– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 16 Mai 2018.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn. Felly, symudwn at y cyfnod pleidleisio.
Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r ddadl ar bolisi urddas a pharch y Cynulliad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jayne Bryant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 52, roedd dau yn ymatal. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar dlodi plant, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Rydym bellach yn mynd i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 33, roedd un yn ymatal, ac 20 yn erbyn, felly derbyniwyd gwelliant 2.
Pleidleisiwn yn awr ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6723 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â thlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22.
3. Yn croesawu ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd.
4. Yn croesawu’r buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau.
5. Yn credu y dylid diwallu anghenion lles holl ddinasyddion y DU yn gyfartal ac nad yw datganoli budd-daliadau lles yn cefnogi’r egwyddor hon.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 34, neb yn ymatal, 20 yn erbyn, felly derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.