Part of the debate – Senedd Cymru am 7:09 pm ar 15 Mai 2018.
Am beth amser ers cael fy ethol, bu cryn bellter rhwng fy marn i a barn Llywodraeth Cymru. Ac, yn y dyddiau diwethaf, bydd Janet Finch-Saunders yn falch o wybod bod Llywodraeth Cymru, ar ffurf Ysgrifennydd y Cabinet, wedi mynd rhywfaint o'r ffordd i bontio'r pellter rhyngom, ac rwy'n falch iawn—a byddaf yn ymhelaethu ar pam mewn munud—bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd camau i wneud hynny. Rwyf wedi bod o'r farn ers tro bod polisi cynllunio drwy'r dull cynlluniau datblygu lleol unigol wedi ei ogwyddo yn rhy bell o blaid y datblygwyr tai mawr ac yn rhy bell yn erbyn pobl leol ac adeiladwyr tai sy'n fusnesau bach a chanolig, yr wyf wedi eu crybwyll o'r blaen. Mae'r farchnad wedi creu bwlch rhwng polisi cynllunio a democratiaeth leol. Mae angen inni newid y farchnad honno, ac mae angen inni ddefnyddio ymyrraeth yn y farchnad i newid y farchnad honno.