– Senedd Cymru am 6:20 pm ar 16 Mai 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a allwch wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Jenny Rathbone i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddi. Jenny.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae fy nadl am fater pwysig tai rhent a pham y mae angen inni reoli rhenti. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i David Melding, ac nid oes neb arall wedi nodi eu bod am siarad.
Tai fforddiadwy, da yw conglfaen cymdeithas wâr. Mae tai yn rhy bwysig i iechyd a lles y boblogaeth i'w gadael i rymoedd y farchnad yn unig. Ni allwn ganiatáu i farchnad rydd a rhemp gondemnio'r genhedlaeth rent i dai drud ac ansicr o safon isel. Defnyddir tai fel cyfle i gamu ymlaen, yn hytrach na lleoedd i bobl fyw ynddynt, a chaiff hyn ei waethygu gan wleidyddion sy'n sôn o hyd am gael troed ar yr ysgol dai fel pe bai'n wynfyd y mae angen i bawb ohonom anelu tuag ato. Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda phobl sydd am fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond ynddo'i hun, nid yw'n ofyniad hanfodol ar gyfer llwyddiant a hapusrwydd. Ein gwaith ni, fel deddfwyr, yw sicrhau ffyniant i bawb ac amddiffyn y rhai sy'n llai abl i amddiffyn eu hunain, ac mae gwir angen camau pendant i newid y farchnad dai gamweithredol, sy'n condemnio'r genhedlaeth rent i ansicrwydd ac ansefydlogrwydd parhaol, ac sy'n ystumio ein heconomi.
Mae tai cymdeithasol yn annigonol i ateb y galw a bellach mae tenantiaethau newydd wedi'u cyfyngu'n bennaf i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Ond mae'r ris gyntaf ar yr ysgol dai ddamcaniaethol hon y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o fy etholwyr. Rwy'n derbyn nad yw'r darlun yng Nghaerdydd yr un fath ag ar draws Cymru gyfan, lle mae'n braf nodi nad oes ond 15 y cant mewn eiddo rhent preifat, ond yn fy etholaeth i sy'n ifanc o ran demograffeg, mae mewn perygl o fod yn y safle uchaf, gyda'r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd sydd ynghlwm wrth hynny. Er bod awdurdodau lleol yn gwneud eu rhan i gau eiddo nad yw'n addas i bobl fyw ynddynt, nid oes fawr o ddiogelwch i ddefnyddwyr sy'n rhentu'n breifat.
Mae cwyno am ddiffyg atgyweirio yn aml yn arwain at gael eich troi allan ac mae llawer o denantiaid yn dygymod ag amodau ofnadwy yn lle hynny. Nid yw hynny'n golygu nad oes landlordiaid da sy'n gwneud gwaith cynnal a chadw ar eu heiddo'n amserol ac yn effeithiol, ond nid oes gan y tenant hawl i aros ac nid oes angen rhoi unrhyw reswm dros ddod â thenantiaeth i ben. Mae ansefydlogrwydd o'r fath mewn perthynas â rhentu mor niweidiol i les. Ni ellir bwrw gwreiddiau, na chael sicrwydd dibynadwy ynglŷn ag ysgolion neu swyddi. Mae diwedd tenantiaeth yn golygu dod o hyd i flaendal o fis o leiaf, mwy o ffioedd asiantaeth, cynnydd anrhagweladwy yn y rhent a chostau symud. Nid oes angen iddi fod fel hyn.
Cyn 1989, câi rhenti'r sector rhentu preifat eu pennu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a byddai'r Asiantaeth yn gosod lefel deg o rent ar gyfer yr eiddo wedi'i gyfrifo yn ôl faint y gallai'r swm hwnnw gynyddu. Roedd hyn yn rhoi sicrwydd i denantiaid a landlordiaid fel ei gilydd, ond newidiodd Deddf Tai 1988 bethau fel bod Prydain ar amrantiad yn newid o fod yn un o wledydd y byd a gâi ei rheoleiddio'n fwyaf llym mewn perthynas â rhentu preifat i fod y system fwyaf direol ac wedi'i dadreoleiddio fwyaf yn y byd datblygedig. Ers 1989, mae landlordiaid ym Mhrydain wedi cael codi unrhyw dâl y credant y gall y farchnad ei gynnal ar denantiaid. Yn anffodus, yr unig reoli rhenti de facto a gyflwynwyd yw cap ar fudd-daliadau tai, sydd wedi rhoi hwb anferthol i lefelau o ansicrwydd sydd eisoes yn annerbyniol.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif y bydd bron i 50,000 o gartrefi yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan y cap ar fudd-daliadau tai. Mae talu 30 y cant o renti'r farchnad lleol yn lle'r 50 y cant blaenorol yn crebachu opsiynau pobl dlawd a hefyd yn cyfrif maint yr eiddo. Felly nid yn unig y bydd pobl sy'n cael eu gorfodi i symud i gartref llai o faint o ganlyniad i'r dreth ystafell wely yn gweld gofod eu cartref yn crebachu, byddant hefyd yn gweld eu hopsiynau'n crebachu'n sylweddol iawn. Nid oes ganddynt opsiwn hyd yn oed i wasgu i mewn i gartref bach er mwyn aros yn agos at ysgol eu plentyn neu at eu rhiant oedrannus, oherwydd cânt eu dal hefyd gan gap pellach ar eiddo o wahanol faint. Felly, po leiaf yr eiddo, y lleiaf o fudd-dal tai a delir.
Rhybuddiodd ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin i effaith newidiadau i fudd-daliadau yn 2013 fod ymdrechion i reoli codiadau mewn budd-daliadau tai yn gwbl briodol yn gorfod cynnwys strategaethau i reoli rhenti cynyddol yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys mesurau i reoli rhenti'n uniongyrchol. Rwy'n cytuno, a bron bum mlynedd yn ddiweddarach mae angen inni weld gweithredu'n digwydd ar frys bellach. Mae rhenti yng Nghaerdydd eisoes yn uwch na chapiau ar fudd-daliadau rhent. Er enghraifft, mae fflat dwy ystafell wely yn Admiral House ar Ffordd Casnewydd yn costio £1,200 am ddwy ystafell wely, neu £950 am un ystafell wely sengl. Nid sôn am strydoedd deiliog Cyncoed yr ydym. Dyma ardal sy'n cael ei herio gan lefelau perygus o uchel o lygredd aer. Yn wir, mae rhenti cymdeithasau tai hyd yn oed yn uwch na'r cap ar fudd-daliadau tai bellach.
Mae diffyg rheolaeth ar renti wedi dod yn fath o lanhau cymdeithasol. Ni all pobl sy'n dlawd ddod o hyd i unrhyw le y gallant ei fforddio yng Nghaerdydd ac maent naill ai'n mynd yn ddigartref neu cânt eu gorfodi i symud, gan hollti teuluoedd ac amddifadu pobl o'r rhwydweithiau cymorth sy'n creu cymunedau cydlynus. Dyma rysáit ar gyfer profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a salwch meddwl. Mae arnom angen mesurau rheoli rhenti. Mae angen rhoi diwedd ar droi pobl allan yn annheg ac ailwampio'r system dai yn sylfaenol er mwyn darparu sefydlogrwydd rhent.
Trosglwyddwyd y pŵer i reoleiddio rhenti yn y sector preifat i Lywodraeth Cymru gan Senedd y DU yn 2006, a chyflwynodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer rhentu cartref yng Nghymru. Erbyn hyn mae'n rhaid i landlordiaid gael hyfforddiant gofynnol ar eu hawliau a'u cyfrifoldebau er mwyn cael cofrestru. Er ei fod yn bwysig, nid yw'r Bil sydd ar y ffordd i ddiddymu ffioedd asiantaethau gosod tai yn mynd i fod yn ddigon i sicrhau bargen deg i denantiaid. Yn anffodus, bydd asiantaethau'n ceisio ychwanegu'r costau at renti misol, sydd eisoes yn anfforddiadwy.
