Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 16 Mai 2018.
Rydw i'n codi i gefnogi'r cynnig yma i gymeradwyo polisi urddas a pharch y Cynulliad. Mae e'n gyfraniad pwysig at roi fwy o eglurder i ni ar nifer o agweddau pwysig, hynny yw beth yw disgwyliadau'r Cynulliad Cenedlaethol yma o unrhyw un sy'n ymwneud â'r sefydliad, beth yw ymddygiad amhriodol, beth i'w wneud os ŷch chi am wneud cwyn ynglŷn ag achos a beth yw'r gweithdrefnau perthnasol, a sut hefyd, wrth gwrs, y bydd achwynwyr, tystion a'r rhai sydd â chŵyn yn eu herbyn nhw yn cael eu diogelu o fewn y prosesau yma. Mae e i gyd yn gyfraniad pwysig, yn fy marn i, at fater pwysig i ni fel sefydliad. Ond mae angen, rydw i'n meddwl hefyd, taro nodyn o rybudd fan hyn. Un cam bychan yw'r polisi yma mewn taith lawer iawn yn hirach, a pheidied neb â meddwl y gall un ddogfen bolisi fel hyn fod yn ddigonol, ac y gall y Cynulliad wedyn symud ymlaen yn ei sgil. Mae yna broses ehangach ar waith fan hyn, ac fel y cyfeiriodd Cadeirydd y pwyllgor safonau, mae'r pwyllgor hwnnw yn gwneud llawer o'r gwaith yna ar hyn o bryd.
Nawr, mae'r dystiolaeth rŷm ni fel pwyllgor safonau wedi ei chael wedi bod yn sobreiddiol, ac wedi gwneud inni sylweddoli cymaint o waith sydd yna sydd angen ei wneud. Fe welsom ni'r wythnos yma, wrth gwrs, adroddiadau am y ffigurau brawychus o Brifysgol Caerdydd, a oedd yn dweud stori wahanol iawn, efallai, i'r canfyddiad sydd gan nifer o bobl ynglŷn â hyd a lled y felltith yma o aflonyddu a chamdriniaeth. Roedd e'n codi cwr y llen ar broblem sy'n llawer mwy cyffredin nag, efallai, mae nifer ohonom ni wedi ei ddychmygu, ac mae angen cydnabod, yn fy marn i, fod Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhagweithiol yn gosod y platfform ar-lein yma yn ei le er mwyn cofnodi achosion o gam-drin ac o aflonyddu.
Fe amlygwyd hon yn enghraifft inni yn ein tystiolaeth fel pwyllgor safonau, ac, yn sicr, rydw i'n meddwl ei fod yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei ystyried fel opsiwn posib i ni fan hyn yn y Cynulliad, i ddatblygu cyfrwng o'r fath hefyd, oherwydd, fel y polisi parch ac urddas sydd o'n blaenau ni heddiw, mi fyddai fe, o bosib, yn un ffordd arall o fynd i'r afael â ac o daclo'r broblem yma. Oherwydd po fwyaf o gyfleoedd a chyfryngau sydd yna i godi, nodi a chofrestru’r materion yma, yna'r mwyaf tebygol yw hi y bydd dioddefwyr a thystion yn dod ymlaen, ac, yn sgil hynny, wrth gwrs, y mwyaf tebygol yw hi y byddan nhw wedyn, yn eu tro, yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw, ac wedyn, wrth gwrs, yn sgil hynny, y mwyaf tebygol yw hi y medrwn ni fynd i'r afael â'r broblem yma a chreu diwylliant go iawn o barch ac urddas, nid dim ond ar bapur mewn polisi, nid dim ond o fewn y Cynulliad fel sefydliad, ond, wrth gwrs, ar draws cymdeithas yn ehangach.