Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 15 Mai 2018.
O ganlyniad i hyn, Dirprwy Lywydd, mae protocol wedi cael ei gytuno arno nawr, fel y nodais yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 29 Mawrth. Mae'r protocol hwnnw'n nodi proses dau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn i'r Cynulliad, ynghyd â Dau Dŷ Senedd y DU, gytuno ar ddrafft Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a fydd yn nodi gallu'r Cynulliad i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru. Os bydd y cam cyntaf hwnnw yn llwyddiannus, lle Llywodraeth Cymru fydd dod â chynigion manwl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi Aelodau i benderfynu a ddylid pasio unrhyw dreth arfaethedig yn gyfraith.
Er bod gan Senedd y DU ei rhan yn y penderfyniad i ddatganoli'r pwerau hyn i Gymru, lle'r Cynulliad hwn fydd penderfynu sut y bydd pwerau o'r fath yn cael eu defnyddio. Rwy'n hyderus bod y broses yr ydym wedi llwyddo i gytuno arni yn gwir adlewyrchu'r gwahanol gyfrifoldebau hynny.
Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, mae'r broses ar gyfer trosglwyddo pwerau nid yn unig yn gofyn i'r pwerau gael eu trosglwyddo gan Senedd y DU; mae gofyn iddyn nhw hefyd gael eu derbyn gan y Cynulliad hwn, pe byddai'r Cynulliad yn dewis gwneud hynny. Rwyf wedi ymrwymo o hyd i weithio ar y cyd ag Aelodau yn hyn o beth, gan sicrhau y rhoddir yr wybodaeth berthnasol i'r Cynulliad, a dylai hynny ddigwydd drwy gydol y broses.
Os mai honno yw'r broses yr ydym wedi cytuno arni, roeddwn yn credu y byddai'n ddefnyddiol nodi'r disgwyliadau ar gyfer y camau nesaf. Fy mwriad i yw y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn tymor yr hydref eleni i gyflwyno cais ffurfiol i Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, buaswn yn gobeithio y bydd deddfwriaeth yn cael ei rhoi gerbron y Cynulliad a Senedd y DU i geisio cytundeb ar drosglwyddo'r pwerau hyn.
Dirprwy Lywydd, os mai dyma'r modd o roi prawf ar bosibliadau'r Ddeddf Cymru 2014 newydd, rwy'n troi nawr at ddiben y dreth tir gwag ynddi'i hun. Fel y trafodwyd o'r blaen yn y Cynulliad hwn, gall fod nifer o ddibenion i drethiant. Bwriad treth ar dir gwag yw cymell ymddygiad cadarnhaol, yn hytrach na chodi refeniw yn bennaf. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi eisoes yn addas ar gyfer ei ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid y cydbwysedd o ran cymhellion fel y gallwn annog y datblygiadau a fydd yn helpu i ddarparu'r tai a'r cyfleoedd economaidd y mae eu hangen yn fawr yng Nghymru. Ac ar yr un pryd, honno yw'r dreth y gellir ei rhoi ar waith i gefnogi ein hamcanion adfywio.
Y nod yw peidio â gwneud bywyd yn fwy anodd i fwyafrif y busnesau cyfrifol a'r tirfeddianwyr sy'n gwneud y gwaith pwysig o ddatblygu tir ar gyfer defnydd masnachol neu breswyl. Y nod, yn hytrach, yw ennyn newidiadau yn ymddygiad y lleiafrif sydd â'u bryd ar hapfasnachu yn annheg ar y cynnydd yng ngwerthoedd tir, a thagu tir y gellid ei ddefnyddio er budd pobl a chymunedau.
