Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwyf eisiau rhoi'r newyddion diweddaraf i chi ar agweddau seilwaith digidol fy mhortffolio.
Rwyf am ddechrau drwy ganolbwyntio ar fand eang. Daeth cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru i ben ym mis Chwefror, ac, ers hynny, buom yn gweithio i ddatrys tair problem sy'n dal i fodoli. Yn gyntaf, buom yn ystyried pa un a all Llywodraeth Cymru weithio gyda BT i gwblhau'r adeiledd a ddechreuodd BT eu gosod yn ystod cyfnod cyflwyno Cyflymu Cymru. Mae adeiledd o'r fath wedi achosi rhwystredigaeth ymhlith defnyddwyr sy'n dweud eu bod yn gweld ffeibr wedi ei lapio o amgylch polion, ac yn amlwg nid oes unrhyw obaith realistig y byddan nhw'n gallu derbyn gwasanaeth ffeibr. Rydym yn gobeithio cwblhau'r broses hon ddiwedd mis Mai. Yn ail, rydym wedi bod yn ailedrych gyda BT ar bob un pecyn cais a gyflwynwyd ganddynt dros y pum mlynedd diwethaf i lanhau'r data a chadarnhau pa safleoedd yn y diwedd gafodd wasanaethau 30 Mbps o ganlyniad i'n hymyrraeth yn y farchnad. Er nad wyf mewn sefyllfa i gadarnhau'r ffigwr heddiw, gallaf gadarnhau, wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan gytundeb y grant, fod BT wedi darparu mwy o lawer o safleoedd nag oedd y ddwy ochr yn ei ragweld ar ddechrau'r prosiect hwn. Yn olaf, rydym wedi bod yn sefydlu'r prosesau a'r adnoddau sydd eu hangen i gefnogi'r weithred gymhleth o daliadau a fydd yn cadarnhau'r gwariant cymwys terfynol o dan gytundeb y grant. Hyd yma, rydym wedi talu £300 i BT am bob safle, fodd bynnag, oherwydd bod y cyfnod cyflenwi wedi dod i ben mae'n rhaid inni bellach weithio gyda'n gilydd i fantoli'r cyfrifon a sicrhau bod pob gwariant yn gymwys ac yn eglur. Bydd hi'n cymryd sawl mis i'r broses hon ddod i ben, ond mae'n hanfodol sicrhau nad yw BT yn elwa ar unrhyw or-daliad o gymhorthdal.
Er bod nifer o ddefnyddwyr yn dal yn rhwystredig gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau y maen nhw eu hangen, mae'n rhaid i ni beidio ag anghofio llwyddiant sylweddol Cyflymu Cymru o ran rhoi mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy i filoedd o gartrefi a busnesau na fyddent wedi elwa heb ein hymyrraeth ni. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £80 miliwn er mwyn cyrraedd cynifer o'r safleoedd sydd ar ôl â phosibl. Rwyf yn rhagweld y bydd £62.5 miliwn yn ariannu'r prosiect a fydd yn olynu Cyflymu Cymru. Gallaf ddweud bod ein paratoadau ar gyfer y cynllun a fydd yn olynu Cyflymu Cymru yn mynd rhagddynt yn dda, gyda'r broses dendro yn mynd rhagddi a disgwylir iddi ddod i ben ym mis Mehefin. Rwy'n bwriadu cyhoeddi pwy fydd yn llwyddiannus cyn toriad yr haf, gyda'r gwaith gosod yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Mae'n amlwg o'r cynlluniau eraill ledled y DU y bydd y gost o ymdrin â'r safleoedd sydd ar ôl yn uwch o lawer na chost y rhai a gafodd eu cysylltu yn ystod cyfnod cyflenwi Cyflymu Cymru. Mae'r safleoedd sydd yn dal i fod heb y gwasanaethau yn fwy gwasgaredig ac yn anos eu cyrraedd. Dyma pam yr ydym yn buddsoddi £31.5 miliwn yn ychwanegol drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru.