Mae rhenti teg yn cynnig ffordd gynaliadwy o atal rhenti rhag codi ymhellach o gyrraedd mewn cynifer o'n cymunedau trefol. Yn wir, mae hyd yn oed adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar renti'r sector preifat yn cydnabod bod yr eiddo isaf ei bris ar y pryd, ddiwedd y llynedd, yn £325 y mis am ystafell sengl neu fflat un ystafell nad yw'n hunangynhwysol, a'r pris canolrifol uchaf oedd £750. Ond yng Nghaerdydd, mae hynny'n codi i dros £1,000 am rent cyfartalog, ac mewn llawer o achosion, fel yr awgrymais eisoes, mae'n uwch o lawer.
Felly, mae yna ddwy ffordd y gallem gyflwyno mesurau rheoli rhent. Yn gyntaf, gallem warchod teuluoedd rhag codiadau rhent annheg drwy roi opsiwn iddynt herio rhent afresymol drwy system tribiwnlys annibynnol. Gallai olygu Asiantaeth y Swyddfa Brisio, fel o'r blaen, a byddai'n sicrhau tegwch a rhagweladwyedd i denantiaid a landlordiaid. Fel arall, gallem roi cyfle i awdurdodau lleol wneud cais i Lywodraeth Cymru ar gyfer creu parthau pwysau rhent dynodedig er mwyn gosod cap ar godiadau rhent mewn ardaloedd y pennir eu bod yn ddarostyngedig i godiadau rhent gormodol. Yr ail lwybr yw'r un sydd dan ystyriaeth gan Gaeredin a Glasgow wedi i Senedd yr Alban basio Deddf Tai Preitaf (Tenantiaethau) (Yr Alban) 2016.
Ond nid oes raid inni edrych tua'r Alban yn unig am ysbrydoliaeth. Mae llawer o wledydd ar draws y byd yn rheoleiddio marchnadoedd rhent yn dynn. Mae gan yr Almaen ei doriad pris rhent, sy'n cyfyngu rhenti ar denantiaethau newydd mewn mannau poblogaidd o ran eiddo fel Berlin, Munich a Dusseldorf i 10 y cant yn uwch na'r meincnodau rhenti presennol. Mae'n werth nodi bod dwy ran o dair o bobl Berlin yn rhentu. Caiff tenantiaid eu diogelu'n dda, ond mae cyfleoedd i landlordiaid hefyd. Gellir codi'r rhent os caiff yr eiddo ei wella ac os nad yw'r toriad yn gymwys ar gyfer eiddo a adeiladwyd o'r newydd.
Yn Efrog Newydd, nid yw mesurau rheoli rhenti ond yn berthnasol i denantiaid sydd wedi byw yno ers 1971 ac mewn eiddo a adeiladwyd cyn 1947, ond mae mesurau sefydlogi rhent hefyd yn gymwys ar gyfer bron hanner y fflatiau ar rent, gan atal landlordiaid rhag gwthio'r pris yn uwch na chanllaw gosodedig ar gyfer ardal, oni bai, wrth gwrs, eu bod yn mynd am eiddo moethus heb reolaeth ar y rhenti, sef eiddo dros $2,500 y mis, ac yn ôl pob tebyg, gall y bobl hynny ymladd eu brwydrau eu hunain yn well. Ond mae'n golygu bod hanner, yn hytrach na dwy ran o dair, o'r eiddo yn Efrog Newydd bellach yn ddarostyngedig i fesurau rheoli, o gymharu â llawer mwy na hynny 40 mlynedd yn ôl. Nawr, cyflwynodd Paris fesurau rheoli rhenti newydd yn ddiweddar. Mae la loi Alur yn rheoli rhenti mewn parthau lle mae'r galw'n uchel, gan osod rhent canolrifol fesul metr sgwâr ar gyfer ardal benodol, gan wahanu eiddo tirol dosbarthau'n fandiau pris yn seiliedig ar ba un a yw'n eiddo wedi'i ddodrefnu a nifer yr ystafelloedd. Mae'n bosibl y caiff y rheolaethau hyn eu gosod mewn dinasoedd eraill yn Ffrainc.
