2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 16 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Mae cydraddoldeb yn golygu sicrhau bod pobl yn gallu byw eu bywydau i’w llawn botensial, a’u bod yn gallu byw yn annibynnol. Rydw i'n siŵr eich bod chi’n cytuno efo’r geiriau yna. Dyna pam fod y model cymdeithasol ynglŷn ag anabledd wedi bod yn ffordd o rymuso bywydau pobl anabl, ac wedi gwneud i wasanaethau cyhoeddus feddwl am anabledd mewn ffordd wahanol. Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu llawer o bobl anabl ydy diffyg arian neu dlodi. Yn amlwg, mae tlodi yn gallu gwneud ansawdd bywyd person anabl yn sylweddol waeth. A ydych chi’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i roi cefnogaeth ariannol i bobl anabl a theuluoedd sydd â phlant anabl, fel eu bod yn gallu goresgyn rhai o’r rhwystrau mae cymdeithas yn eu gosod arnyn nhw?
Ie, yn wir. Mae'r Aelod, fel bob amser, yn codi pwynt pwysig iawn. Nid yw'n rhan uniongyrchol o fy mhortffolio mewn gwirionedd. Mae gennyf farn drosfwaol ar y cydraddoldebau rwy'n gweithio arnynt gyda'r holl Weinidogion a'r holl Ysgrifenyddion Cabinet eraill. Felly, mewn gwirionedd, fy nghyd-Aelod, y Gweinidog plant, sy'n ymdrin â'r rhan fwyaf o'r cyllid sydd ar gael, ond rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef am yr effaith ar deuluoedd anabl a'u cymunedau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Anabledd Cymru a nifer o grwpiau eraill yn y sector i wneud yn siŵr ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid sydd ar gael. Mae terfyn i'r hyn y gallwn ei wneud o ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, er enghraifft, sy'n achosi peth pryder yn yr ardaloedd lle mae wedi'i gyflwyno'n llawn, ond rydym yn ymwybodol o rai o'r problemau hynny.
Diolch yn fawr. Mi fyddwch chi’n ymwybodol bod gan Blaid Cymru gynnig nes ymlaen y prynhawn yma lle byddwn ni’n trafod tlodi plant, a bod y cynnig hwnnw yn gofyn am ddatganoli gweinyddu rhannau o’r gyfundrefn les. Ond, wrth gwrs, mae yna rai budd-daliadau eisoes wedi eu datganoli’n llawn, neu mae’r rheolaeth weinyddol drostyn nhw yma yng Nghymru yn barod—Cronfa'r Teulu, budd-dal y dreth gyngor, elfennau o'r gronfa gymdeithasol ac, wrth gwrs, y gronfa byw'n annibynnol.
A ydych chi’n hapus efo’r ffordd mae’ch Llywodraeth chi wedi bod yn delio efo cyfrifoldeb dros y cronfeydd yma? Rydw i'n derbyn efallai mai’r Gweinidog arall fyddai’n gallu ateb yn fwy manwl, ond, yn gyffredinol, a ydych chi’n hapus efo perfformiad eich Llywodraeth chi yn delio efo’r cronfeydd yma?
Credaf ei fod yn faes cymhleth iawn, ac nid yw'n rhan o fy mhortffolio, felly, maddeuwch i mi, ni fydd gennyf y lefel angenrheidiol o fanylion i'w ateb â'r manylder y byddech yn ei hoffi o bosibl. Huw Irranca-Davies, fy nghyd-Aelod, sy'n gyfrifol am y cyllid mewn gwirionedd, ond fel y dywedais, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd iawn gydag ef a nifer o grwpiau gwirfoddol yn y sector i weld beth y gallwn ei wneud. Rwy'n ymwybodol o'r ddadl faith ac athronyddol, bron, ynglŷn ag a allwch weinyddu'r system les yn seiliedig ar set o werthoedd nad ydych yn eu rhannu, ac yn sicr nid ydym yn rhannu'r gwerthoedd sy'n gysylltiedig ar hyn o bryd â ffordd Llywodraeth y DU o weithredu'r system les honno.
