– Senedd Cymru am 7:29 pm ar 15 Mai 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, byddaf yn galw'r bleidlais gyntaf. Y bleidlais gyntaf yw'r bleidlais ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Carwyn Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 46, neb yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar y ddadl ar rôl y system gynllunio wrth greu lleoedd. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.
Galwaf am bleidlais nawr ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 47, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3: galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Ac felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
Pleidlais, felly, ar y cynnig wedi ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Cynnig NDM6721 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru.
2. Yn credu bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai.
3. Yn cydnabod yr angen am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.
4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn effeithiol.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, un yn ymatal, naw yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.
A dyna ddiwedd ein trafodion ni am y dydd heddiw.