd yw hon, ac nid ydy’r Cynulliad na Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cynnig arni o’r blaen. Y cam cyntaf oedd cytuno ar y camau angenrheidiol yn y broses i sicrhau bod y pwerau perthnasol yn cael eu trosglwyddo.