Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn cytuno bod yn rhaid inni barhau i wneud yn siŵr fod ein holl gymunedau yn gallu elwa o gyflwyno cysylltiad band eang a chysylltedd digidol. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa fanteision pellach y teimlwch y byddant yn codi ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn arbennig o gyhoeddiad diweddar y Cymoedd Technoleg, a fydd yn amlwg wedi'i leoli yn ardal Glynebwy, ond y gobaith yw y bydd o fudd ar draws Blaenau'r Cymoedd?