Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn. Fe hoffai Plaid Cymru, ar y cychwyn, ddod â gweledigaeth ychydig yn wahanol i'r bwrdd—gwahanol i'r hyn sy'n cael ei amlinellu yng nghynnig y Llywodraeth, neu efallai yn ychwanegol at yr hyn sydd yng nghynnig y Llywodraeth, oherwydd mi ydym ni yn credu bod angen cydnabod fod gan y gyfundrefn gynllunio rôl i'w chwarae wrth gynnal a chreu cymunedau hyfyw fel ffordd o sicrhau iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym ni'n credu y dylai'r gyfundrefn gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am dai addas yn y llefydd cywir, yn unol ag angen lleol, ac y dylai'r gyfundrefn gynllunio roi mwy o lais i gymunedau ynghylch datblygiadau yn eu hardaloedd. Hefyd, fe ddylai'r gyfundrefn gynllunio alluogi cynllunio holistaidd, ond hynny ar y lefel briodol.
O droi at gynnig y Llywodraeth, gall creu lleoedd—ac rydw i'n gweld mai dyna ydy'r pwyslais, creu lleoedd—mi all hynny olygu nifer o wahanol bethau i wahanol bobl. Yr hyn sy'n bwysig, yn ein barn ni, ydy sicrhau cydbwysedd yn y system gynllunio. Mae angen mwy na dymuno'n dda ar gyfer llesiant hirdymor pobl a chymunedau i sicrhau bod system yn gweithredu mewn modd sy'n cyflawni hynny. Er mwyn creu lleoedd sy'n gwella llesiant hirdymor pobl a chymunedau, mae angen cydbwysedd yn y system gynllunio rhwng datblygwyr ar yr un llaw a chymunedau ar y llaw arall. Mae hefyd angen cydbwysedd rhwng darparu arweiniad ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol ar lefel cenedlaethol ac, ar y llaw arall, sicrhau llais cryf ar gyfer cymunedau.
Mae hyn yn wir ar gyfer pob maes, mae'n debyg, ond mae Plaid Cymru wedi cymryd y cyfle heddiw i roi gwelliannau gerbron sydd yn pwysleisio rôl y Gymraeg a safle'r Gymraeg o fewn y system gynllunio. Ar hyn o bryd, mae yna ddiffyg arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut dylid ymdrin â'r Gymraeg o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae yna gyfle efo'r fframwaith datblygu cenedlaethol i ddangos arweiniad clir yn y maes cynllunio. O safbwynt y Gymraeg, fe ddylai'r fframwaith newydd gynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd â pherthnasedd y Gymraeg wrth gyflawni cynllunio gofodol. Mae angen i'r Gymraeg fod yna reit ar dop yr agenda ym mhob maes polisi iddo fo fod yn wir ystyrlon. Os ydym ni'n amddiffyn a hybu'r Gymraeg drwy'r gyfundrefn gynllunio, mae angen bod yn ymwybodol nad ydy hynny'n fater hawdd ar gyfer awdurdodau lleol oherwydd nid oes yna lawer o wybodaeth nag arbenigedd yn y maes.
Mae cynllunio strategol ar y cyd rhwng awdurdodau lleol yn ffordd o rannu arbenigedd a rhannu adnoddau. Mae cynllun datblygu lleol ar y cyd Gwynedd a Môn, a gafodd ei fabwysiadu yn 2017, ac mi oedd yn gynllun dadleuol mewn rhai agweddau, ond mae o'n cyflwyno polisi ynghylch tai marchnad leol, ac mae'r cynllun yn rhestru ardaloedd penodol, fel arfer lle cafwyd datblygu mawr yn y gorffennol neu mae yna ganran uchel o dai gwyliau, ac yn yr ardaloedd hynny mae amodau cynllunio ar dai newydd er mwyn cyfyngu eu meddiannaeth i bobl sydd â chysylltiad lleol penodol. Rŵan, barn nifer o ymarferwyr cynllunio yw bod hwn yn bolisi arloesol ac y dylid rhannu'r arferion da, y fethodoleg a'r prosesau a ddefnyddiodd Gwynedd a Môn, efo golwg i ledaenu'r polisi hwn yn ehangach.
Gan droi at TAN 20 yn benodol, oes, mae angen diwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder achos ei fod o'n aneglur ac, yn ôl rhai arbenigwyr, yn gwrth-ddweud yr hyn sydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015. Felly, mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud hi'n glir fod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol a hefyd i'w gwneud yn gliriach bod modd i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o effaith ceisiadau cynllunio unigol ar y Gymraeg bob tro os ydyn nhw yn dymuno gwneud hynny.
Ac, yn olaf, i drafod yr Arolygiaeth Gynllunio, a derbyn efallai fod angen eich perswadio chi ymhellach, ac fe wnaf i geisio wneud hynny dros y misoedd nesaf yma—ddim y prynhawn yma; nid oes dim digon o amser i hynny—mae gan bedair gwlad y Deyrnas Gyfunol ddeddfwriaeth a pholisïau ar wahân ar gyfer cynllunio ac mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu systemau sy'n gyfystyr ag Arolygiaeth Gynllunio Cymru a Lloegr. Efo deddfwriaeth cynllunio Cymru yn parhau i ddatblygu, rydw i'n credu ei bod hi'n bryd creu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i'r arolygiaeth feithrin arbenigedd—yr arbenigedd yr oedd David Melding yn sôn amdano, sydd ei hangen. Wel, os ydy'r system yn newid, mae angen i'r arbenigedd newid hefyd, ac mi fedrid gwneud hynny mewn system gynllunio Cymru yn unig. Rydw i'n edrych ymlaen at barhau'r drafodaeth yma dros y misoedd nesaf. Diolch.