5. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:31, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r cyntaf y prynhawn yma yw Jane Hutt.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cynorthwyais i lansio dathliad hanner canfed pen blwydd gŵyl gerddoriaeth Bro Morgannwg a gafodd ei sefydlu a'i chynnal gan ei chyfarwyddwr artistig ysbrydoledig, y cyfansoddwr Cymreig John Metcalf. Hoffwn ddiolch i'r ŵyl am gynnwys cerddoriaeth David Roche o Dredegar gyda'r perfformiad cyntaf o Leading by Example mewn cyngerdd a fynychais ddydd Sadwrn diwethaf. Yn ei raglen, roedd David yn dweud:

Dyma ddathliad o bŵer addysg a mynegiant o ddiolchgarwch i'r bobl sydd wedi gweithredu fel modelau rôl ac sydd wedi fy ngalluogi i ddilyn y llwybr rwyf arno heddiw.

Gyda chyfansoddwyr a cherddorion o Tsieina, Denmarc, yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau i'w clywed yn yr ŵyl, cafodd darn David ei chwarae gan y ffliwtydd o Cuba, Javier Zalba, a'r pianydd o'r Iseldiroedd, Jan Willem Nelleke, ym mhafiliwn pier Penarth. Hefyd, chwaraeodd Javier Zalba ddarn newydd gan y cyfansoddwr o Gaerdydd, Helen Woods. Roedd yr ŵyl ym Mhriordy Ewenni eleni yn cynnwys gwaith y cyfansoddwyr Cymreig Huw Watkins a'r diweddar Peter Reynolds.

Mae Steph Power, un o'r cyfansoddwr yn yr ŵyl a chadeirydd Tŷ Cerdd, yn cefnogi fy neges am bwysigrwydd yr ŵyl, nid yn unig i Fro Morgannwg, ond i Gymru ac i'r byd. Ond mae gan yr ŵyl wreiddiau cryf yn ein cymuned ni hefyd ac mae'n chwarae rhan bwysig yn ysbrydoli plant a phobl ifanc, gyda cherddorion a chyfansoddwyr yn cynnwys disgyblion yn Ysgol Sant Curig, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Gynradd Parc Jenner yn y Barri eleni. Mae Steph Power yn dweud—ac rwy'n cytuno—fod y rhan y mae'r ŵyl yn ei chwarae yn y ddeialog ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth, ynghyd â'i hymrwymiad i gyflwyno proffil diwylliannol o'n gwlad sy'n rhyngwladol ac yn flaengar, yn ei gwneud yn un o lwyddiannau mawr y byd celfyddydol yng Nghymru.  

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:33, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag. Mae'r ffocws ar gael diagnosis cynnar i fwy o bobl, gan fod ymchwil yn dangos bod diagnosis hwyr yn gallu arwain at broblemau niwrolegol anwrthdroadwy sy'n effeithio ar leferydd, cydbwysedd a chydsymud. Mae clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn gydol oes difrifol a achosir gan adwaith i glwten—protein a geir mewn gwenith, haidd, rhyg a rhai mathau o geirch. Mae'n rhaid i bobl sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr beidio â bwyta glwten am weddill eu hoes os ydynt am osgoi cymhlethdodau difrifol iawn fel osteoporosis, anffrwythlondeb a chanser prin yn y coluddyn bach.

Mae un o bob 100 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glefyd seliag, ond mae dros dri chwarter o'r rhain heb gael diagnosis. Yn wir, Cymru sydd â'r cyfraddau diagnosis isaf—22 y cant—ar gyfer y cyflwr yn y DU gyfan. Yn ogystal â hyn, mae'n cymryd cymaint ag 13 o flynyddoedd ar gyfartaledd i unigolyn gael diagnosis.

Mae Coeliac UK yn 50 mlwydd oed eleni. Mae'n cyflawni gwaith rhagorol ar ran dioddefwyr cyflwr seliag, ond mae taer angen am fwy o arian a gwaith ymchwil. Ym mis Mawrth eleni, lansiodd Coeliac UK apêl ar gyfer cronfa ymchwil gwerth £5 miliwn, a gyda chefnogaeth y cyhoedd, mae'n gobeithio cyflawni mwy o waith ymchwil i'r clefyd. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol ar glefyd seliag ac rwyf wedi gweld drosof fy hun yr effaith y gall y cyflwr ei gael.

Fel meddyg teulu, gwn pa mor bwysig yw diagnosis cynnar a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau cleifion. Gall pawb ohonom chwarae ein rhan drwy godi ymwybyddiaeth o glefyd seliag a buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi gwaith Coeliac UK a'i grwpiau lleol ledled Cymru.