Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 15 Mai 2018.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Rwy'n credu bod cynllunio yn rhywbeth sy'n cyffwrdd bywydau pawb ac rwyf wedi gweld deisebau yn cael eu cyflwyno, mewn gwirionedd, pan fo mwy o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb mewn ardal cyngor nag a bleidleisiodd yn yr etholiad cyngor blaenorol. Mae'n wir—mae'n broblem sy'n effeithio ar bobl. Dydw i ddim yn credu y byddai neb sydd wedi eistedd fel cynghorydd na fyddai'n gallu dweud wrthych chi am y cannoedd o lythyrau y maent wedi eu cael, a'r deisebau, yn gwrthwynebu datblygiad cynllunio yn rhywle neu'i gilydd.
Wrth gwrs, tan 1948, neu 1 Gorffennaf 1948, gallech chi adeiladu beth bynnag y mynnech chi lle bynnag y mynnech chi cyhyd â'ch bod yn berchen ar y tir. Ac roedd yn llwyddiant mawr. Rwy'n aml yn canmol Llywodraeth Lafur 1945-51, ond roedd hynny yn un arall o'i llwyddiannau—un o'r rhai y sonnir llai amdano ond sydd yn ôl pob tebyg wedi cael cymaint o effaith ar fywydau pobl ag unrhyw beth ar wahân i'r gwasanaeth iechyd—pan allai perchnogion adeiladu beth bynnag a fynnent lle bynnag y mynnent cyhyd â'u bod yn berchen ar y tir. Mae'n rhaid inni gofio bod tir yn dal i fodoli heddiw a oedd mewn defnydd ers cyn 1948 lle mae'r hawl honno yn dal i fodoli, nid yw wedi cael ei diddymu, a bob tro yr aiff y cynllun datblygu lleol neu'r hen gynllun sirol yno, maen nhw'n cadw hwnnw ynddo. Roedd yna dir yn Nwyrain Abertawe a ddynodwyd ar gyfer glo mân cyn 1948, a chadwyd y caniatâd cynllunio hwnnw'n tan y 1990au a chafodd ond ei ddiddymu pan ddefnyddiwyd y tir ar gyfer datblygiad tai.
Rwy'n cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynllunio'n dda, yn hanfodol i iechyd a lles hirdymor pobl Cymru. Ond mae angen trafnidiaeth arnom ni hefyd. Mae ystadau yn cael eu codi'n barhaus—a gallaf feddwl am un yn etholaeth Rebecca Evans, gallaf feddwl am un yn fy un i—sydd wedi'u hynysu bron o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Os nad oes gennych chi gar, rydych chi mewn trafferthion.
Mae angen i gartrefi gael eu hadeiladu. Mae angen datblygiadau diwydiannol a masnachol arnom ni. A gaf i ganmol rhywbeth y gwnaeth Llywodraeth Cymru yn dda cyn i mi ddod yma, sef datblygiad Bro Abertawe, a oedd yn ddatblygiad gan Awdurdod Datblygu Cymru a chyngor Abertawe lle mae tai a datblygiadau diwydiannol a masnachol wedi cael eu hadeiladu yn yr un ardal yn llwyddiannus iawn? Os byddwch chi'n gyrru drwyddo, mae'n debyg na fyddech chi'n gwybod am rai o'r datblygiadau diwydiannol a datblygiad masnachol oherwydd maen nhw i lawr strydoedd ochr bach ac maen nhw wedi'u gorchuddio â choed i'r fath raddau na fyddech chi'n gwybod beth oedd i lawr yno, oni bai eich bod yn gwybod ble'r ydych chi'n mynd.