Dirprwy Lywydd, er mwyn i drethiant fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, mae'n rhaid ei ystyried, nid ar wahân, ond yn rhan o gyfres o ddatrysiadau a gynllunir i annog defnydd a datblygiad effeithiol o dir yng Nghymru. Un arf yn unig yw hwn sydd ar gael inni gyflawni'r diben hwnnw, ond mae'r diben hwnnw'n un pwysig. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i safleodd datblygu sydd ar stop fod ychydig dros 400 o safleoedd ar stop ledled Cymru pan gafodd ei gyhoeddi, yn 2015. Roedd y safleodd hyn ar stop yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau preswyl, gyda 7,600 o leiaf o gartrefi ynghlwm â'r safleoedd hyn ledled Cymru.
Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio adolygiad annibynnol o gyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, mae'r adolygiad hwn yn cynnig inni'r cyfle i archwilio'r ffyrdd o gynyddu nifer y cartrefi a adeiladwyd drwy gyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at dai cymdeithasol, ac i edrych ar ansawdd safonau'r tai fforddiadwy. Mae'n rhaid inni ddal ati i fod â diddordeb, nid yn unig yn nifer ond yn ansawdd y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, er bod treth ar dir gwag yn syniad newydd i ni, yn sicr nid yw'n beth newydd mewn rhannau eraill o'r byd. Nid yw'r materion a wynebwn yn unigryw i Gymru; maen nhw'n bodoli ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn Lloegr, o ganlyniad i sylwadau a wnaeth Canghellor y Trysorlys mewn cyllideb gynharach, ceir cydnabyddiaeth o'r materion hyn, gydag adolygiad yn digwydd bellach o'r bwlch rhwng rhoi'r caniatâd cynllunio ac adeiladu'r tai. Cyhoeddodd yr ymchwiliad hwnnw, o dan gadeiryddiaeth Oliver Letwin, ddatganiad rhagarweiniol ym mis Mawrth, yn nodi ffactorau sy'n llesteirio datblygiadau wedi i'r caniatâd cynllunio gael ei roi. Bwriad yr adolygiad yw cyflwyno adroddiad llawn erbyn datganiad y Canghellor yn yr hydref yn ddiweddarach eleni.
Erbyn hyn, mae gwledydd eraill eisoes yn defnyddio treth i helpu i fynd i'r afael â broblem hon. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, fel y gŵyr yr Aelodau yma, maen nhw wedi cyflwyno ardoll safleoedd gwag yn ddiweddar i annog datblygiad tir diffaith a gwag. Yn yr un modd, mae bwrdeistrefi yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio trethiant yn llwyddiannus hefyd i annog datblygiad tir diffaith.
Mae'r darlun rhyngwladol yn awgrymu y gall trethiant yn sicr fod yn arf pwerus i hybu datblygiad. Nid dweud yw hynny, wrth gwrs, fod modd inni godi a gollwng y profiadau hyn o weinyddiaethau eraill yn y cyd-destun Cymreig, ond ceir digon o dystiolaeth yn sicr i awgrymu bod hwn yn ddull sy'n deilwng o'i ymchwilio ymhellach.
Dirprwy Lywydd, mae'n egwyddor sylfaenol gan Lywodraeth Cymru y dylai datblygiad polisi, yn drethiant neu beidio, fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Gan hynny, cam cyntaf ein gwaith fydd ymroi eto i adeiladu'r dystiolaeth honno i sicrhau ein bod yn cyrraedd y ddealltwriaeth orau posib o'r materion a sut y gallai ein hymyriadau fynd i'r afael â nhw. Trwy fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn awr, byddwn mewn sefyllfa gadarn i wneud penderfyniadau angenrheidiol pe cytunir ar y pwerau angenrheidiol. Mae cwestiynau pwysig ynglŷn â'r modd y gallwn gymell ymddygiad cadarnhaol yn y sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, a sut y gallai'r polisi wasanaethu i annog adfywiad tir trefol sy'n ddiffaith neu nad oes digon o ddefnydd ohono, yn ogystal â darparu tai.
Rwy'n cydnabod mai dim ond trwy gydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid y gallwn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion heb roi baich anfwriadol ar adeiladwyr a datblygwyr cyfrifol. I'r perwyl hwnnw, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi dechrau cyfrannu at ddatblygu'r cynigion hyn yn barod.