Rwy'n siŵr y gwelwn, yn y ddadl y prynhawn yma, fod nifer o faterion yn codi ynglŷn ag a fyddech chi mewn gwirionedd yn cael yr arian angenrheidiol i'w chynnal heb dorri i mewn i wasanaethau eraill ac ati, ond mewn egwyddor wrth gwrs, byddem yn hoffi gweld y system les yn cael ei gweithredu fel y bwriadwyd iddi gael ei gweithredu, sef er budd y bobl sydd angen cymorth i allu byw eu bywydau'n llawn. Credaf ein bod, yn ôl pob tebyg, yn rhannu'r farn nad yw'n cael ei gweithredu yn y ffordd honno ar hyn o bryd.
Mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn, yn cynnal nifer o adolygiadau o'r cronfeydd amrywiol, a byddai ef mewn sefyllfa well i roi rhai o'r manylion i chi ar hynt yr adolygiadau hynny ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr ac edrychwn ymlaen at gael y drafodaeth yna ar ddatganoli lles yn nes ymlaen prynhawn yma.
Ond mae’n amlwg nad ydy pawb yn eich plaid chi yn hapus efo rhai agweddau, yn sicr, o’r cronfeydd yma—er enghraifft, diddymu’r gronfa byw'n annibynnol. Rydw i'n deall bod yna gynnig wedi cael ei basio i adfer y gronfa yma gan gynhadledd y Blaid Lafur, a oedd o blaid mabwysiadu model yr Alban. Felly, a fedrwch chi egluro sut mae dileu’r cymorth hanfodol yma, ynghyd, hefyd, â thorri’r arian i Gronfa'r Teulu—? Sut mae gwneud hynny yn gydnaws efo’r geiriau cychwynnol gen i ac efo egwyddorion deddfwriaeth cydraddoldeb, a’ch dyletswydd chi i symud rhwystrau sy’n wynebu pobl â phlant anabl?
Dyma un o'r anawsterau sy'n deillio o fod yn gyfrifol am un o'r portffolios trawsbynciol. Felly, nid wyf am roi ateb sy'n foddhaol i chi, yn syml oherwydd nad fi yw'r Gweinidog sydd â manylion y gronfa dan sylw, felly nid cwestiwn i mi ei ateb yw hwnnw. Ond yn gyffredinol, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda'r Gweinidog ynglŷn â beth rydym yn ei wneud i adolygu'r gronfa, beth yw ei nodau cyffredinol, faint o arian sydd ynddi a beth yw'r peth gorau i'w wneud ag ef, ochr yn ochr â'r gwahanol sefydliadau rydym yn cysylltu â hwy—grwpiau rhanddeiliaid ac ati.
Rwy'n ymwybodol fod yna amrywiaeth o safbwyntiau ar hyn, ond yn anffodus, nid fi yw'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am hynny. Rwy'n eich sicrhau ein bod yn cael y sgwrs fel y gallwn sicrhau cymaint o fudd â phosibl i deuluoedd anabl. Ond yn sicr, nid oes amheuaeth o gwbl ein bod yn cael anhawster gydag agenda cyni nad ydym yn cytuno â hi a lle rydym yn ymdrin â system ddogni nad ydym yn cytuno â hi chwaith. Felly, mae'n fater o geisio dod o hyd i'r llwybr gorau drwy hynny a lleddfu, lle bo hynny'n bosibl, yr anawsterau y mae pobl sy'n byw gydag anableddau, ac sy'n byw gyda phlant ag anableddau, yn eu hwynebu yn eu bywydau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, 18 mis yn ôl, fe gyhoeddoch y bwriad i gyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ffonau symudol. A gaf fi ofyn, ers y dyddiad hwnnw, pa fesurau pendant rydych wedi'u gweithredu i wella signal ffonau symudol yng Nghymru? A phryd oedd y tro diwethaf i chi gyfarfod yn uniongyrchol â gweithredwyr ffonau symudol?
Rwy'n cyfarfod â gweithredwyr ffonau symudol ar raglen dreigl o gyfarfodydd â'r gwahanol weithredwyr. Nid wyf wedi cael cyfarfod grŵp â hwy ers cryn amser, ers i ni lansio'r cynllun gweithredu, ond rwy'n cael rhyw fath o gyfres o gyfarfodydd gyda hwy, os hoffech chi. Rydym hefyd yn gohebu'n rheolaidd gydag Ofcom. Rydym wedi cael llawer mwy o drafodaethau gydag Ofcom yn ddiweddar iawn—mae'n teimlo fel cylch diddiwedd yma i raddau, Lywydd, oherwydd cawsom y ddadl ddoe—ar faterion megis rhannu seilwaith, cynllunio eich seilwaith yn fwy effeithlon, pa anghenion cynllunio sy'n angenrheidiol mewn gwirionedd, beth yw'r angen gwirioneddol am ostyngiad mewn taliadau ardrethi annomestig, a pham eu bod mor wrthwynebus i drawsrwydweithio mewn ardaloedd lle maent oll wedi cytuno mai un gweithredwr yn unig sy'n debygol o ddarparu signal daearyddol o 98 y cant. Credaf fy mod wedi trafod rhywfaint o hynny gyda chi ddoe hefyd.