Wrth gwrs, mae gennym ni y ddeuoliaeth cynllunio mawr: mae trigolion lleol yn gwrthwynebu datblygiad; mae'r tirfeddiannwr eisiau'r datblygiad—mae'r tir yn mynd i wneud symiau mawr o arian i bobl. Mae'r pwyllgor cynllunio yn penderfynu. Pe byddai'n dod i ben yn y fan honno, byddai'r trigolion yn gyffredinol yn hapus. Er y gall penderfyniadau llywodraeth leol eraill fynd at yr ombwdsmon, gallan nhw fynd i adolygiad barnwrol, mae gan benderfyniadau cynllunio y cam canolraddol hwn. Dydw i erioed wedi deall pam mae angen y cam canolraddol hwn, sef arolygwr cynllunio. Maen nhw'n dod, maen nhw'n gwneud penderfyniadau, dydyn nhw ddim yn adnabod yr ardal—maen nhw'n gwneud penderfyniadau sydd yn aml yn annealladwy. Maen nhw'n caniatáu datblygiadau sy'n achosi problemau difrifol. Does dim rhaid iddyn nhw ddod eto. Does dim rhaid iddyn nhw fyw gyda phroblemau y maen nhw wedi'u creu. Problem fach yn y ward yr oeddwn i'n ei chynrychioli—cafodd un tŷ ei ddymchwel ac roedd digon o le yno ar gyfer dau dŷ. Adeiladwyd tri. Ni werthwyd y tri thŷ erioed. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod gennym ni benderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Byddwn i'n dileu'r arolygwyr cynllunio yfory pe byddwn i'n cael dewis. Does dim synnwyr na rheswm iddyn nhw, a dydw i ddim yn adnabod unrhyw un a fyddai mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—yn gallu dadlau mewn gwirionedd pam. Maen nhw'n gam canolraddol, ac—adolygiad barnwrol, os nad ydych chi'n ei hoffi.
Fel cynghorydd sir, fel eraill yn y fan yma, roeddwn i'n ymwneud â chreu cynllun strwythur sirol a oedd yn dynodi tir ar gyfer defnyddiau gwahanol. Roedd y cynghorau dosbarth, wedyn, yn cynhyrchu cynlluniau dosbarth, yn debyg i'r cynlluniau datblygu lleol presennol. Gallai ardaloedd gael eu dynodi, ledled y sir ar gyfer tai, ond gallai rhai eraill gael eu dynodi ar gyfer coedwigaeth neu fwyngloddio ar y pryd. Felly, roeddech chi'n dynodi ardaloedd fel eich bod yn gwybod beth oedd yn digwydd ym mhob ardal. Mae cynghorau unigol yn rhy fach; roedd y cynghorau sir, mewn sawl ffordd, yn rhy fach ar gyfer gwneud penderfyniadau ar y sail ranbarthol honno. Dyna pam yr wyf i'n cefnogi'r penderfyniadau a wnaed ar y dinas-ranbarthau a rhanbarthau gogledd a gorllewin Cymru, oherwydd byddai hynny'n golygu bod yn rhaid inni gael yr integreiddio hwn. Nid rhywbeth y mae Alun Davies eisiau ei uno yw hwn, mewn gwirionedd, ond cafodd datblygiad yn Nhrostre effaith ddifrifol ar fanwerthu yn Abertawe—[Torri ar draws.]—problem ddifrifol â manwerthu yn Abertawe. Rwy'n credu felly, ei fod yn wirioneddol bwysig.
A gaf i droi at Blaid Cymru a'u barn nhw? Rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig bod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn union yr un fath â'r amgylchedd ac, yn lle nodiadau cyngor technegol, bod gennym ni asesiad effaith iaith, yn yr un ffordd â'r asesiad effaith amgylcheddol. Byddwn yn gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddai pobl yn ei ystyried. Edrychwch sut mae'r iaith—. Mae yna wahaniaeth rhwng adeilad 200 o dai yng Nghaernarfon ac adeiladu 200 o dai yng Nghas-gwent o ran yr effaith y mae'n ei chael ar yr iaith. Rwy'n gwybod sut le yw Caernarfon. Rwyf wedi treulio cryn dipyn o amser yno, ac mae'n un o'r lleoedd lle caiff y Gymraeg ei siarad gan gynifer o bobl fel ei bod yn dod yn iaith naturiol y gymuned. Rwyf i'n siarad Cymraeg y rhan fwyaf o'r amser pan wyf yng Nghaernarfon, gan mai dyna iaith y gymuned. Rwy'n credu, pan fo gennych chi 75 y cant i 80 y cant o'r boblogaeth yn siarad yr iaith, mae'n dod yn iaith y gymuned. Pan fo gennych chi dan 50 y cant, rydych chi'n gwybod, yn ôl pob tebyg, pan fyddwch chi'n siarad â rhywun, na fydd yn siarad Cymraeg felly dyw pobl ddim yn gwneud hynny.
Ac yn olaf byddwn i'n dweud y byddwn i wrth fy modd yn clywed dadl dros pam mae angen arolygwyr cynllunio—pam nad yw adolygiad barnwrol a'r ombwdsmon, sy'n ddigon da ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan awdurdodau lleol, yn ddigon da ar gyfer cynllunio.