Efallai mai'r enghraifft fwyaf diddorol yw'r un yn yr Iseldiroedd, ac rwyf am edrych arni yng nghyd-destun ein sefyllfa facroeconomaidd yn y DU, sef, yn y flwyddyn ddiwethaf ar draws y DU, fod y nifer uchaf erioed o landlordiaid prynu i osod bellach yn talu mewn arian parod i fachu mwy a mwy o eiddo, yn ôl benthyciwr morgeisi mwyaf y DU, Countrywide. Mae'r lefel o £21 biliwn mewn pryniannau arian parod am frics a morter yn uwch nag y bu ers degawd, a daw rhywfaint o'r arian parod hwn o ailforgeisio, tynnu ecwiti allan o gartrefi y maent eisoes yn berchen arnynt, ac mae llawer ohono'n anelu tuag at Gymru oherwydd bod marchnad orgynnes Llundain a de-ddwyrain Lloegr y tu hwnt i bocedi llawer o fuddsoddwyr. Ond rhaid inni ddeall bod y £21 biliwn sy'n mynd i mewn i frics a morter yn rhywbeth a allai fod yn mynd i mewn i'r economi gynhyrchiol—gan greu swyddi, creu nwyddau a chreu allforion ar gyfer ein heconomi. Ac yn y cyfamser, mae canlyniad y dadreoleiddio'n glir: portffolios prynu i osod enfawr ar gyfer y cyfoethog, gyda'r elw'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn a'r rhai nad ydynt eto'n ddigon lwcus i fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain yn cael eu blingo.
Felly, yn olaf, roeddwn am edrych ar y sefyllfa yn yr Iseldiroedd, sydd wedi'i dominyddu gan—. Mae tri chwarter yr holl gartrefi'n eiddo i gymdeithasau tai, ac mae'r sector rhentu preifat yn yr Iseldiroedd wedi gostwng o 17 y cant i 8 y cant. Yn aml gwelir rheoleiddio cryf, yn arbennig rheoli rhenti, fel un o'r rhesymau dros y dirywiad mewn rhentu preifat. Ond mae'n bwysig gweld bod y sector perchen-feddiannaeth a'r sector rhentu cymdeithasol wedi elwa o gymorthdaliadau a chymhellion treth, tra bo landlordiaid preifat wedi bod dan anfantais, yn enwedig o'r 1980au. Ond o'i gymharu â gwledydd eraill yn Ewrop, mae'r sector rhentu cymdeithasol yn ffynnu ac mae pobl yn gyffredinol yn fodlon ag ef. Credaf ei bod yn bryd i Lafur Cymru edrych o ddifrif ar gyflwyno mesurau rheoli rhenti i atgyweirio'r farchnad dai doredig, ac os oes angen, cynyddu maint y sector tai cymdeithasol er mwyn sicrhau y gall pawb gael cartref priodol, gyda'r diogelwch a ddaw gyda hynny. Felly, edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Llywodraeth.
Diolch i Jenny am dynnu ein sylw at y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Mae gennym ymagwedd glir iawn, rwy'n credu, o ochr chwith gwleidyddiaeth ac rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol a phwerus. Rwy'n cytuno â chi ar rai materion. Mewn rhai mannau, mae'r farchnad dai yn sicr yn gamweithredol a cheir nifer o resymau am hynny. Mae gennym y ffenomen hon o genhedlaeth rent, lle mae pobl a fyddai wedi prynu eu cartrefi eu hunain o'r blaen bellach yn gorfod rhentu. Mae gan lawer o'r bobl hyn incwm cymharol uchel ond nid oes ganddynt gyfalaf i brynu neu ddarparu blaendal, a chredaf fod angen sicrwydd deiliadaeth arnynt yn gymaint â'r hyn a alwch yn rhenti teg ac wedi'u rheoli.
Credaf y dylem gael adolygiad cynhwysfawr o'r polisi tai a sut y mae'n berthnasol i'r galwadau newydd sydd gennym. Rydym yn wynebu prinder o ran cyflenwad; credaf fod pob un ohonom yn cytuno â hynny. Credaf fod angen rhagor o fodelau arnom. Mae enghraifft yr Iseldiroedd yn ddiddorol; mae'n dal mwy o bobl nag y byddem ni yn eu dal o ran yr hyn y pennir yw diben tai cymdeithasol, ac mae ffyrdd o wneud hynny drwy gymdeithasau tai, o bosibl, neu ffyrdd newydd o ffurfio cwmnïau cydweithredol, sydd hefyd yn fodel a ffafrir mewn llawer o wledydd ar y cyfandir. Credaf fod arnom angen y dulliau gweithredu hyn, a phan ddown allan o'r argyfwng ariannol yn y pen draw, rwy'n gobeithio y bydd y ffenomen hon o bobl yn mynd ar drywydd yr elw uchel y gallwch ei gael drwy fuddsoddi mewn tai yn dod i ben, oherwydd rwy'n cytuno â chi—mae tai y tu hwnt i fod yn nwydd economaidd arferol. Mae'n llawer mwy sylfaenol. Mae'n llawer tebycach i iechyd yn hynny o beth. Felly, mae yna bethau'n codi yma. Nid wyf yn cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, ond efallai y byddech yn synnu cymaint ohono rwy'n cytuno ag ef.
Diolch. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Tai ac Adfywio ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, rwy'n rhannu ei phryder y dylai pawb gael mynediad at gartref fforddiadwy o ansawdd da, pa un a fyddant yn prynu neu'n rhentu, pa un a fydd eu landlord yn landlord cymdeithasol neu'n landlord sector preifat, a ble bynnag y maent yn byw.
Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae, ac yn mynd i barhau i chwarae, rwy'n meddwl, rhan gynyddol bwysig yn cyflawni ein hagenda dai. Bu'n farchnad a oedd yn tyfu am gyfnod estynedig ac mae oddeutu 15 y cant o'n stoc dai bellach yn eiddo rhentu preifat. I bobl sy'n rhentu, mae problemau fforddiadwyedd, ansawdd a diogelwch deiliadaeth yn real iawn, a dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod y sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio a'r reoli'n dda, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Yn y modd hwn, gallwn helpu i sicrhau ei fod yn cynnig ateb hirdymor hyfyw i'r bobl sy'n dewis neu sydd angen rhentu yn y sector rhentu preifat.
Mae'n wir fod mesurau rheoli rhenti yn bodoli mewn llawer o ddinasoedd ledled y byd. Y cwestiwn yw: i ba raddau y maent yn ateb y problemau penodol a wynebwn yng Nghymru? Mae ein marchnad dai yng Nghymru yn rhannu rhai, ond nid pob un o'r nodweddion a welwn mewn mannau eraill. Roedd astudiaeth gan ganolfan ymchwil tai a chynllunio Caergrawnt yn 2015 i effeithiau mesurau rheoli rhenti ar gyflenwad a marchnadoedd yn profi'r ddwy brif ffordd o reoli rhenti. Un dull yw rhoi rheolaeth lwyr dros lefel y rhent. Y llall yw caniatáu i'r landlord bennu rhent marchnad cychwynnol, ond cyfyngu ar godiadau rhent. Soniodd yr ymchwil am y potensial am ganlyniadau anfwriadol yn y ddau ddull, a thrafodai pa mor bwysig fyddai ymateb landlordiaid.
Yn ddiweddar, mae Shelter wedi ymateb i alwadau am fesurau rheoli rhenti drwy nodi bod dulliau absoliwt o reoli rhenti'n peri niwed i'r union bobl yr ydym yn ceisio'u helpu. Os ydym yn lleihau'r adenillion y gall landlordiaid eu cael, rydym mewn perygl o'u cymell i werthu yn hytrach na rhentu eu heiddo, a gallai hyn fod o fudd i rai ar gyflogau canolig a hoffai weld mwy o gartrefi ar gael i'w prynu, ond i'r rhai na allant fforddio prynu, y canlyniad anfwriadol posibl yw mwy o ddigartrefedd o ganlyniad i'r crebachu ar y cyflenwad o dai rhentu preifat.
Yn yr un modd, ni fyddem am anghymell landlordiaid preifat yn anfwriadol rhag buddsoddi yn ansawdd y cartrefi y maent yn eu cynnig ar rent. Mae swyddogion rhent Llywodraeth Cymru yn nodi, yn y nifer fach o achosion lle mae mesurau rheoli rhenti'n parhau o dan y Ddeddf rhentu, fod eiddo'n tueddu i ddioddef o ddiffyg moderneiddio a chynnal a chadw, ac ni ddylai fod yn syndod inni fod y cymhelliad elw yn effeithio'n negyddol ar ymddygiad landlordiaid pan gânt eu cyfyngu yn y modd hwn.
Mae'n werth cofio hefyd fod a wnelo tai â chydadwaith system gymhleth, ac efallai mai un o ganlyniadau cyfyngu ar renti mewn un ardal fyddai gostwng lwfansau tai lleol, ac felly lefel y budd-daliadau a fydd ar gael i denantiaid dan anfantais. Mae hyn oherwydd lle mae'r degfed canradd ar hugain.
Felly, gallai cyfyngu ar godiadau rhent fel ffordd o reoli rhenti roi llai o anghymhelliad i landlordiaid. Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae chwyddiant o fewn y sector rhentu preifat yng Nghymru wedi bod yn is nag yn Lloegr. Ers 2012, mae mynegai prisiau rhentu tai preifat yn dangos bod y twf, ar gyfartaledd, wedi bod 1.5 pwynt canran yn is. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw marchnad Cymru yn ymestyn rhenti ymhell y tu hwnt i chwyddiant.
Rydym wedi canolbwyntio ar gryfhau rhentu fel dewis o ansawdd ym maes tai. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd diweddar tuag at sicrhau bod cyfraith rhentu preifat a deiliadaeth yn gyfredol. Mae mwyafrif helaeth ein landlordiaid preifat yn darparu eiddo o safon uchel a gwasanaeth da i'w tenantiaid. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi helpu i ledaenu'r arferion da hyn drwy sicrhau bod landlordiaid yn ymwybodol o'r safonau cyfreithiol gofynnol ar gyfer cyflwr eiddo ac maent yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt fel landlordiaid. Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn gam cadarnhaol iawn. Mae 89,000 o landlordiaid bellach wedi'u cofrestru, cyfradd gydymffurfio o 98 y cant, yn debyg i'r gyfradd sy'n cydymffurfio â threth car. Bellach, cafwyd 18 o erlyniadau llwyddiannus, gyda dirwyon sylweddol.
Bydd ein Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn symlach ac yn haws i rentu. Mae hefyd yn ymdrin â phroblem troi allan er mwyn dial, yn diogelu hawliau tenantiaeth dioddefwyr cam-drin domestig ac yn sicrhau bod eiddo'n addas i bobl fyw ynddo. Mae'n welliant pwysig i fywydau dros 1 filiwn o bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru.
Ym mis Mawrth, cawsom ddadl fer ar y defnydd o hysbysiadau 'dim bai', neu hysbysiadau adran 21. Ni all fy ymrwymiad i weithio gyda landlordiaid i adeiladu sector rhentu ffyniannus ddigwydd ar draul tenantiaid. Dyna pam rwy'n ymrwymedig i weithio ar hyn. Mae trafodaethau â rhanddeiliaid eisoes ar y gweill, ac rwyf wedi cyfarfod â Shelter Cymru i drafod ein hopsiynau. Mae nifer o ddulliau gweithredu yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, megis ymestyn y cyfnod rhybudd, darparu cymhellion ar gyfer landlordiaid i nodi rheswm penodol dros hysbysiad os ydynt yn awyddus i geisio meddiant yn gyflymach.
Gall rhentu fod yn ddrud mewn ardaloedd lle mae'r galw'n uchel, megis rhannau o Gaerdydd. Mae hyn yn adlewyrchu pa mor anodd yw hi i fforddio prynu yn yr ardaloedd hyn a rhaid inni beidio ag anghofio bod pris prynu eiddo hefyd yn effeithio ar landlordiaid sydd angen elw rhent ar eu buddsoddiad, neu fel arall gallant werthu'r eiddo ac elwa ar unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo. Mae fforddiadwyedd yn fater rwy'n awyddus i fynd i'r afael ag ef, gan gynnwys pa mor fforddiadwy yw hi i gael mynediad at y sector rhentu preifat, neu i symud o'i fewn. Dyna pam y cyhoeddais fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth yn fuan iawn i wahardd ffioedd a godir ar denantiaid pan fyddant yn dechrau, yn adnewyddu neu'n terfynu tenantiaeth.