Fe wnaethoch, ac fe ofynnais yn fy nghwestiwn pa fesurau pendant rydych wedi'u rhoi ar waith i wella signal ffonau symudol yng Nghymru. Ni chlywais unrhyw beth ynglŷn â pha fesurau gwirioneddol rydych wedi'u cyflawni. Buaswn yn awgrymu efallai y dylech gyfarfod â'r gweithredwyr gyda'i gilydd, oherwydd byddent yn gallu dweud wrthych beth yw'r rhwystrau. Maent yn dweud wrthyf beth yw'r rhwystrau, ac rwy'n credu eu bod angen esbonio rhai o'r rhwystrau hyn i chi. Fe ddywedoch chi ddoe eich bod yn anghytuno'n llwyr â fy nadansoddiad o'r sefyllfa gyda ffonau symudol, ond rwy'n credu ei bod yn bwysicach i bobl Cymru fod y diwydiant ffonau symudol i'w weld yn cytuno gyda fy nadansoddiad i.
Nawr, ddoe, fe ddywedoch hefyd fod y problemau daearyddol yng Nghymru yn wahanol i unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig. Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â chi am hynny, ond dyna'n union pam y mae angen i chi feithrin yr amodau cywir i'r diwydiant gyflwyno ei seilwaith yma yng Nghymru, ac mae'r gweithredwyr yn dweud bod oedi parhaus ar ddiwygio'r deddfau cynllunio cyfredol yn gohirio ac yn ychwanegu costau ychwanegol ar eu cyfer. Credaf mai hyn, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, sy'n achosi problemau i ni. Nawr, gyda newidiadau i'r rheolau cynllunio eisoes ar waith yn Lloegr ac yn yr Alban, rydym bellach yn ceisio dal i fyny yng Nghymru. Rydych yn dweud bod angen mwy o dystiolaeth gan y diwydiant, ond buaswn yn gofyn i chi pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn ychwanegol at y dystiolaeth y maent eisoes wedi'i darparu i chi. Dyna yw fy nghwestiwn penodol.
Y llynedd, cynhaliodd y pwyllgor economi ymchwiliad ar hyn ac fe wnaethom rai argymhellion ar ddarpariaeth symudol ac rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn pob un ohonynt. Un o'r argymhellion hynny oedd y dylech archwilio dichonoldeb defnyddio'r gyfundrefn gynllunio i annog gweithredwyr i rannu seilwaith. Fe wnaethoch gytuno â hynny, felly hoffwn gael diweddariad ar hynny. Rydych hefyd wedi derbyn argymhelliad 9, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd. Wel, rwy'n falch o ddweud eich bod wedi derbyn hwnnw yn ogystal. Ac fe ddywedoch yn eich ateb ar y pryd—naw mis yn ôl—eich bod yn archwilio'r potensial ar gyfer newidiadau ar yr adeg honno ac y byddai'r gwaith ymchwil hwnnw wedi ei gwblhau ym mis Tachwedd 2017. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y cynnydd ar hyn os gwelwch yn dda?
Gallaf. Mae rhan fawr o hynny, mewn gwirionedd, ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yma i glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud, ond rwy'n credu fy mod wedi trafod llawer ohono ddoe. I fod yn glir, un o'r problemau mawr sydd gennym o ran dweud wrthych beth yw'r pethau pendant rwyf wedi'u gwneud, yw nad yw'r mater wedi'i ddatganoli mewn gwirionedd. Rydym yn anghytuno'n sylfaenol â Llywodraeth o'ch lliw gwleidyddol chi yn y DU ynglŷn ag a yw hwn yn fater seilwaith ai peidio. Rwy'n ymwybodol iawn y bydd y gweithredwyr ffonau symudol yn dweud wrthych mai'r cyfan y maent ei angen yw'r gallu i adeiladu mastiau mwy o faint a bydd popeth yn iawn. Ond nid wyf eisiau gweld, ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau gweld, coedwig o fastiau yng nghanol y parc cenedlaethol, oherwydd ni ellir gwneud iddynt rannu'r seilwaith a'r mastiau hynny, na defnyddio mastiau'r Swyddfa Gartref yn lle hynny. Felly, mae yna gydbwysedd gwirioneddol yma rhwng nifer y mastiau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod yna gystadleuaeth mewn rhywbeth a ddylai fod yn seilwaith a sicrhau signal i Gymru, a phobl yn ymddwyn yn synhwyrol mewn ardaloedd sensitif.
