Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Mai 2018.
Wel, Lywydd, mae'r Llywodraeth yn awyddus i fuddsoddi ym Mhort Talbot mewn partneriaeth â Tata, lle y gallwn fod yn sicr fod ein buddsoddiad yn rhan o gynllun hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd cynhyrchu dur yng Nghymru. Rydym yn barod i wneud mwy gyda'r cwmni, cyhyd ag y bo'r cynlluniau hynny'n dangos y byddant yn defnyddio buddsoddiad cyhoeddus ochr yn ochr â'u buddsoddiad eu hunain mewn ffordd a fydd yn creu'r capasiti cynhyrchu dur yn y dyfodol. Mae fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn wir, y Prif Weinidog, wedi bod yn trafod gyda'r bobl uchaf yn Tata i sicrhau ein bod yn cyflwyno cynlluniau sy'n caniatáu inni wario'r arian mewn modd amserol ac i ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur.