Part of the debate – Senedd Cymru am 7:18 pm ar 15 Mai 2018.
Mae'n hen bryd i greu lleoedd fod wrth wraidd y system gynllunio ac rwy'n falch iawn hefyd o'i weld mor amlwg yn y cynllun gweithredu economaidd. Rydym wedi gweld llawer gormod o ddatblygiadau tai mawr yn cael eu creu heb ddim siopau lleol, dim canolfannau cymunedol, dim ysgolion—yn y bôn heb eneidiau. Rydym wedi gwneud y car yn ganolbwynt ein system gynllunio ers y 30 mlynedd diwethaf ac wedi gweld ehangu dramatig o ddatblygiadau sy'n seiliedig ar y car. Yn y cyfnod ers 1952, mae beicio, er enghraifft, wedi gostwng o fod yn cyfrif am 11 y cant o deithiau i gyfrif am ddim mwy nag 1 y cant yn 2016, ac, ar yr un pryd, mae teithiau car wedi cynyddu o 27 y cant i 83 y cant.
Genhedlaeth yn ôl, byddai 70 y cant o'r plant yn cerdded i'r ysgol. Ers hynny mae lefelau cerdded i'r ysgol wedi bod yn lleihau'n gyson, gan suddo i 42 y cant yn 2016 yn ôl Living Streets. Mae'r system gynllunio a pholisïau cynllunio wedi cefnogi datblygiadau sy'n ddibynnol ar geir, sydd wedi bod yr ysgogwyr allweddol y tu ôl i'r tueddiadau hyn, ac rydym yn siarad, Llywydd, yn gyffredin am warchod cynefinoedd bywyd gwyllt a chreu ecosystem sy'n cefnogi'r twf hwn, ond nid ydym yn sôn am gynllunio a gwarchod cynefin i blant chwarae, i gymdogion gwrdd ac i bobl gerdded a beicio.
A heddiw, wrth i ni sôn am les meddwl, mae'n briodol crybwyll effaith y duedd hon ar unigedd. Dywedir bod 17 y cant o bobl Cymru yn unig heddiw. Yn ddiweddar mae'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datgan bod unigedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth. Bu ymchwil helaeth ar effaith llif y traffig ar unigedd cymdeithasol. Dangosodd astudiaeth ym Mryste mai nifer cyfartalog y ffrindiau sydd gan bob un o'r trigolion mewn stryd lle nad oes llawer o draffig yw 5.35 o'i gymharu â 2.45 ar stryd â lefel ganolig o draffig, ac 1.15 o ffrindiau ar gyfartaledd ar stryd lle ceir llawer o draffig. Hefyd, nododd trigolion ar stryd lle nad oes llawer o draffig mwy o ymdeimlad o gymuned ac agosrwydd. Ac eto, rydym yn parhau i ddylunio strydoedd preswyl sy'n gwneud trigolion yn agored i lifoedd cyson o draffig.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi creu lleoedd wrth wraidd yr argraffiad newydd o 'Polisi Cynllunio Cymru', ac yn arbennig, os caf i ddweud i gloi, Llywydd, o gofio'r amser, mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer teithio llesol wedi cyflwyno tystiolaeth i'r adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n nodi prinder canllawiau defnyddiol a diffyg gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymhlith cynllunwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes yr amgylchedd adeiledig proffesiynol o ran sut y dylid cynllunio cyfleusterau teithio llesol a'u hintegreiddio mewn cynlluniau datblygu. Mae angen inni gynnwys hyn yn rhan graidd o'r ffordd yr ydym yn creu cymunedau newydd. Mae'n ddigon hawdd cael datganiadau rhethregol yn ein dogfennau polisi, ond eu gweithredu sy'n gwneud gwahaniaeth. Ac er mwyn i greu lleoedd gael effaith ymarferol mewn gwirionedd, mae angen inni newid manylion 'Polisi Cynllunio Cymru' er mwyn galluogi ein cymunedau i fod yn addas ar gyfer cerdded a beicio, fel y gall cymdogion gwrdd a siarad ac y gall plant chwarae heb fod ofn y traffig. Diolch.