Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 16 Mai 2018.
Nid wyf yn cael unrhyw anhawster i ymrwymo i dri pharagraff cyntaf yr amcanion yn y polisi urddas a pharch hwn. Wrth gwrs y dylai pawb deimlo'n ddiogel, yn gyfforddus a chael eu parchu pan fyddant yn ymwneud â'r Cynulliad Cenedlaethol, a dylai pobl sy'n gweithio yma deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, a chael eu parchu yn eu hamgylchedd gwaith. Rwy'n cytuno hefyd fod diwylliant y Cynulliad yn amrywiol a chynhwysol.
Ond rwyf am leisio gair o rybudd ynghylch amhendantrwydd peth o eiriad y polisi hwn, a hefyd ei gyrhaeddiad honedig i bawb ohonom fel Aelodau Cynulliad yn gweithredu fel unigolion preifat, hyd yn oed ar wyliau er enghraifft, neu mewn unrhyw sefyllfa breifat mewn gwirionedd. Credaf y dylem fod yn ofalus iawn ynglŷn â'r hyn yr ydym yn ei wneud yma. Os rhown ein hunain mewn sefyllfa lle y gall pobl o'r tu allan, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi nodi'n barod, ymgymryd â gweithredoedd honedig o wyliadwriaeth—gellir gwneud hyn yn gudd yn ogystal, nid yn unig yn agored, fel y disgrifiodd, ac rydym ni, felly, yn ein holl ymwneud mewn bywyd preifat, boed ar ôl ychydig o ddiodydd yn y dafarn neu mewn bwyty, neu hyd yn oed yn ein cartref preifat ein hunain, a allai fod wedi ei fygio, yn dweud jôc a allai o bosibl beri tramgwydd i rywun a allai wneud cwyn—gallai hwn fod yn offeryn gormesol.
Nawr, fe rof un enghraifft amserol iawn. Mae'r Athro Richard Lebow, sy'n athro mewn theori wleidyddol ryngwladol yn King's College Llundain, ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol oherwydd iddo wneud y camgymeriad, yn un o'u cynadleddau yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, o fynd i mewn i lifft gorlawn, a phan ofynnwyd iddo, 'Pa lawr ydych chi ei eisiau?', fe ddywedodd, 'Dillad isaf menywod'. Nawr, cafodd hyn ei wneud yn destun cwyn gan athro astudiaethau rhywedd yn un o brifysgolion gorllewin canol America, rwy'n credu. Mae bellach mewn perygl o gael ei yrfa broffesiynol wedi'i thanseilio, neu hyd yn oed ei dinistrio efallai am fod rhywun yn dal dig tuag ato, neu ei duedd wledidyddol ganfyddedig neu ragdybiedig.
Nawr, os ydym yn dehongli termau'r polisi urddas a pharch hwn yn gymesur ac yn synhwyrol, wrth gwrs nad ydym yn mynd i roi ein hunain mewn perygl, ond mae penderfyniadau diweddar yn fy mhoeni. Ac nid wyf am fanylu ar yr achos unigol, ond siaradais amdano yn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor safonau yr wythnos cyn diwethaf, neu ddwy neu dair wythnos yn ôl. Rwy'n credu bod yn rhaid inni fireinio'r datganiad hwn fel ein bod yn gosod rhyw brawf rhesymoldeb ar y drosedd yr ydym yn ei chreu. Wrth gwrs, nid wyf am amharu ar urddas pobl eraill drwy unrhyw beth a wnaf neu a ddywedaf, ond nid wyf yn rheoli sut yr effeithir ar eraill gan yr hyn a ddywedaf. Gallai rhywun deimlo sarhad afresymol ynglŷn â rhywbeth a ddywedais, a gallai arwain at gŵyn ddisgyblu, a gallai hynny fod yn berthnasol i bob unigolyn, nid yn unig i rywun sy'n Aelod o'r Cynulliad hwn, ond pawb sy'n gweithio yma neu'n dod i gysylltiad â ni yn swyddogol. Ac yn hynny o beth, rwy'n credu bod problemau difrifol yma, ynghylch rhyddid i lefaru, ynghylch preifatrwydd—caiff y ddau eu gwarchod gan y confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol a deddfwriaeth hawliau dynol eraill—a chredaf nad ydym wedi rhoi digon o ofal a sylw i'r mater hwn drwy ddrafftio'r datganiadau cyffredinol eang hyn o egwyddor heb unrhyw gyfyngiad, a'u cymhwyso i ni yn ein bywydau bob dydd, 24 awr y dydd bob dydd, fel y mae Paul Davies wedi nodi'n flaenorol. Felly, hoffwn ychwanegu gair o rybudd, heb ddymuno gwrthwynebu'r ddogfen bolisi, y dylem gyflwyno rhyw brawf rhesymoldeb a chymesuredd i'r hyn a wnawn.