Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 16 Mai 2018.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Seliag. Mae'r ffocws ar gael diagnosis cynnar i fwy o bobl, gan fod ymchwil yn dangos bod diagnosis hwyr yn gallu arwain at broblemau niwrolegol anwrthdroadwy sy'n effeithio ar leferydd, cydbwysedd a chydsymud. Mae clefyd seliag yn gyflwr awto-imiwn gydol oes difrifol a achosir gan adwaith i glwten—protein a geir mewn gwenith, haidd, rhyg a rhai mathau o geirch. Mae'n rhaid i bobl sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr beidio â bwyta glwten am weddill eu hoes os ydynt am osgoi cymhlethdodau difrifol iawn fel osteoporosis, anffrwythlondeb a chanser prin yn y coluddyn bach.
Mae un o bob 100 o bobl yng Nghymru yn dioddef o glefyd seliag, ond mae dros dri chwarter o'r rhain heb gael diagnosis. Yn wir, Cymru sydd â'r cyfraddau diagnosis isaf—22 y cant—ar gyfer y cyflwr yn y DU gyfan. Yn ogystal â hyn, mae'n cymryd cymaint ag 13 o flynyddoedd ar gyfartaledd i unigolyn gael diagnosis.
Mae Coeliac UK yn 50 mlwydd oed eleni. Mae'n cyflawni gwaith rhagorol ar ran dioddefwyr cyflwr seliag, ond mae taer angen am fwy o arian a gwaith ymchwil. Ym mis Mawrth eleni, lansiodd Coeliac UK apêl ar gyfer cronfa ymchwil gwerth £5 miliwn, a gyda chefnogaeth y cyhoedd, mae'n gobeithio cyflawni mwy o waith ymchwil i'r clefyd. Rwy'n falch o fod yn gadeirydd ar y grŵp trawsbleidiol ar glefyd seliag ac rwyf wedi gweld drosof fy hun yr effaith y gall y cyflwr ei gael.
Fel meddyg teulu, gwn pa mor bwysig yw diagnosis cynnar a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau cleifion. Gall pawb ohonom chwarae ein rhan drwy godi ymwybyddiaeth o glefyd seliag a buaswn yn annog pob un ohonoch i gefnogi gwaith Coeliac UK a'i grwpiau lleol ledled Cymru.