Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Mai 2018.
Yr wythnos diwethaf, cynorthwyais i lansio dathliad hanner canfed pen blwydd gŵyl gerddoriaeth Bro Morgannwg a gafodd ei sefydlu a'i chynnal gan ei chyfarwyddwr artistig ysbrydoledig, y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf. Hoffwn ddiolch i'r ŵyl am gynnwys cerddoriaeth David Roche o Dredegar gyda'r perfformiad cyntaf o Leading by Example mewn cyngerdd a fynychais ddydd Sadwrn diwethaf. Yn ei raglen, roedd David yn dweud:
Dyma ddathliad o bŵer addysg a mynegiant o ddiolchgarwch i'r bobl sydd wedi gweithredu fel modelau rôl ac sydd wedi fy ngalluogi i ddilyn y llwybr rwyf arno heddiw.
Gyda chyfansoddwyr a cherddorion o Tsieina, Denmarc, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau i'w clywed yn yr ŵyl, cafodd darn David ei chwarae gan y ffliwtydd o Cuba, Javier Zalba, a'r pianydd o'r Iseldiroedd, Jan Willem Nelleke, ym mhafiliwn pier Penarth. Hefyd, chwaraeodd Javier Zalba ddarn newydd gan y cyfansoddwr o Gaerdydd, Helen Woods. Roedd yr ŵyl ym Mhriordy Ewenni eleni yn cynnwys gwaith y cyfansoddwyr Cymreig Huw Watkins a'r diweddar Peter Reynolds.
Mae Steph Power, un o'r cyfansoddwr yn yr ŵyl a chadeirydd Tŷ Cerdd, yn cefnogi fy neges am bwysigrwydd yr ŵyl, nid yn unig i Fro Morgannwg, ond i Gymru ac i'r byd. Ond mae gan yr ŵyl wreiddiau cryf yn ein cymuned ni hefyd ac mae'n chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli plant a phobl ifanc, gyda cherddorion a chyfansoddwyr yn cynnwys disgyblion yn Ysgol Sant Curig, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd Parc Jenner yn y Barri eleni. Mae Steph Power yn dweud—ac rwy'n cytuno—fod y rhan y mae'r ŵyl yn ei chwarae yn y ddeialog ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth, ynghyd â'i hymrwymiad i gyflwyno proffil diwylliannol o'n gwlad sy'n rhyngwladol ac yn flaengar, yn ei gwneud yn un o lwyddiannau mawr y byd celfyddydol yng Nghymru.