Part of the debate – Senedd Cymru am 7:29 pm ar 15 Mai 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddaf yn galw'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.