Mae'r dirwedd ddigidol yn esblygu drwy'r amser felly mae'n rhaid inni edrych i'r dyfodol yn gyson i ddeall beth fydd anghenion busnesau a thrigolion ac i weld os yw ein hymyraethau yn parhau i ddiwallu'r anghenion hynny. Ar hyn o bryd rydym ni'n edrych i weld sut y gallwn ni gefnogi ac ysgogi 'r cynnydd er mwyn cyrraedd cysylltedd ffeibr llawn. Rwyf yn falch o ddweud bod y gyfran o gartrefi a busnesau yn ardal ymyrraeth Cyflymu Cymru sy'n cael gwasanaeth ffeibr llawn yn fwy na dwywaith y gyfran yn y DU yn ei chyfanrwydd. Oherwydd inni gyrraedd ein targed o 30 Mbps fe berswadiwyd BT i fuddsoddi mewn nifer sylweddol o ffeibr ar gyfer safleoedd mewn ardaloedd gwledig iawn yng Nghymru. Mae mwy o ffeibr yn cyrraedd safleoedd ym Mhowys nag yn unman arall yn rhwydwaith BT ar hyn o bryd, a chafodd y dechnoleg ffeibr i'r safle sydd nawr yn cael ei defnyddio ar draws y DU gan Openreach ei defnyddio gyntaf yng Nghymru. Yn yr un modd, yr ydym wedi cynllunio'r strategaeth gaffael er mwyn ffafrio gwasanaethau ffeibr llawn fel y gallwn hybu hyd yn oed mwy o dreiddio ffeibr llawn ble yr ydym yn buddsoddi arian cyhoeddus. Er gwaethaf ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy na £90 miliwn, rwyf yn argyhoeddedig nad yw hyd yn oed yr arian hwn yn ddigon i sicrhau bod y gwasanaethau yn cyrraedd pob safle sydd ar ôl. I wneud hynny bydd angen ymyraethau ategol sy'n gallu gweithredu ochr yn ochr â'r buddsoddiad hwn a chynnig atebion i'r rhai nad ydyn nhw wedi eu cynnwys. Mae angen inni sicrhau bod yr ymyraethau ategol hyn yn ymdrin ag anghenion lleol, adlewyrchu'r galw lleol am wasanaethau a chyd-fynd â'n darpariaeth ehangach. Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i ymhelaethu ar hyn cyn toriad yr haf.
Bydd Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi adolygu ein cynlluniau mynediad i fand eang Cymru a thaleb cysylltedd cyflym iawn. Rwyf yn falch o gadarnhau ei bod yn fwriad gennyf i barhau i gynnig talebau wrth gefn yn ystod y dyfodol agos. Mae'r gwaith o symleiddio'r prosesau cais er mwyn gwella profiad y rhai sy'n cael y talebau yn mynd rhagddo. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fod Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun talebau gigabit ledled y DU fis diwethaf. Felly, rwyf yn adolygu ein cynllun talebau cysylltedd cyflym iawn i weld a yw'n parhau'n berthnasol er mwyn osgoi dyblygu ac unrhyw ddryswch, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf. Yn olaf, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun newydd sy'n cefnogi cymunedau lle nad yw'n darpariaethau diweddaraf wedi eu cyrraedd, a hefyd y lleoedd lle nad yw cymorth taleb efallai yn cynnig ateb addas. Ni fydd y dull hwn o weithredu yn cael ei gadarnhau hyd nes y bydd y broses caffael presennol wedi dod i ben a'i bod yn eglur i ble y bydd y cyflenwr llwyddiannus yn cyrraedd.
Mae mynediad i fand eang yn amlwg yn fater pwysig. Fodd bynnag, ar gyfer busnesau sydd â mynediad, mae hi yr un mor bwysig i gael y mwyaf allan ohono i gynyddu cynhyrchiant, effeithlonrwydd ac ychwanegu gwerth. Byddwch wedi gweld y cyhoeddiad heddiw ynghylch arolwg aeddfedrwydd digidol Prifysgol Caerdydd. Mae'r arolwg hwn yn dangos bod busnes sy'n ymgysylltu fwyfwy â'r byd digidol yn fwy tebygol o lwyddo. Mae ein buddsoddiad mewn seilwaith band eang cyflym iawn ynghyd â'n rhaglen ymelwa busnes yn helpu busnesau i ddeall, mabwysiadu ac ymelwa ar fanteision band eang cyflym iawn er mwyn cynyddu trosiant a phroffidioldeb a galluogi busnesau bach a chanolig eu maint i gyflwyno mwy o gynhyrchion a gwasanaethau. Rwyf yn falch o weld bod cyrff cyhoeddus lleol hefyd yn hyrwyddo gwella seilwaith digidol, gan adeiladu ar lwyddiant rhaglen Cyflymu Cymru yn eu hardaloedd. Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, prifddinas-ranbarth Caerdydd a thimau bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe, i'w helpu i ddatblygu a chyflawni eu strategaethau seilwaith digidol i sicrhau eu bod yn ategu'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud. Rydym yn gweithio gyda chyrff lleol ledled Cymru wrth iddyn nhw ddatblygu ceisiadau ar gyfer rhaglen rhwydwaith ffeibr llawn lleol Llywodraeth y DU, fel y gall Cymru elwa ar yr arian sydd ar gael ble mae hyn yn cyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol ac ategu ein cynlluniau cenedlaethol.