Felly, beth yw'r atebion y dylem fod yn manteisio arnynt yn ein cyd-destun Cymreig? Unwaith eto, mae ymateb Shelter i'r ddadl ar reoli rhenti wedi bod yn ddiddorol iawn. Maent wedi tynnu sylw at y toriad yn y cysylltiad rhwng rhenti a budd-daliadau tai, o ganlyniad i bolisi Llywodraeth y DU, sydd wedi gwneud rhentu'n llai fforddiadwy. Mae diwygio lles yn niweidiol ac mae'n cael effaith go iawn ar denantiaid a landlordiaid. Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'n gwrthwynebiad i ddull Llywodraeth y DU o weithredu, sy'n golygu nad yw lwfansau tai lleol yn adlewyrchu gwir gost rhentu. Rhaid i hyn newid os yw'r farchnad dai yn mynd i weithredu'n effeithiol.
Nid ydym yn rheoli polisi lles yma yng Nghymru, ond rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gweithrediad y system les wedi ei integreiddio â'n hagenda polisi. Mae taliadau tai yn ôl disgresiwn yn rhoi cymorth i bobl sy'n agored i niwed, megis y rhai yr ydym yn eu cynorthwyo drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl. Roedd nifer o awdurdodau nad oeddent yn defnyddio eu cyllideb yn llawn, felly buom yn gweithio gyda'r awdurdodau i ddatblygu fframwaith i sicrhau defnydd mwy cyson o daliadau disgresiwn at gostau tai. Mae'r dull hwn wedi llwyddo i leihau nifer yr awdurdodau sy'n tanwario eu lwfans o 13 i dri mewn blwyddyn yn unig. Nawr, byddwn yn gweithio ar y tri arall i sicrhau eu bod yn gwario eu lwfans yn llawn.
Y maes arall y mae Shelter yn ei nodi yw'r angen i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, i sicrhau bod y system dai gyfan yn gweithio'n effeithiol. Rwy'n falch o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru ar hyn a'n cynnydd tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Yn ddiweddar, cyhoeddais adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy a fydd yn archwilio'r trefniadau ar gyfer cefnogi datblygu tai fforddiadwy. Mae'r adolygiad hwn yn digwydd yng nghyd-destun ein hymrwymiad hirsefydlog i gynyddu'r cyflenwad, sydd wrth wraidd ein rhaglen lywodraethu. Rwy'n gobeithio y bydd yn caniatáu inni osod targedau hyd yn oed yn fwy ymestynnol yn y dyfodol, gan barhau i greu hinsawdd sy'n gwella ansawdd.
Y ffordd Gymreig yw edrych am bartneriaeth lle mae consensws yn debygol o sicrhau'r canlyniadau a geisiwn. Credaf ein bod wedi sefydlu partneriaeth gref gyda landlordiaid sector preifat yng Nghymru—partneriaeth lle mae cyfrifoldebau clir, safonau a phroffesiynoldeb yn cael eu gorfodi'n briodol a landlordiaid gwael yn cael eu dwyn i gyfrif, a lle y caiff hawliau tenantiaid eu diogelu, tra'n dal i gynnig cymhellion i'r landlord da. Felly, nid wyf yn ofni rheoleiddio'r sector lle y teimlaf fod angen gwneud hynny a rhannaf bryderon y bobl eraill sydd wedi siarad heddiw, ac rwyf bob amser yn agored i ystyried syniadau o'r fan hon a mannau eraill—rydym wedi clywed am nifer o fodelau diddorol o wledydd eraill—gan ddewis yr atebion yn y pen draw sy'n gweddu i'n marchnad dai a'n dull partneriaeth yng Nghymru. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.