2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gamau i wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ52174
Yn sicr. Drwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau a rhaglenni ledled Merthyr Tudful a Rhymni sydd mewn sefyllfa dda i gyrraedd y bobl sydd wedi'u hallgáu fwyaf yn ddigidol. Maent yn darparu'r cymorth sylfaenol sydd ei angen gyda sgiliau digidol er mwyn sicrhau gwell canlyniadau economaidd, deilliannau dysgu a chanlyniadau iechyd.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cael dadl fawr a datganiad ar hyn ddoe. Mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw, ac mae'r ddau'n ymwneud â chynhwysiant digidol. Felly, maddeuwch i mi. Bydd fy ail gwestiwn yn ategol i'r cwestiwn hwn. Ond yn y gobaith y byddwch, yn fuan, yn nodi hanes blaenorol Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol a band eang ym Merthyr Tudful a Rhymni, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn canolbwyntio hefyd ar weithredu strategaeth cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018? Oherwydd mae'r strategaeth honno'n atgyfnerthu'r pryderon ynglŷn â'r bwlch rhwng pobl o dan anfantais a chyflymder y newid mewn gwasanaethau digidol. Felly, er na allwn rwystro'r cynnydd, a oes unrhyw waith pellach y gallwn ei wneud yn ein cymunedau yn y Cymoedd i gefnogi'r strategaeth ac i gefnogi pobl ar y llwybr tuag at sicrhau'r sgiliau digidol sydd mor hanfodol i fywyd modern a'r agenda les ehangach?
Oes, yn sicr. Lywydd, rwy'n credu y bydd gennyf sawl cyfle yn y man i sôn am gyflwyno band eang, felly nid wyf am ddweud gormod yma. Ond pan fyddwn wedi cwblhau'r broses gyflwyno, mae'n amlwg yn bwysig iawn fod gan bobl sgiliau a hyder i fanteisio i'r eithaf ar dechnolegau digidol. A cheir rhai enghreifftiau gwych, mewn gwirionedd, ym Merthyr Tudful a Rhymni ar hyn o bryd. Rydym yn darparu'r arweinyddiaeth strategol sydd ei hangen i fynd i'r afael ag allgáu digidol, gan gydnabod bod y gofynion o ran sgiliau digidol i ddiwallu anghenion economi a chymdeithas fodern ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn newid o hyd. Felly, mae angen ymdrech gydunol a chydweithredol ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, ac ar draws ein cymunedau, i greu cymdeithas sy'n wirioneddol gynhwysol yn ddigidol. Ac felly, rydym yn gweithio'n agos iawn ar draws nifer o bortffolios y Cabinet, gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, gyda chydweithwyr yn y trydydd sector fel rhan o dasglu'r Cymoedd, ac mae gennym gynllun gweithredu digidol ar gyfer tasglu'r Cymoedd, sy'n gyffrous iawn. Rwy'n credu fy mod wedi dweud ddoe fod nifer o elfennau yn y cynllun. Un yw cronfa ddata ddaearyddol a gynlluniwyd i alluogi pobl i gael mynediad at ystod o ddata y gallant ei ddefnyddio yn eu bywydau personol, i wneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus, ac i ddatblygu apiau ar gyfer busnesau bach a chanolig. Un yw cymorth i ddatblygu apiau o'r fath a Wi-Fi cymunedol i'w gwneud hi'n bosibl eu defnyddio ar raddfa eang. Felly, ceir nifer o brosiectau pwysig iawn, ond mae'n bwysig fod y sgiliau gan bobl i gael mynediad atynt, neu fel arall byddwn yn gwaethygu arwahanrwydd cymdeithasol.
Arweinydd y tŷ, mae adroddiad cynnydd diweddar Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol yn nodi bod Merthyr Tudful yn ardal heb lawer o weithgarwch cynhwysiant digidol yn digwydd ynddi. Arweiniodd hyn at ffurfio partneriaeth Get Merthyr Tydfil Online. O gofio bod mynegai datblygu digidol Barclays 2017 wedi honni bod sgôr gweithwyr yng Nghymru ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o ran eu sgiliau digidol, a bod cyflogwyr yn barod i dalu premiwm i weithwyr â sgiliau prosesu geiriau, dadansoddi data a chyfryngau cymdeithasol, a wnaiff arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar waith y bartneriaeth ar wella cynhwysiant digidol ym Merthyr Tudful a'r cymoedd cyfagos, os gwelwch yn dda?
Ie. Rydych yn gwneud pwynt da iawn. Mae nifer o arolygon wedi'u cynnal yn ddiweddar. Yn anffodus, mae bob amser yn anhawster yng Nghymru, o ran maint yr arolwg, felly os ydych yn ei allosod ar draws Cymru, nid ydym yn hollol sicr pa mor ddilys yw'r data, yn ystadegol. Ond serch hynny, mae'n tynnu sylw at rai o'r problemau difrifol sydd gennym o ran allgáu digidol. Ac yn sicr, mae'n broblem sy'n ymwneud â chenhedlaeth. Mae'r Aelod yn gwneud nifer o bwyntiau ar yr un pryd. Rydym angen i bobl fod yn meddu ar y sgiliau digidol sylfaenol, y gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, a'r gallu i barhau i gymryd rhan yn gymdeithasol ac ati, ond rydym hefyd angen y sgiliau digidol lefel uwch yn ein gweithlu oedran gwaith, ac yn ein pobl ifanc, er mwyn datblygu'r rhaglenni sy'n caniatáu i bobl feithrin y sgiliau hynny.
Rhan o fenter y Cymoedd Technoleg, a nifer o fentrau eraill ym Merthyr, fel y dywedais wrth Dawn Bowden, mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid, yw gwneud y ddau beth gyda'i gilydd. Ac mae gennym brosiectau rhyng-genhedlaeth cyffrous iawn, lle mae gennym bobl ifanc gyda lefelau uchel iawn o sgiliau digidol yn cynorthwyo mewn ysbytai ac mewn amgylchiadau preswyl, drwy helpu pobl hŷn, nad oes ganddynt y sgiliau hynny, i fynd ar-lein, ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac mae'n galonogol iawn mewn nifer o ffyrdd, mewn gwirionedd, i weld y gwaith hwnnw rhwng y cenedlaethau. Felly, mae yna nifer o ffyrdd arloesol y gallwn helpu gyda hynny, ond rwy'n cytuno bod y—wel, mae maint y samplau'n broblem ddifrifol, felly mae angen i ni edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o gasglu'r data.