Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 15 Mai 2018.
Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, bod polisi yn dweud un peth a realiti yn rhywbeth gwahanol, yn addas iawn. Mae'r cynnig yma yn cydnabod bod cael polisïau creu lleoedd cenedlaethol a pholisïau cynllunio cryf, bla bla, bla—. Y realiti yw nad oes gennym ni'r pethau hyn ar waith. Cefnogaf welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n dweud bod angen addasu system gynllunio'r wlad—yn sicr. Cefnogaf welliant Plaid Cymru—mae angen i'r iaith gyfrif ac mae angen arolygiaeth gynllunio ar wahân ar gyfer Cymru. Mae'n synnwyr cyffredin sylfaenol.
Y broblem i fi o ran cynllunio, ac yn arbennig y cynlluniau datblygu lleol, yw bod ein cymunedau yng Nghymru eisoes yn llawn. I bobl yng ngorllewin ein prifddinas, mae'n rhy hwyr: mae 8,000 o dai yn cael eu hadeiladu ac nid oes seilwaith. Mae'n gas gen i feddwl pa mor wael y bydd. Nid yw cynlluniau datblygu lleol yn gweithio, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod o Gaerffili—mae'n hollol gywir; mae'n chwith. Ym mhob cyfarfod cyhoeddus rwy'n mynd iddo, ac mae llawer ohonyn nhw y dyddiau hyn, mae tai yn codi bob un tro. Ni all pobl leol fforddio tai yn eu hardal leol ac mae'r eiddo sy'n cael eu taflu i fyny yn llawer rhy ddrud.
Mae angen ailwampio'r system gynllunio gyfan yn fawr iawn. Mae'r system yn caniatáu ar gyfer hapfasnachu. Mae tir wedi'i ailddosbarthu a gwnaed swm enfawr o arian—biliynau o bunnoedd. Fe'ch cyfeiriaf at fargen tir Llys-faen, a fydd yn cael ei nodi mewn hanes yn wir: colli £39 miliwn ar un fargen. Eironi cynllunio yw nad oes cynllunio gwirioneddol yn y system. Yr hyn sydd gennych yw anarchiaeth sylfaenol, a'r datblygwyr sy'n llywodraethu. Rydym yn colli tir amaethyddol da iawn, fel y dywedwyd eisoes, drwy adeiladu ar ffermydd, ac os edrychwch chi ar ddiogelwch bwyd yn y dyfodol, mae hynny'n peri pryder enfawr. Hefyd, o ran llifogydd mewn rhai ardaloedd, dyna fater arall, wrth i goncrit gael ei daenu ar ben caeau gwledig a choedwigoedd gwirioneddol brydferth ar hyn o bryd.
Yn olaf, rwy'n credu mai'r bwlch mwyaf yn y system gyfan yw diffyg democratiaeth llwyr, lle mae gennych un neu ddau o arolygwyr sy'n gallu rhoi gorchmynion i awdurdodau lleol cyfan, a etholwyd gan y bobl. Os edrychwch chi ar ein profiad yng ngorllewin Caerdydd, lle mae gen i ddiddordeb cyfredol fel cynghorydd a lle cynhaliwyd refferendwm, pleidleisiodd miloedd o bobl—miloedd—ac anwybyddwyd yr holl bobl hynny, ac mae'n hen bryd inni gael sofraniaeth gymunedol yng Nghymru, lle mae cymunedau yn sofran ac yn penderfynu ar beth sy'n digwydd yn eu hardal nhw, gan fod hawliau pobl wedi'u sathru gan y Llywodraeth hon a'r polisïau a roddwyd ar waith. Mae mor eironig, oherwydd bod datgysylltu anferth rhwng yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad a'r hyn a ddywedir yma, oherwydd nid oes unrhyw debygrwydd rhyngddynt. Diolch yn fawr.