Fel y dywedais, gorchymyn masnachol ganddynt hwy yw hwn, felly yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf yn y bôn yw eu bod eisiau i mi sicrhau y bydd fy nghyd-Aelod Cabinet yn caniatáu iddynt adeiladu mast o ba faint bynnag y byddent yn ei hoffi, lle bynnag y byddent yn hoffi, a chael gwared ar yr holl dariffau y byddai'n rhaid iddynt eu talu i fynd yno, ac yna byddant yn adeiladu rhwydwaith cyfan ar draws Cymru. Wel, mae'n ddrwg gennyf, nid yw hynny'n gwneud synnwyr mewn termau busnes. Rydym wedi gofyn iddynt am dystiolaeth i ddangos pam fod y gyfundrefn gyfredol ar gyfer codi tâl yn gwneud gwahaniaeth i'w hachos masnachol, a pham na allant rannu, a pham nad ydynt yn caniatáu trawsrwydweithio, ac yn anffodus, nid yw'r dystiolaeth rydym wedi'i chael yn ôl wedi bod yn dda. Felly, rydym wedi mynd ati eto i wneud hynny. Ar yr un pryd, rydym yn cynnal ymgynghoriad ar 'Polisi Cynllunio Cymru'—mae hwnnw ar fin dod i mewn—ac rydym ar fin ymgynghori ar newidiadau i'r gyfundrefn ddatblygu a ganiateir. Ond ni fyddant yn rhydd i wneud fel y mynnant, gan nad oes yr un ymgynghoriad wedi dweud wrthym mai dyna y mae pobl Cymru ei eisiau mewn gwirionedd.
Wel, rydych yn dweud nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli. Mae'r ddau fater penodol y gofynnais i chi amdanynt yn sicr wedi'u datganoli. Gofynnais i chi am gynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd, ac ni wnaethoch ateb. Gofynnais i chi hefyd am y newidiadau i'r gyfundrefn gynllunio. Rydych yn dweud nad yw hyn yn rhan o'ch portffolio, ond dylech fod yn ateb—rydych eisoes wedi trafod hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am hynny. Felly, credaf ei bod yn rhwystredig fod cyn lleied o gynnydd wedi'i wneud.
Mae ymchwil newydd gan O2 yn dangos y gallai'r DU elwa o £6 biliwn o arbedion cynhyrchiant i wasanaethau hanfodol gan 5G. A gaf fi ofyn i chi sut rydych yn bwriadu gweithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â'r genhedlaeth nesaf hon o dechnoleg symudol ac nad yw'n colli buddsoddiad i rannau eraill o'r DU?
Iawn, wel, fe wnaf ailadrodd, oherwydd roeddwn yn meddwl fy mod wedi ateb y cwestiwn yn glir. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth bendant i ddangos pam fod yr achos busnes yn dweud na allant rannu mastiau, fod angen adeiladu eu seilwaith eu hunain ar wahân, ac nad yw'r seilwaith hwnnw'n hyfyw heb ryddhad ardrethi annomestig. Felly, nid wyf wedi gweld y dystiolaeth honno eto, er ein bod wedi gofyn amdani sawl gwaith. Rydym yn ymgynghori. Rydym wedi cael y gwaith ymchwil; rydym yn ymgynghori ar sail y gwaith ymchwil hwnnw. Mae'r ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ym mis Mehefin, ac rydym ar fin dechrau'r hawliau datblygu a ganiateir. Felly, dyna'r ateb rydych wedi gofyn amdano, rwy'n credu. Mae'n bosibl nad dyna'r ateb y byddech yn ei hoffi, ond dyna'r ateb.
