1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r dyraniad o gyllid Llywodraeth Cymru i undebau credyd yn dilyn y diweddariad diweddar i'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru? OAQ52191
Mae undebau credyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gryfhau cydnerthedd ariannol ein cymunedau. Fel rhan o adolygiad hanner ffordd y cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, cyhoeddais £1 filiwn ychwanegol dros ddwy flynedd i gefnogi undebau credyd ledled Cymru.
Yr wythnos hon, rwy'n ymuno â Michael Sheen fel un o noddwyr newydd Undebau Credyd Cymru ac rwy'n falch iawn o weld y canlyniad cadarnhaol hwn i'r cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau credyd yng Nghymru fel rhan o'r strategaeth cynhwysiant ariannol, a gymeradwywyd gennych chi bellach drwy ddyrannu cyfalaf trafodiadau ariannol. A fyddech yn cytuno mai dyma'r union ffordd y dylem fod yn defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol, er mwyn cyflawni nodau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy gefnogi ein hundebau credyd? Bydd y dyraniad hwn yn gymorth i ateb gofynion heriol y gymhareb asedau cyfalaf, sydd wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf—maent yn arbennig o heriol ar gyfer undebau credyd mawr—er mwyn sicrhau y gallwn gefnogi twf a hyfywedd undebau credyd yng Nghymru.
A gaf fi ddechrau, Lywydd, drwy longyfarch Jane Hutt ar ei rôl newydd fel un o noddwyr Undebau Credyd Cymru? Mae'n llygad ei lle wrth ddweud mai'r rheswm y gallwn ddarparu cyfalaf trafodiadau ariannol yw am fod y Prudential Regulation Authority wedi nodi gofynion heriol newydd ar gyfer y gymhareb asedau cyfalaf, ac mae'r cymarebau asedau cyfalaf hynny'n orfodol. Mae rhai undebau credyd yng Nghymru wedi cael trafferth i sicrhau eu bod yn gallu cydymffurfio â'r cymarebau hynny, ond maent yn gallu llunio cynlluniau sy'n dangos sut y gallant eu bodloni yn y dyfodol. Mae chwistrelliad o gyfalaf trafodiadau ariannol yn eu galluogi i gynnal eu mantolenni tra bo'r cynlluniau hynny'n cael eu rhoi ar waith. Dyna pam, wrth drafod gyda'r sector, ein bod wedi gallu darparu'r cymorth hwnnw.
A gaf fi ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymdrechion i gynyddu capasiti undebau credyd? Ar hyn o bryd, yn ôl y Money Charity, rydym yn gwario £139 miliwn y dydd ar ad-daliadau a dyledion personol. Mae'n gwbl anghredadwy. Ac mae undebau credyd yn rhan allweddol, yn fy marn i, yn sicr i bobl mewn amgylchiadau ariannol anodd, ond yn fwy cyffredinol hefyd, o bosibl. Felly, mae angen ehangu rôl sefydliadau fel Dragonsavers yn Rhondda Cynon Taf, a gallwn edrych ar lawer o wledydd, wyddoch chi—yr Unol Daleithiau, ac yn nes atom o lawer, Gweriniaeth Iwerddon—sydd â sectorau gwasanaethau ariannol ehangach o lawer sy'n croesawu undebau credyd.
Cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod. Mae undebau credyd yn darparu credyd fforddiadwy a benthyca cyfrifol ac maent yn achubiaeth i lawer o bobl a fyddai, pe bai'n rhaid iddynt fenthyca mewn rhannau drytach o'r farchnad, yn rhan o'r cyfanswm anghredadwy hwnnw a nododd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol sy'n cael ei dalu'n ôl drwy'r amser. Yn ychwanegol at yr £1 filiwn y llwyddais i'w ddarparu drwy'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, mae fy nghyd-Aelodau wedi cyhoeddi £844,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i gefnogi undebau credyd dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd 19 o brosiectau gwahanol yn cael eu cefnogi gan yr arian hwnnw, ac mae pob un ohonynt wedi'u cynllunio i wneud yr hyn a awgrymodd David Melding: dod o hyd i ffyrdd o ddenu mwy o bobl i ymaelodi ag undebau credyd yng Nghymru.