Gyda'r mwyafrif o safleoedd yng Nghymru bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, mae angen inni sicrhau bod cartrefi a busnesau yn manteisio ar y gwasanaeth fel y gallant wneud y defnydd gorau o dechnoleg er budd yr economi a'r gymdeithas yn gyffredinol. Mae'r cwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth ar draws ardal ymyrryd Cyflymu Cymru ar hyn o bryd oddeutu 42.5 y cant, sy'n golygu ein bod ar y blaen i ble'r oeddem yn disgwyl bod, ac ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 50 y cant yn gynharach o lawer na'r hyn yr oeddem yn ei ragweld. Mae hyn yn galonogol ac yn rhwystredig ar yr un pryd, Dirprwy Lywydd. Mae'n galonogol oherwydd bod y gyfradd twf yn fwy nag yn y model, ond mae'n rhwystredig oherwydd yn amlwg, mae lle i wella. Mae'n werth cofio po fwyaf o gwsmeriaid sy'n manteisio ar y gwasanaeth, y mwyaf fydd y gronfa gyllid sydd ar gael i helpu i gyrraedd y rhai sydd heb y gwasanaeth. Rydym yn parhau â'n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth trigolion o fanteision band eang cyflym iawn a sut i gael gafael arno. Mae’r ymgyrch integredig yn defnyddio cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu digwyddiadau a chyfryngau cymdeithasol sydd wedi'u targedu ar lefel ranbarthol. Heddiw, mae'r tîm yn Llanfairpwllgwyngyll, yn siarad â thrigolion lleol ynghylch sut i gael gafael ar fand eang cyflym iawn. Unwaith eto, anogaf bob Aelod i wneud cymaint ag y gallant i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaeth yn eu hetholaethau.
Er bod llawer o gymunedau a busnesau yn dal i ganolbwyntio ar fand eang yn anad dim arall, rwyf hefyd yn cael galwadau yn gofyn am welliannau i wasanaethau ffonau symudol. Rydym yn gwneud cynnydd cyson wrth gyflawni cynllun gweithredu ffonau symudol. Bydd yr ymgynghoriad ynghylch 'Polisi Cynllunio Cymru' yn dod i ben yr wythnos hon, ac mae'r newidiadau arfaethedig yn cydnabod y cyfraniad ehangach y mae telathrebu yn ei wneud i economi Cymru, a'r rhan y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ei chwarae wrth gynllunio'n gadarnhaol ar gyfer telathrebu o fewn eu cynlluniau datblygu. Dilynir hyn yn fuan iawn gan ymgynghoriad ar hawliau datblygiadau a ganiateir newydd, gan gynnwys newidiadau i'r hawliau ar gyfer seilwaith ffonau symudol. Hefyd yn ddiweddar rydym wedi cynnal proses o alw am dystiolaeth, pryd y gofynnwyd i'r diwydiant ffonau symudol ddarparu tystiolaeth glir ynglŷn â manteision posibl gostwng ardrethi annomestig ar gyfer mastiau ffonau symudol newydd. Mae swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu'r dystiolaeth honno.
Rydym yn parhau mewn cysylltiad ag Ofcom i drafod rheoleiddio'r diwydiant ffonau symudol, ac rydym wedi ymateb yn ddiweddar i'w hymgynghoriad ar rwymedigaeth o ran signal ffonau ar gyfer eu harwerthiant band sbectrwm 700 MHz y flwyddyn nesaf. Ynghylch 5G, rwyf wedi gofyn i Innovation Point i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgaredd 5G yng Nghymru, gan gynnwys nodi cyfleoedd i sicrhau arian o gronfa meinciau arbrofi a threialon Llywodraeth y DU. Mae ein gwaith yn gwella seilwaith digidol yn hanfodol er mwyn cynnal ein hymrwymiadau yn 'Symud Cymru Ymlaen', ac rydym yn parhau i weld cynnydd da. Fel yr wyf wedi ei amlinellu uchod, byddaf yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf mewn modd cynhwysfawr cyn toriad yr haf.