A'r ateb nesaf ar 5G—ac rwyf wedi dweud hyn droeon yn y Siambr hon—os oes gennym yr un sefyllfa ag sydd gennym gyda 4G, lle mae gennym fancio tir i bob pwrpas, lle mae gennych un gweithredwr sy'n berchen ar 4G ar gyfer Cymru ac os nad yw'n credu ei fod yn hyfyw yn fasnachol, yn syml iawn ni chaiff ei gyflwyno, nid yw'n dderbyniol. Felly, os ydynt yn ei brynu ac os nad ydynt yn ei ddefnyddio o fewn cyfnod penodol o amser, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU sawl gwaith i roi terfyn ar hynny a dweud, 'Os nad ydych wedi'i ddefnyddio yn yr ardal benodol hon erbyn hynny, dylech ei roi yn ôl a gadael i'r sector cyhoeddus ei wneud fel ymyrraeth yn y farchnad'. Nawr, bydd hynny'n lleihau'r swm o arian a geir am werthu'r sbectrwm, ac mae honno'n broblem fawr oherwydd nid ydym yn credu y dylid ei ddefnyddio fel ffynhonnell arian, ac rwy'n ofni nad yw Llywodraeth y DU yn credu hynny. Felly, rydym yn cael dadl fawr gyda hwy ynglŷn â hynny, ac mae'n fater sylfaenol, oherwydd nid moethusrwydd yw hwn; mae'n seilwaith. Cyhyd â'n bod yn parhau i gael y ddadl honno, mae gennym broblem go iawn.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n addo i chi, arweinydd y tŷ, na fyddaf yn sôn am seilwaith digidol o gwbl. Ym mis Hydref 2017, lluniodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi adroddiad o'r enw 'Stolen freedom: the policing response to modern slavery and human trafficking'. Yn yr adroddiad hwnnw, mae'n dweud bod miloedd o ddynion, menywod a phlant yn cael eu diraddio a'u gwneud i deimlo'n annynol, heddiw a bob dydd. Er mai adroddiad ar gyfer y DU gyfan yw hwn, a all arweinydd y tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ymdrechion yng Nghymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?
Gallaf, yn wir. Mae'r cydgysylltydd atal caethwasiaeth cyntaf yng Nghymru yn ei swydd, ac mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar system, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i wneud yn siŵr fod yr hybiau amlasiantaethol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau, pan fydd pobl yn tynnu sylw at achosion, ein bod yn gallu eu prosesu'n gyflym, sicrhau eu bod mewn mannau diogel, a bwrw ymlaen â'r erlyniadau cyn gynted â phosibl. Nid oes llawer wedi bod hyd yn hyn, ond rydym yn hyderus iawn y bydd mwy ohonynt. Mae yna dair problem, fodd bynnag, a'r gyntaf yw'r broblem sy'n ymwneud â'r amgylchedd gelyniaethus—a elwir bellach yn amgylchedd 'cydymffurfio'. Nid ydym eisiau i bobl sy'n dod i'n sylw am eu bod wedi dioddef caethwasiaeth fodern orfod wynebu sefyllfa lle na fydd ganddynt unrhyw statws, ac fel sy'n digwydd yn yr achosion gwaethaf, eu bod yn gorfod wynebu alltudiaeth. Yn fwyaf arbennig, nid ydym eisiau i fenywod sy'n cael eu masnachu i fod yn y sefyllfa honno, a hwythau'n aml yn ffoi rhag trais domestig hefyd. Felly, rydym wedi bod mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gartref i drafod canlyniadau anfwriadol yn deillio o sawl cyfundrefn yn dod at ei gilydd, gan atal pobl rhag rhoi gwybod am eu sefyllfa am eu bod yn ofni y byddant yn cael eu rhoi mewn sefyllfa waeth. Ond rydym wedi cael ein canmol yng Nghymru am benodi cydgysylltydd atal caethwasiaeth a'i ymdrechion i ddod â'r gwasanaethau at ei gilydd, ac rydym yn falch iawn o hynny.
Wel, diolch i arweinydd y tŷ am y sylwadau hynny, ac rwy'n llwyr ategu'r hyn a ddywedodd am y cymhlethdodau hynny, ac y dylai unrhyw un mewn sefyllfa o'r fath gael y cymorth angenrheidiol ac na ddylent gael eu cosbi am y sefyllfa y maent ynddi. Ond pwysleisiodd y Comisiynydd Atal Caethwasiaeth Annibynnol, Kevin Hyland, fod dioddefwyr caethwasiaeth fodern o'r golwg yng ngolwg pawb, yn byw mewn amgylchiadau aflan ac yn gweithio mewn diwydiannau risg uchel, gan gynnwys safleoedd adeiladu, sefydliadau golchi ceir a salonau ewinedd. O ystyried bod yr holl ddiwydiannau hyn yn gyffredin yng Nghymru, onid yw'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd Cymru'n goddef y cam-drin sy'n gysylltiedig â'r mathau hyn o waith?
Ie, yn wir, ac rydym yn gwneud yn siŵr—. Rydym wedi bod yn cynnal nifer o ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd—yr ymgyrch 'Paid cadw'n dawel', a lansiwyd yr wythnos diwethaf, er enghraifft—sy'n tynnu sylw pobl at yr hyn y dylent edrych amdano, mewn achosion o drais domestig a thrais rhywiol, ond hefyd mewn achosion o gaethwasiaeth, a chyhoeddi astudiaethau ar deledu rhwydwaith ac ati, fel y gall pobl roi gwybod, os ydynt yn adnabod eu hunain, a deall ble i ddod o hyd i'r cymorth hwnnw. Mae rhan fawr o hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â'r ffaith nad yw pobl yn deall mai dyna sy'n digwydd iddynt oherwydd nad ydynt yn deall y system y maent wedi cael eu masnachu neu eu symud i mewn iddi. Mae fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, wedi gwneud gwaith enfawr yn sicrhau'r math hwn o gyhoeddusrwydd hefyd.
Rydych yn hollol gywir fod yn rhaid i ni wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o'u hamgylchiadau ac yn gwybod beth i'w wneud er mwyn gallu rhoi gwybod, a'u bod yn gallu dianc, os mynnwch, o'r amgylchiadau hynny gyda rhywfaint o ddiogelwch er mwyn i hynny ddigwydd. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod pob un o ddinasyddion Cymru yn ymwybodol ohono ac yn ei adnabod pan fyddant yn ei weld, fel y gallant roi gwybod amdano. Buaswn yn dweud ar y pwynt hwn, Lywydd, ein bod bob amser yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw amheuon o'r fath i gysylltu â'u heddlu lleol ar unwaith.
Wel, unwaith eto, diolch i arweinydd y tŷ am ei hateb, ac rwy'n llwyr ategu'r ffaith bod Joyce Watson wedi gwneud llawer o waith mewn perthynas â hyn, ac rwy'n cydnabod hynny, wrth gwrs.
Ond mae nifer o sylwadau wedi'u gwneud mewn perthynas ag anallu'r asiantaethau dan sylw i sicrhau euogfarnau'r rheini sy'n cyflawni gwahanol agweddau ar gamfanteisio, yn enwedig mewn perthynas â gweithwyr mudol, ac a gaf fi ei gwneud yn glir yma fod rhaid i ni gael diffiniad o beth yw caethwasiaeth mewn gwirionedd? Mae'n iawn i ddweud y dylai pobl roi gwybod os ydynt yn ei adnabod ac yn ei weld, ond os nad oes gennym ddisgrifiad cywir o beth yw caethwasiaeth, ni fydd hynny'n digwydd. Felly, a allai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar nifer yr euogfarnau, nid atgyfeiriadau—euogfarnau—a gafwyd yng Nghymru mewn perthynas â chaethwasiaeth neu led-gaethwasiaeth?
Ie, nid oes gennyf yr ystadegau wrth law, felly byddaf yn ysgrifennu atoch gyda'r ystadegau penodol. Ond nid oes digon ohonynt, a dyna pam rydym wedi parhau i ddatblygu'r hybiau gwasanaeth amlasiantaethol, er mwyn dwyn y data angenrheidiol ynghyd i sicrhau bod erlyniadau'n llawer mwy tebygol o ddigwydd. Mae yna nifer fawr o resymau pam nad yw'r erlyniadau wedi digwydd, sy'n ymwneud yn bennaf â dibynadwyedd ac argaeledd data ar gyfer tystiolaeth. Mae hyn yn ymwneud â chael yr asiantaethau at ei gilydd fel bod gennym y data angenrheidiol ac fel nad ydym yn rhoi pobl mewn perygl o wynebu bygythiadau ac anawsterau pellach wrth roi gwybod am eu sefyllfa. Rydym yn obeithiol iawn y bydd nifer yr erlyniadau yn cyflymu wrth i ni fwrw ymlaen, gan fod yr hybiau amlasiantaethol yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda'r manylion penodol, gan nad ydynt gennyf wrth law ar hyn o bryd.